Ond be os na wna i gyflawni ddim byd?!

Bore o’r blaen, mi nes i rannu post ar Instagram oedd yn dangos ei bod hi’n 10.30 y bore, fy mod wedi bod yn gorweddian tan hynny ar fy niwrnod ffwr a ‘mod i wedyn yn teimlo fatha ca**u am wneud. Ro’n i’n egluro mod i ddim yn mwynhau lie-ins (na llawer o gyfleon i arafu a bod yn llonydd rili) am fy mod i’n berson sydd methu ysgwyd y teimlad fod rhaid i fi fod yn gynhyrchiol drwy’r amser, ac os dwi ddim mi ddaw’r dreaded euogrwydd mawr. Dwi’m yn siŵr dros bwy na be dwi’n teimlo’n euog ond mae o’n broblem sydd wedi bod efo fi ers blynyddoedd maith, a dw i wastad wedi osgoi delio efo fo drwy gadw’n brysur, ond wrth gwrs nid dyna’r ateb iach yn y tymor hir – a dw i wedi dysgu hynny’r ffor’ anodd yn y gorffennol, yn sicr, drwy orneud hi am rhy hir a gwneud fy hun yn sâl!

Wrth holi am ‘tips’ ar sut goblyn mae cwffio’r euogrwydd yma dros wneud dim neu dros ‘dangyflawni’, mi gesh i ddipyn o ymateb (diolch bobl hyfryd!) ac mi wnaeth na sawl un egluro eich bod union yr un fath a gofyn i mi rannu unrhyw tips dw i yn eu derbyn – felly meddyliais y byddai’n gwneud synnwyr i’w crynhoi er mwyn i bawb sydd â diddordeb gael darllen!

Na i fod yn hollol onest, nid bob ymateb oedd mor helpful a’i gilydd. Roedd yr awgrymiadau i GYD yn dod o le da a dw i ddim am weld bai ar neb, ond mae o’n bwysig bod yn ofalus sut mae pethau’n cael eu geirio – a chyn gwneud jôc ar rhywbeth rydych chi’n ei ystyried yn trivial, cofiwch ystyried a ydy o’n trivial i’r person sy’n gofyn cyngor?

A fydden nhw’n gofyn am gyngor petai o ddim yn rhywbeth sy’n eu pryderu nhw? Mae’r ‘broblem’ yma wedi stopio fi rhag mwynhau bywyd yn iawn ar sawl adeg, gan wneud i fi deimlo mai nid amser i fi ydi fy mywyd siŵr, dw i yma i fod yn ddefnyddiol ac o help i eraill! Felly yn sicr mae o’n bell o fod yn broblem bach i fi, hyd yn oed os ydi o’n teimlo’n fach o’i gymharu â’ch brwydrau chi.

Yn ddifyr iawn, cefais fwy nag un mam ifanc yn ysgafnhau yr hyn o’n i wedi’i rannu gan wneud i fi deimlo petai gen innau blant mi faswn i’n gwerthfawrogi bob lie-in. A be oedd effaith hynny? Mwy o euogrwydd. Euogrwydd mod i’n anniolchgar mod i â mwy o ryddid i ymlacio o’i gymharu â nghyfoedion efo plant. Tu hwnt i’r ffaith fy mod yn tybio nad ateb hawdd i broblem ydi’r mater o gael plentyn, mae’n bwysig i ni fod yn ofalus i beidio ‘shameio‘ ein gilydd ar sail amgylchiadau gwahanol. Os ydych chi wedi dewis cael plentyn, mae hynny’n wych a dw i’n hapus iawn drosoch, ond dydi’r dewis yna ddim yn un dw i wedi ei wneud a ddylwn i ddim felly gorfod teimlo fod gen i ddim hawl i stryglo am y rheswm y galle petha fod yn waeth petawn i â phlentyn.

