Pwysigrwydd ffrindiau

Dwi ‘di trio sgwennu rhwbeth i’r blog yma o’r blaen, ond oni byth yn teimlo’n hollol gyfforddus efo ymestyn allan a rhannu fy stori tan nawr. I fod yn honest, oni byth yn siŵr sut i sgwennu am fy mhrofiadau iechyd meddwl. Felly dwi ddim am wneud hynny. Dwi’n mynd i sgwennu am sut dwi di gwella a’r person sy’ wedi helpu fi trwy bopeth.

Blwyddyn yn ôl, oni ddim mewn lle da ac oni heb fod am ychydig o flynyddoedd. Dwi’n gwbod nawr bod hwnna achos bod gen i orbryder, gorbryder cymdeithasol ac wedi dioddef o byliau o banig (ac o bosib wedi dioddef o iselder a gorflinder hefyd), efo dim hunan-hyder a’r teimlad bod fi’n ddi-werth, ac ar ben fy hun – odd gen i un ‘ffrind’ da ond odd ein perthynas yn toxic ac oni’n teimlo mor unig. Ym mis Mawrth blwyddyn yma nes i neud y penderfyniad i gymryd fy mywyd, ond nes i ddim.

Nes i ymestyn allan i ffrind newydd yn lle. Byddwn i ddim yn fyw heddiw hebddi hi.

Un peth dwi ddim yn gweld lot am arlein yw pwysigrwydd ffrindiau da i’r broses o wella. Ma’ delio efo salwch meddyliol yn rhywbeth anodd iawn ar ben eich hunan, ond ma hi’n haws efo ffrind da. Ma’r ffrind newydd dwi’n cyfeirio at uchod yma nawr yn ffrind gore fi. Hi yw’r person cynta’ dwi erioed di wir agor fyny iddynt a dwi’n cal y teimlad mai hi yw’r ffrind cynta’ i wir boeni amdana i. Efo’i help hi, dwi ‘di llwyddo adnabod fy hun a fy iechyd meddwl yn well, ac yn bwysicach, dwi ‘di llwyddo cael help proffesiynol.  Ma’ hi di gwrando ar fy mhroblemau i gyd. Ma’ hi ‘di rhoi cymorth pryd o’dd angen cymorth. Ma’ hi ‘di dangos empathi a chydymdeimlad.  Ma’ hi ‘di dangos bod gen i werth a phwysigrwydd yn y byd, a ‘mod i’n haeddu pethe da.

Fy ffrind gore nath brofi i fi bod pethe yn gwella. Ma hi’n amhosib i roi mewn i eiriau pwysigrwydd fy ffrind gore i fi.

Oni ddim yn meddwl byse fi erioed yn gweld 22. Mis dwetha nes i gal fy mhenblwydd yn ddwy ar hugain. Oni ddim yn meddwl byse fi erioed yn hapus eto. Ma’ hi di bod tua mis ers i fi gal diwrnod ble oni ddim yn teimlo’n hapus. Os odd rhywun di dweud wrtha i blwyddyn dwetha bysai gen i’r ffrind gore yn y byd a byddai’n hapus, byddwn i ddim ‘di credu nhw o gwbl. Oni’n anghywir a dwi mor falch am hwnna.

Dwi ‘di sgwennu yma am sut ma’ fy ffrind gore di helpu fi, ond ma hi’n bwysig cofio bod cyfeillgarwch ddim yn ‘one-way street’. Ma hi’n bwysig i fod yn ffrind da, yn enwedig i bobl efo problemau iechyd meddwl. Gofynnwch wrth eich ffrindiau sut ma’ nhw’n teimlo. Gwrandewch ar eich ffrindiau. Helpwch eich ffrindiau, neu helpwch nhw i ffeindio help proffesiynol. Gall pethe bach fel chat byr fynd yn bell iawn. Os ma gennych chi ffrind sy’n eitha unig, yna cyflwynwch nhw i ffrindiau arall ti’n nabod, helpwch nhw neud ffrindiau. Os da chi’n gweld person sydd angen ffrind yna estynwch allan iddyn nhw. Dyna be nath fy ffrind gore i fi, a dyna rhwbeth dwisio neud i rywun arall rhyw dydd.

Sai’n ffrind mor dda â fy ffrind gore i eto. Dwi dal yn intense a bach o niwsans weithiau, ond dwi’n trio gwella. Ma’ o’n cymryd lot o waith i fod yn ffrind da, ond ma hi’n werth neud achos falle nei di achub bywyd.

Di-enw