Salwch cronig: Beth nawr? 

Rhybudd cynnwys: trais rhywiol

IUI? Hysterectomy? Menopos Cemegol? A ydw i’n mynd i allu cael babi? Bydda i mewn poen fel hyn o hyd? Beth nawr?

Dwi’n credu bod llu o gwestiynau fel fy nghwestiynau i yn eitha’ cynrychioladol o brofiadau menywod eraill ar ôl derbyn diagnosis o Endometriosis, ond prin mae pobl yn siarad am y cyflwr. Dwi’n teimlo ei fod yn hen bryd i newid hynny, am fod 1 ym mhob 10 yn dioddef.

Dwi wedi bod mewn poen cyson ac ar foddion lleddfu poen cryf iawn am flynyddoedd ac wedi dioddef gyda phoen pelfig ofnadwy, a phoen cryf yn fy nghefn, fy nghluniau a lawr fy nghoesau ers i mi fod yn fy arddegau cynnar, ac i fod yn berffaith onest, mae wedi parhau ers hynny, gan waethygu o ran difrifoldeb. Ar hyn o bryd, mae’n rhaid fy mod yn cymryd meddyginiaeth lleddfu poen ‘Opiates’ jyst er mwyn ymdopi o ddydd i ddydd, gallu codi, cael cawod, gwisgo a.y.b. Mae gennyf anabledd o’r enw Cerebral Palsy, felly o’n i o hyd yn meddwl oedd y poen ofnadwy o’n i’n dioddef trwy’r amser o ganlyniad i fod yn anabl, oherwydd taw poen cyson oedd fy ‘normal’ i. Mae gen i grymedd (Curvature) o fy asgwrn cefn oherwydd fy anabledd, felly roedd pawb yn dweud o hyd bod fy mhoen yn ganlyniad o gael problemau â ffisioleg fy nghorff yn hytrach nag oherwydd bod gennyf salwch cronig.

Penderfynais i fynd yn ôl at y meddyg teulu er mwyn derbyn cymorth pellach yn ddiweddar, ar ôl i drais rhywiol achosi flare-up mor ddifrifol gyda fy symptomau i’r fath raddau o’n i mewn gormod o boen i gerdded, o ganlyniad i faint o straen profais i yn ymdopi gydag ôl-effeithiau’r trais, o ran mynd at yr heddlu a.y.b. Dwi’n credu ei fod yn bwysig nodi rhai o’r ffactorau sy’n gallu gwaethygu’r cyflwr, e.e profi straen parhaol dros gyfnod hir. Pan ddihunais gyda phoen pelfig ofnadwy a phoen lawr fy nghefn a choesau diwrnodau ar ôl mynd i’r heddlu o ganlyniad i’r gamdriniaeth rywiol, o’n i’n gwybod yn syth taw straen y sefyllfa oedd yn gwneud y boen yn waeth.

Ges i gynnydd mewn symptomau sy’n nodweddiadol o Endometriosis, sef gwaedu ar ôl mynd i’r toiled, poen nerfol, gwaedu trwm a.y.b. O’n i eisoes yn ymwybodol am y cyflwr, felly o’n i wirioneddol yn dechrau tybio taw Endometriosis oedd gennyf, o ystyried fy mhoen gryf yn fy mhelfis a lawr fy nghoesau a chefn, a hefyd y gwaedu trwm oedd y cael effaith negyddol ar ansawdd fy mywyd erbyn hyn.

Cafodd ei awgrymu i mi fy mod yn dioddef o sawl clefyd gwahanol, pan o’n i’n gwybod taw Endometriosis oedd y cyflwr, felly wrth adlewyrchu, dwi’n falch iawn o’r ffaith fe wnes i sefyll lan dros fy hun yn fenyw mor ifanc fel o’n i’n gallu derbyn y driniaeth feddygol addas. Ar ôl i mi dderbyn gwybodaeth am faint o amser byddwn i’n aros am ddiagnosis ar y GIG, penderfynais i dalu’n breifat er mwyn gweld gynaecolegydd – un o’r penderfyniadau gorau dwi erioed ‘di ‘neud! Derbyniais fy niagnosis dros dro o Endometriosis, â’r doctor yn dweud bod angen i mi gael llawdriniaeth ‘Laparoscopy’ cyn gynted ag sy’n bosib er mwyn cadarnhau a thrin y cyflwr. Yn anffodus, derbyniais i’r wybodaeth byddwn i’n aros 8.5 o flynyddoedd am lawdriniaeth ar y GIG, ac felly wedi gorfod gwneud y penderfyniad i dalu’n breifat am y driniaeth. Dwi’n ddiolchgar bob dydd am y ffaith oeddwn i hyd yn oed yn gallu ystyried gwneud hynny, mae llawer o fenywod ag Endometriosis yn dioddef yn dawel oherwydd nid yw eu sefyllfa ariannol yn galluogi nhw i dderbyn help.