Dw i’n siwr y bydd ambell un sy’n darllen hwn yn meddwl, ‘blydi hel ma hon yn touchy, dwi’n siwr na jocian oedd y bobl ma‘, ac ia jocian oeddan nhw a dim math o fwriad annifyr yn y byd. Ond, roedd y sylwadau yma’n dod gan bobl sydd ddim yn gwbod llawer amdana i a fy mywyd rili, a rhywbeth darodd fi wrth ddarllen oedd beth petawn i’n un o’r nifer o ferched sydd methu a chael plant? Beth petawn i’n stryglo i drio, yn torri fy nghalon isio? Dw i’n nabod nifer o ferched sydd ddim yn cael siwrne hawdd at ddod yn fam, felly jyst atgoffwr, a chais bach – plis meddyliwch cyn deud. Dydach chi ddim yn gwybod be ydi sefyllfa neb, peidiwch a’i gymryd yn ganiataol. Plis cofiwch hynny, a meddyliwch cyn gwneud jôcs. Os nad ydych yn gallu uniaethu, neu os nad ydych yn teimlo fod gennych gyngor gwirioneddol i’w roi, does wir ddim rhaid i chi ateb.

Beth bynnag, ar ôl cael hynna allan, dyma rannu lot o dips da, gan ddiolch i *bawb* sydd wedi anfon nhw draw:

1. Dilyna Anna Mathur ar Instagram. Mae hi’n sôn dipyn am ‘rest’ a ‘recovery’

Dw i heb gael cyfle i wneud lot o ddarllen eto ond yn sicr wedi sgimio dros ambell bost lle mae hi’n cwestiynu pam ei bod hi’n neidio oddi ar y soffa pan mae ei phartner yn cerdded mewn gan brysuro ei hun i edrych fel ei bod wedi bod yn gwneud rhywbeth cynhyrchiol. Mae hi’n nodi nad ydy ei phartner erioed wedi gwneud unrhyw beth i wneud iddi deimlo felna, ond mai felna fuodd hi erioed. Mae hi hefyd yn nodi nad ydi erioed wedi ei weld o yn neidio yn yr un modd pan fo hi’n cerdded mewn i’r stafell. Dwi’n sicr yn medru uniaethu efo’r profiad yna a dwi’n ama y gwnaiff ddarllen ei stwff hi helpu fi adnabod lle ddechreuodd y broblem i fi.

2. Yoga

Yr un yma ddim yn lot o syrpreis mwy na thebyg, mae yoga bellach yn boblogaidd iawn am ymlacio’r meddwl a mae’n ffordd o ymlacio tra hefyd yn ‘cyflawni rhywbeth’. Mae ‘na fideos di-ri i’w cael ar y we – yn y Gymraeg a’r Saesneg – ac mae wastad modd ffendio sesiwn i gyd-fynd â sut mae rhywun yn teimlo. Ond, os nad yda chi’n berson yoga dw i’n siŵr fod hyn yn wir am bob math o ‘workouts’!

3. Gwylio Queer Eye ar Netflix

Dw i heb gael cyfle i wylio eto (masiwr swni’n teimlo’n euog am ‘neud… LOL) ond yr hyn a ddywedwyd wrthai ydi ei fod yn raglen briliant sy’n seiliedig ar bwysigrwydd hunan-ofal ac yn werth ei wylio. Fydda i’n ceisio blaenoriaethu gwneud yn fuan felly!

4. Darllen/ymddiddori yn y 4 Pillar Plan gan Dr Chatterjee

Er nad ydw i wedi dechrau darllen ei lyfr yn iawn eto, mae’n seiliedig ar gael y balans cywir mewn pedwar elfen o fywyd sef Cwsg, Bwyta, Symud ac Ymlacio. Mae hwn wedi’i argymell i fi gan Sara Maredudd (ei blog gwych hi ar hunan-ofal yma) felly dw i’n gwbod y byddai’n cael budd ohono. Dw i eisoes yn dilyn Dr Chatterjee ar Instagram ac yn gwrando ar bytiau o’i bodcasts o dro i dro. Dw i yn berson efo meddwl reit ‘logical’ sydd yn mwynhau strwythur ac arweiniad felly dw i’n meddwl y bydd rhywbeth pendant i weithio arno yn gwneud lles mawr i fi. Diolch am gael benthyg dy gopi o’r llyfr Sara!

