Byw Gyda Alopecia
Mis Medi yw mis codi ymwybyddiaeth am Alopecia, cyflwr lle mae person yn colli gwallt. Mae sawl math o Alopecia: Alopecia Areata – colli gwallt sy’n ymddangos fel cylchoedd bach moel ar y pen; Alopecia Totalis – colli gwallt y pen i gyd; Alopecia Universalis – colli gwallt y pen a’r corff i gyd.
Mae nifer o bobl yn byw gyda’r cyflwr ond mae’n dipyn o ddirgelwch yn y byd meddygol o hyd. Mae nifer yn meddwl mai ‘’ sy’n achosi Alopecia ond afiechyd hunanimíwn yw Alopecia, lle mae’r corff yn methu adnabod ei gelloedd ei hun ac yn dinistrio’r gwallt. Mae’n gallu bod yn genetig.
Ers dros ddegawd rwyf wedi byw gyda Alopecia Totalis, cyflwr lle mae person yn colli gwallt y pen i gyd. Roedd fy mhrofiad o golli gwallt yn un eithafol ac arswydus i ddweud y lleiaf. Ar y dechrau do’n i ddim yn gwybod beth i’w wneud am y gorau na sut i ymdopi gan fod fy edrychiad yn newid o ddydd i ddydd! Mwy na hynny, roedd fy rheolaeth dros beth oedd yn digwydd wedi mynd yn gyfan gwbl.
Ar y dechrau, defnyddiais fy holl egni i geisio cuddio’r ffaith fy mod i’n colli gwallt ac ro’n i’n flinedig iawn wrth esgus bod yn normal. Roedd siarad am yr Alopecia mor anodd a’r dagrau mor agos. Doedd dim ffordd o’i guddio. Teimlais yn anobeithiol a diflas gan gasáu sut ro’n i’n edrych. Teimlas yn fethiant, fel bod yr Alopecia yn adlewyrchu gwendid yn y ffordd ro’n i’n ymdopi gyda bywyd. Roedd y sioc o golli gwallt yn un enfawr. Edrych yn y drych a gweld dieithryn salw yn syllu yn ôl arnaf. Teimlo’n ofnus wrth weld newid mor eithafol; embaras a chywilydd wrth edrych mor wahanol. I ddweud y gwir, yn y dyddiau cynnar cuddio o’r byd oedd yr unig beth ro’n i eisiau ei wneud.
Wrth ddod i dderbyn a dygymod â’r cyflwr, dw i ddim wedi cuddio fy Alopecia; mae’n ormod o beth i’w guddio. Ar y dechrau, canolbwyntiais ar un diwrnod ar y tro; ceisio gwneud pethau normal er mwyn i’m bywyd deimlo’n fwy normal eto. Nid pawb oedd yn sylweddoli faint o ymdrech ac egni roedd hwn yn ei gymryd. Mae’r gwallt yn rhan annatod ohonom ni i gyd ac mae ei golli yn brofiad heriol ofnadwy. Erbyn hyn, rwy’n deall mai cyflwr hunanimíwn yw Alopecia ac felly does dim angen teimlo cywilydd nac embaras.
Gan ein bod ni’n byw mewn byd lle mae hunan-ddelwedd mor bwysig, mae byw gyda’r cyflwr yn heriol ac yn anodd iawn ar adegau. Mae gan Alopecia y botensial i danseilio hunan hyder ac i effeithio ar hunan-ddelwedd. Ar ôl byw gyda’r cyflwr am gymaint o flynyddoedd, dyma rai pethau pwysig rwy wedi’u dysgu wrth ddygymod ag Alopecia.
- Mae’n bwysig siarad ag eraill gan rannu eich profiadau a theimladau.
- Peidiwch a diystyru eich teimladau. Gwnewch yr hyn ry’ch chi’n hyderus i’w gwneud.
- Cofiwch: nid chi yw’r unig berson sy’n dioddef o’r cyflwr. Mae nifer o wefannau gwerthfawr sy’n cynnig cefnogaeth, gwybodaeth, cymorth a chyngor ar Alopecia.
- Mae’n bwysig gofalu am eich hunan, cadw at drefn ddyddiol a chadw i fynd.
- Cofiwch fod yn garedig gyda’ch hunan gan dderbyn na fydd pob diwrnod cystal. Mae’n hollol normal i gael diwrnodau da a diwrnodau anodd. Byddwch yn ffrind da i’ch hun.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn neilltuo cyfnodau tawel yn rheolaidd er mwyn ymlacio, cydnabod teimladau a magu egni newydd.
- Mae’n amhosib rheoli popeth mewn bywyd! Mae llawer o bethau na allwch eu rheoli o gwbl. Rhaid derbyn hyn.
- Mae’n bwysig bod yn ddiolchgar am yr hyn sydd gennych. Mae unrhyw golled yn eich dysgu i fod yn werthfawrogol.
- Nid gwallt yn unig sy’n gwneud person. Mae modd bod yn hapus hyd yn oed os nad yw popeth yn berffaith! Cofiwch: does neb yn berffaith.
- Rydych yn gryfach ac yn ddewrach na rydych chi’n feddwl. Rhaid byw bywyd a mynd amdani – mae bywyd yn rhy fyr!