Mae sawl math o Alopecia: Alopecia Areata – colli gwallt sy’n ymddangos fel cylchoedd bach moel ar y pen; Alopecia Totalis – colli gwallt y pen i gyd; Alopecia Universalis – colli gwallt y pen a’r corff i gyd.
Am amser hir, dywedais wrthyf fy hun nad oedd colli gwallt yn rhywbeth y dylwn i siarad amdano. Nid yw’n fygythiad i fywyd, felly pam y dylai effeithio arna i? […] Ond y gwir yw, mae’n effeithio ar iechyd meddwl.
Mis Medi yw mis codi ymwybyddiaeth am Alopecia, cyflwr lle mae person yn colli gwallt.
Mewn byd lle mae hunan-ddelwedd mor bwysig, mae’n gyflwr anodd ac heriol iawn.