5. Cofia fod gwneud dim yr un mor bwysig a gwneud rhywbeth.

Atgoffa dy hun fod rhaid i ti ‘refuelio’ – deud wrth dy hun drosodd a drosodd fod dy gorff di angen y brêc. Dros amser fe ddaw yn haws i’w gredu. Dw i’n berson sy’n credu’n gryf mai habit ydi rhan fwyaf o’r pethau rydan ni’n eu gwneud felly dw i reit ffyddiog y gallai hyn helpu. I fi, dw i’n meddwl mai cofio gwneud yr atgoffa fasa’r her.

6. Codi’n gynnar, mynd am dro neu gwneud rhywbeth, a chael nap ganol bore os yn flinedig

Dyma dip difyr. Dw i’m yn berson naps (obvs cos swni’n teimlo’n euog) ond dwi’n nabod ambell berson sy’n dda am godi’n gynnar ond sydd yn hapus i gymryd nap wedyn. Mae’n rhaid fod na rywbeth yn yr awgrym yma – siŵr o fod fod yr elfen seicolegol o wybod dy fod wedi gwneud rhywbeth yn dy helpu i fwynhau’r ymlacio y byddet yn ei gael fel gwobr. Y peryg i mi dw i’n meddwl yw na faswn i fyth yn cymryd y nap, ac felly byth yn dal fyny ar y downtime ‘na. Ond mae hynny’n rhywbeth fedr yr awgrymiadau eraill helpu efo dw i’n meddwl!

7. Chwilia am y ‘small wins’

Mae hwn yn gysylltiedig â’r uchod rili ond mi wnaeth na sawl un ei awgrymu mewn ffordd bach yn wahanol. Awgrymwyd bod golchi llestri yn y bore yn un da – hyd yn oed os ti heb gyflawni llawer o ddim byd arall cyn amser cinio, ti wedi golchi llestri ac felly wedi ‘cyflawni’ rhywbeth o leiaf.

Awgrymwyd hefyd i roi 2-3 gôl bach i mi’n hun a wedyn cytuno efo fi’n hun i adael y gweddill tan fory – ma’r cysyniad yma ‘chydig yn ddiarth i fi, mae gen i to do list ongoing anferthol drw’r amser ac os oes na amser ar ôl yn y dydd ma’ fy mrên i’n deud wrtha fi y dylwn wneud jyst un peth arall off y list. Jyst un peth arall a fyddai’n teimlo’n well fory. Ond wrth gwrs, dw i erioed wedi cyrraedd diwedd y list am fy mod yn adio 3 peth am bob un dwi’n groesi ffwrdd.

A dyma gliw i lle ma’r broblem gen i – fy to do lists YDI’R broblem yn y rhan fwyaf o achosion. Dw i wastad wedi bod yn un am roi targedau afrealistig ac afresymol i fi’n hun. Os oes gen i wythnos off gwaith, yn fy mhen i dwi’n mynd i spring cleanio’r ty i gyd, gwneud llwyth o DIY, cerdded 273 o filltiroedd, coginio llwyth o brydau ffafflyd (fatha lasagne, lysh ond what a ffaff), pobi cacennau a rhannu nhw efo cymdogion, golchi’r ardd, plannu llwyth o flodau a herbs, gwneud llwyth o hyfforddiant efo’r ci, sortio fy ffeiliau a’m llunia oddi ar fy ffôn a dewis pa rai i’w hargraffu, darllen o leiaf tri llyfr ayb ayb… wel, dw i di methu cyn cychwyn do?! Mae na ran o mrên i sydd ddim cweit yn derbyn mai un rheswm dros gymryd wythnos i ffwrdd ydi oherwydd MOD I ANGEN AMSER I FFWRDD. OFF. I FFWRDD. YN RHYDD.

