Sianelu iselder drwy fy nghelf
Wrth i’r byd droi ac i amser dicio i ffwrdd, mae’n anodd ffeindio ein ffordd drwy’r byd dechnolegol, technoleg sy’n cynnig gymaint o wybodaeth ar flaen ein bysedd.
Ond er bod hi’n dda cael adnoddau sy’n hawdd i’w defnyddio, does dim digon o gymorth allan yna i ddal i fyny gyda ein abledd dynol.
Fel aderyn sy’n byw mewn cawell fechain, heb awyr i hedfan drwyddi, fe wneith yr aderyn bigo ei hun a thynnu ei blû, mae yr un un peth yn digwydd i ni. Wrth i ni dreulio mwy o amser ar y Wê, i ffwrdd o’n cymunedau a’n hardaloedd, y lleia’ rydym yn gallu ymdopi gyda’n iechyd meddwl. Mae rhai (fel fi fy hun) yn tynnu eu gwallt ac/neu pigo eu gwinedd. Mae’n bwysig iawn cael cysylltiad ddynol ac i gymdeithasu.
Ond sut fedrwch chi darganfod eich hun pan mae diwylliant yn troi o amgylch technolegau newydd?
Rydw i’n credu ei bod hi’n bwysig gwneud pethau ar achlysuron, mae’n wir bod y Wê yn hynod o handi i ddarganfod pobl sydd efo yr un diddordebau, ac i gysylltu gyda materion sy’n agos i’ch calon, ond os rydych yn gludo eich pennau ar y sgrîn trwy’r adeg, mae’n gallu effeithio chi a throi chi fel zombie sydd mond yn bodoli.
Mae yna ddigon o bethau fedrwch chi ‘neud i lenwi eich bywydau, pethau fedrwch chi ‘neud gyda eich dwylo, fel pwytho, gweu, crochenwaith, darlunio, peintio, cerflunio, creu gemwaith, ysgrifennu storïau a llawer mwy. Unrhywbeth i gadw’r ysbrydoliaeth i fyny, ond dwi’n deall ei bod hi’n anodd i rai ddarganfod cymhelliant i godi a gwneud rhywbeth oherwydd maent yn teimlo’n ddi-nerth, ond y cam cyntaf yw i orfodi eich hun.
Un ffordd dwi’n taclo iselder, pryderon ac OCD yw i sianelu fy rhwystredigaeth drwy’r gelf.
Gyda celf, mi fedrai ganolbwyntio ar rhywbeth sy’n cadw fy nrhafferthion i ffwrdd – dwi ddim yn dweud bod cadw eich hun yn brysur yn trwsio pethau cant y cant, ond mae’n helpu.
Dim ots os nad ydych yn dda gydag unrhyw grefft, beth sy’n bwysig yw eich bod chi’n dal ati i greu rhywbeth, oherwydd wrth gadw eich ymenydd yn brysur, mae o’n helpu cadw chi’n actif ac yn rhoi teimlad o bwrpas i’ch bywyd.
Rhŷn Williams
Cymrwch olwg isod ar rai o waith talentog Rhŷn Williams. (Facebook: Rhyn Williams Art)