Dwi’n credu bod pobl yn gweld Endometriosis fel mislif gwael ac yn rhywbeth mae menywod yn profi unwaith y mis, ond mae’r boen yn gyson.
Byddwn i bendant yn dweud bod siarad â rhywun yn angenrheidiol – mae’n helpu wrth gymryd natur frawychus y meddyliau i ffwrdd ychydig pan mae rhywun yn ymwybodol!