Derbyniais i ddiagnosis o ‘Vaginismus‘ ar yr un pryd, sef cyflwr sy’n achosi poen ac anghysur gydag unrhyw beth sy’n treiddio’r wain, e.e. wrth gael rhyw, defnyddio tampon neu yn ystod sgrinio serfigol. Mae Endometriosis fel cyflwr eisoes yn gallu achosi poen ac anghysur i fenywod wrth gael rhyw, ond mae’n gyffredin i beidio â mynd i’r doctor, boed hynny allan o embaras neu oherwydd ei fod yn cael i’w normaleiddio.

Derbyniais i’r newyddion bod ansicrwydd ynghylch os ydw i’n mynd i allu cael babi ar yr un pryd, â meddygon yn gofyn i mi “A fyddet ti mewn sefyllfa i gael babi nawr, achos nad ydyn ni’n siŵr beth fydd dy sefyllfa mewn pum mlynedd?”. Roedd yn anodd clywed, yn enwedig fel menyw eitha’ ifanc hefyd oherwydd teimlais oedd fy amser i allu cael babi yn ‘Rhedeg mas’ fel petai, ac i raddau, dwi dal yn teimlo’r un ffordd. Dwi o hyd wedi gorfod ymdopi gyda phrofiadau eithaf dwys, ond roedd hyn yn teimlo’n wahanol eto. Es i o feddwl am wahanol ddulliau o reoli fy mhoen yn ddyddiol, o ystyried gwahanol ddulliau o gael plant, yn ogystal ag ystyried os fyddai hwnna hyd yn oed yn bosibilrwydd i mi. Roedd fy meddwl i yn teimlo fel llif cyson o ystyried IUI, mabwysiadu a faint o amser roedd gennyf cyn i mi ‘Rhedeg allan o amser’ fel petai. Bydde hwnna siŵr o fod yn dod ar draws fel rhywbeth od i fenyw mor ifanc ddweud, ond ar ôl clywed o’r doctor bod rhaid i mi feddwl am gael plant yn gynt oherwydd eu bod nhw’n ansicr beth fydd fy sefyllfa mewn blynyddoedd i ddod, dwi ‘di gorfod ystyried pethau mewn ffordd wahanol. Byswn i’n dweud bod elfen o deimlo’n grac gyda fy nghorff ac mae rhan ohona i yn cwestiynu fy ngwerth fel menyw oherwydd sa i’n gwybod os fydda i’n gallu beichiogi, dwi i raddau yn teimlo bod llai o werth gennyf fel menyw oherwydd fy sefyllfa, er dwi’n gwybod na ddylwn i deimlo fel hwnna.

Dwi wedi bod yn mynd i gwnsela oherwydd fy iechyd, ac un peth defnyddiol dwi wedi ei ddysgu yw bod pob un teimlad yn berffaith iawn, hyd yn oed os ydych chi’n teimlo ‘Dylech’ chi deimlo fel ‘na neu beidio. Mae gennych chi hawl i’ch teimladau ac emosiynau o hyd, plîs cofiwch hynny.

Dwi’n credu bod pobl yn gweld Endometriosis fel mislif gwael ac yn rhywbeth mae menywod yn profi unwaith y mis, ond mae’r boen yn gyson, ac yn wahanol i sut mae pawb yn meddwl am Endometriosis, yn y modd ei fod yn rhywbeth cyson. O safbwynt rhywun sy’n dioddef yn ddyddiol oherwydd y cyflwr, mi allwn i ddweud gyda sicrwydd nad profiad unwaith y mis yw Endometriosis. Archwiliadau pelfig aml, gwaedu ar ôl mynd i’r toiled, mislifoedd mor drwm a phoen i’r fath raddau fy mod i wedi gorfod mynd i mewn i’r ysbyty ar sawl achlysur, gwaedu trwy fy nillad yn y gwaith, poen pelfig sy’n fy atal rhag cerdded, dibynnu ar foddion leddfu poen opiates…. Dyma rhai o’r symptomau dwi’n dioddef ohonyn nhw’n ddyddiol fel menyw ag Endometriosis.

Yn ddiweddar, bues i yn yr ysbyty ar ôl pasio leinin fy ngroth gyfan yn ystod mislif. Awgrymodd sawl doctor gwahanol fy mod yn cael camesgoriad, er y ffaith o’n i’n gwybod yn iawn taw nid dyma oedd y sefyllfa. Ar ôl esbonio doedd dim siawns fy mod yn feichiog ac nad oeddwn yn colli babi, dywedon nhw bo’ nhw’n flin, ond bod menywod ag Endometriosis yn dioddef â gwaedu hynod drwm, a’i fod yn un o effeithiau anffodus o gael y cyflwr.

Mae gwaedu parhaol dros gyfnod estynedig, agos at ‘Haemorrage’, wedi fy ngadael yn dioddef o anaemia difrifol, i’r fath raddau lle mae angen i mi gymryd moddion haearn hynod gryf am y tymor hir. O beth dwi’n ei ddeall, ‘dyw hyn ddim yn anghyffredin i fenywod ag Endometriosis. Dwi’n credu yn fwy na dim, rhwystredigaeth dwi’n teimlo oherwydd bod gan bobl diffyg ymwybyddiaeth am y cyflwr, a rhwystredigaeth hefyd oherwydd bod effeithiau’r cyflwr ambell waith yn cael ei weld fel tabŵ.