Fe awgrymwyd rhaglen radio Elis James a John Robbins ar 5Live i mi hefyd a nodwyd eu bod yn sôn dipyn am to-do lists – ac am y syniad o roi popeth ar y rhestr… brwsio dannedd, cael cawod, byta brecwast etc. Achos mae’r rhain i gyd yn bethau hanfodol ar gyfer edrych ar ôl ein hunain, ac sy’n cymryd AMSER. Felly mae’n rhaid caniatáu amser iddynt ac os wyt ti’n berson sydd angen gallu ticio pethau off er mwyn teimlo’n remotely prodyctif yna pam lai cymryd mantais o’r tasgau beunyddiol sydd rhaid i ti wneud beth bynnag? Dw i’n gwbod yn Sophie land fyny yn fy mrên mod i fel petai bofi’n meddwl wrth sgwennu to-do’s fod gen i Bernard’s Watch* ar gyfer y pethau hanfodol fatha molchi, byta, golchi llestri, nôl negas, a dw i ddim yn ystyried yr amser fydd ei angen arna i jyst i wneud y petha yna wrth i fi lenwi fy rhestr efo’r holl betha na i fyth lwyddo i gyrraedd mewn diwrnod. Pan o’n i’n arfer gweld cwnselydd, mi wnaeth hi adnabod fy habit o osod disgwyliadau afrealistig arna fi fy hun reit sydyn a mi weithion ni ar hynny. Ond mae’n hawdd gadael iddo lithro’n ôl felly’n sicr mi fydd hwn yn un peth fydda i’n rhoi sylw iddo fo rŵan er mwyn fy ngalluogi i ffendio’r small wins. Dywedodd un ffrind ei bod rŵan yn canolbwyntio ar gyflawni un peth ar y to-do list mewn diwrnod pan mae hi ffwrdd o’r gwaith, hyd yn oed jyst smwddio un basged o ddillad neu twtio un cwpwrdd. Mae meddwl am roi fy mryd ar gyflawni dim ond un peth pan mae gen i ddiwrnod off yn gysyniad diarth i fi, ac yn sicr dw i’n gwbod mai’r peth cyntaf sydd angen sylw gen i ydi’r disgwyliadau dw i’n rhoi arna i’n hun.

Ac i orffen, yn hytrach na chyngor, falle oedd hwn yn fwy o atgoffwr? Ond doeddwn i rioed wedi clywed neb yn ei eirio fel hyn o’r blaen, ac mae o mor hyfryd, da chi gyd angen ei glywed o:

Ti’n fwy gwerthfawr na’r hyn ti’n ei greu na’i gyflawni.

Mor syml. Mor amlwg. Ond mor hawdd ei anghofio. Diolch i Eleri James am hwnna, mi wna i gadw hwn yn fy meddwl er mwyn chwilota amdano pan dw i’n cael dyddiau fel hyn eto.

A dyna ni – os oes gan unrhyw un dips eraill, mi allwn ychwanegu at y blog yma ar unrhyw bryd felly anfonwch nhw draw! Fel arall, dw i’n wir gobeithio geith rywun arall fudd o’r tips yma – diolch i bawb am gymryd yr amser i anfon nhw draw. Gobeithio allaf i roi diweddariad ar sut mae’n mynd ar fy nhaith at wella hyn rhyw ben!

Hwyl x

*i’r rhai ohonoch sydd ddim yn gyfarwydd efo rhaglen deledu’r 90au Bernard’s Watch, mi gafodd Bernard watsh gan y Postman oedd yn ei alluogi i rewi amser. So pan oedd o wedi cael ei ffrindia draw yn gneud llanast a’i fam ar ei ffor adre o’r gwaith, roedd o’n rhewi’r amser ac yn llnau y tŷ tra fod ei fam wedi ei rhewi ar y lôn rownd gornel. Gwych!

Sophie Ann Hughes