Dwi’n credi ei fod yn bwysig nodi bod dim pwysau ar neb i orfod ‘labelu’ profiadau lle ddigwyddodd camdriniaeth rywiol neu ymosodiadau o’r fath, ond fe wnaeth gwasanaethau Rape Crisis fy helpu i’n fawr o ran dod i ddeall mwy am natur troseddau o’r fath, a hefyd dod i ddeall mwy am y bobl sy’n eu cyflawni. Fel yn fy achos i, gall camdriniaeth rywiol ddigwydd yn raddol, ac wedyn cyn eich bod chi wedi gallu cael gafael lawn ar beth sy’n digwydd, rydych chi mewn sefyllfa lle mae camdriniaeth rywiol yn cymryd lle.
Dyma ychydig o wybodaeth wnaeth fy helpu i ar ôl fy mhrofiad o gamdriniaeth rywiol:
  • Golyga caniatâd rhywiol eich bod chi’n rhoi “ie” clir i unrhyw fath o weithred rywiol. Os nad ydych wedi rhoi caniatâd clir ac mae person arall dal yn parhau i gyflawni gweithrediadau o natur rywiol, wedyn ystyrir hynny yn naill ai drais neu ymosodiad rhywiol o ryw fath.
  • Nid yw ffactorau eraill yn cyfri tuag at roi caniatâd. E.e. Bod yn feddw, gwisgo eitem o ddillad sy’n dangos y corff neu fod yn briod i’r person sy’n gweithredu’r gamdriniaeth yn ei gyfiawnhau. H.y. Does dim ots beth oeddech chi’n gwneud neu wisgo ar adeg y gamdriniaeth. Does dim bai ar neb sy’n profi camdriniaeth rywiol, BYTH. 
  • Mae’r weithred o gyflawni gweithred rhywiol yn erbyn rhywun arall heb eu caniatâd nhw yn drosedd.
  • Mae dal yn cyfri fel camdriniaeth os na ddywedodd yr unigolyn oedd yn profi’r gamdriniaeth “Na”.

Yn fy achos i, ni ddywedais i “Na” i’r dyn wnaeth fy nghamdrin i, ac ar adeg y gamdriniaeth, teimlais i’n euog am hyn. O’n i’n ofn dweud rhywbeth rhag ofn iddo ymosod arna i ymhellach, rhywbeth sy’n gyffredin iawn ymysg goroeswyr o drais rhywiol. O ran yr effaith a gafodd hyn arna i, teimlais i gywilydd, oherwydd fe wnes i ‘Rhewi’ yn ystod y gamdriniaeth, rhywbeth arall sy’n gyffredin iawn. Dwi’n cofio teimlo’n frwnt hefyd, ac o beth dwi’n ei ddeall, mae hyn yn gyffredin ymysg goroeswyr trais a chamdriniaeth rywiol. Wrth gwrs, nawr dwi’n llwyr ymwybodol bod profi a goroesi camdriniaeth rywiol yn ddim byd i deimlo’n frwnt, nac i deimlo cywilydd amdano, dwi’n gweld fy nghryfder ar ôl i mi ei oroesi.

Dwi’n teimlo’n eitha’ cryf, a dwi’n credu taw dyma yw un o’r adegau cyntaf yn fy mywyd lle dwi’n gweld y cryfder a’r gwytnwch mae pobl eraill o hyd wedi dweud sydd gennyf. Sa i’n teimlo fel yr un fenyw o’n i, cyn y trais rhywiol a’r ansicrwydd ynghylch os ydw i’n mynd i allu cael babi, a dwi’n credu bod hynny’n iawn.

Cofiwch, os ydych chi wedi profi trais rhywiol nid eich bai chi oedd hi, mae’r bai arnyn nhw, nid ni!

Gwybodaeth am symptomau Endometriosis

  • Mislifoedd trwm a phoenus
  • Blinder
  • Poen yng ngwaelod y cefn a phoen lawr y coesau, o bosib yn ystod y mislif, ond fe all fod trwy’r amser
  • Poen pelfig sy’n gwaethygu yn ystod y mislif, ond fe all fod yn bresennol trwy’r amser hefyd
  • Poen yn y cluniau
  • Poen a gwaedu wrth fynd i’r toiled
  • Gwaedu o’r rectwm
  • Poen yn ystod ac ar ôl cael rhyw
  • Bola’n chwyddo
  • Symptomau UTI’s yn ystod mislifoedd
  • Poen wrth basio wrin
  • Anffrwythlondeb, neu gymryd mwy o amser na’r disgwyl i feichiogi
  • Teimlo’n sâl a chwydu

Gwybodaeth a chymorth pellach am drais rhywiol

 (Cyhoeddwyd rhannau o’r blog hwn yn wreiddiol ar dudalen @endo_a_ni)