Heddiw
Nes i gyflwyno’n hun i Meddwl am y tro cyntaf nôl yn mis Mawrth 2018. Roedd y Non yna dal i frwydro gorbryder dyddiol, iselder ag odd hi di blino…riiiili wedi blino trio just bod yn fi. Ar ôl rhannu cymaint o’r meddylie horrible (neu gor rhannu falle!) oedd ‘di bod yn mynd rownd a rownd fy mhen ers dwi’n cofio, pethe rili personol a grim, ddaru lot o bobol caredig iawn deud bo fi’n ddewr am neud, ond doeddwn i ddim yn ddewr…o’n i’n desperate a’r rheswm nes i rhannu popeth oedd achos o’n i isio help …a ges i lot o hynna, a lot o chefnogaeth. Diolch i Meddwl a’r gymuned gorjys yma. A byddai’n ddiolchgar am y gofod yma i neud hynny am byth, achos beth nath y blog yna oedd neud imi weld nad on i ar ben fy hun. Bod lot o bobol yn teimlo fel fi ac yn deall. A bod pobol yn garedig.
Bwriad yr un blog bach yna oedd i neud dim mwy na just trio ‘byw’ achos doeddwn i ddim yn gwybod sut i neud ar y pryd, ond nath o newid popeth. POPETH! Yn sydyn iawn o’n i’n bobman yn ‘gor- rhannu’ am fy iechyd meddwl , ysgolion, prifysgolion, Eisteddfodau..Heno ..Decharu Canu Dechrau Canmol even! A wedyn nes i sylweddoli bod lot o bobol isio rhannu eu straeon hefo fi, ond doeddwn i’m yn teimlo’n qualified i neud, felly ETO heb rili meddwl es i ar gwrs ‘basics’ cwnsela am flwyddyn jyst i wybod y ‘do’s and dont’s’. Munud nesa o’n i rhywsut wedi cofrestru ar gwrs M.A yn Seicotherapy…sori be?! (achos on i ofn deud ‘dim diolch’ i’r tiwtor os dwi’n onest! O’n i’n people pleaser ar y pryd!) Ac ar ôl 3 mlynedd ym mhrifysgol Abertawe dwi rwan yn fully qualified Psychotherapist! I MEAN… BE?
Felly pan dwi’n deud bod cysylltu hefo Meddwl wedi newid fy mywyd dwi ddim yn bod yn dramatic. Dwi di cael y fraint o fod yn aelod o’r tîm anhygoel, caredig a phwysig yma dros y blynyddoedd diwethaf a dwi mor falch a diolchgar am eu cyfeillgarwch a’u pwrpas nhw. A dwi’n gyffroes i barhau i gyfrannu a rhannu mwy o’u gwaith amhrisiadwy nhw hefo chi. Mae nhw’n sbesial iawn iawn. A mae bod yn rhan o’r tîm yn meddwl y byd imi.
A felly dyna ydy pwrpas y blog yma i fod yn onest. Dwi di bod mor brysur gyda cyflawni’r gradd meistr (yn ogystal â symud ty a recordio albwm newydd Eden WOOP! ) dros y flwyddyn diwethaf dwi di bod yn dawel iawn ar y platfform brilliant yma ag o’n i’n teimlo bo fi isio rhyw fath o ailgyflwyno fy hun i bawb…a nid jyst hynna ond ail gyflwyno fy hun i fi!
Roedd 2023 yn flwyddyn nuts gyda’r holl waith dwi di rhestru uchod ond hefyd nôl yn Chwefror llynedd ges i ddeiagnosis o awtistiaeth ddaru hefyd newid pethe eitha lot! I fod yn onest dim ond rwan dwi di ffeindio’r gallu i fedru esbonio ychydig sut beth oedd hynna. Gyda help HIWJ blwyddyn o therapi dwi wedi prosesu rhywfaint trwy pob mathe o emosiynau. O’n i’n flin, roedd teimladau o alar, rhyddhad, a thristwch bod fi di gwastraffu cymaint o flynyddoedd yn meddwl bo fi wedi torri a jyst methu ‘neud bywyd’ fel pawb o’m cwmpas…neu o leiaf fel yna odd hi’n teimlo i fi. O’n i’n flin nid achos bod gen i awtistiaeth ond bod neb wedi sylwi a helpu, ac o’n i’n embarrassed bo fi wedi hyd yn oed trio bod yn ‘typical’ be bynnag mae hynna fod i feddwl, pan dwi’n ‘atypical’ …eto…be bynnag mae hynna fod i feddwl. Roedd o’n teimlo fel bo fi wedi treulio oes yn trio bod yn sebra mewn cau llawn sebras pan actually mûl ydw’i sydd di peintio stripes drosta fi! Embarrassing.
Roedd na lot o deimladau cymysg a dwi’n gwybod dwi’n swnio’n pissed off hyd yn hyn! OND be ddaeth hefo’r deiagnosis oedd ‘Ooooooo…ie…mae hynna’n neud sense!!’ Y gorbryder, a gorbryder cymdeithasol, hyper focus, licio bod ar ben fy hun, y trafferth neud ‘chit-chat’…mae’r rhestr yn mynd ymlaen ond sdim rhyfedd o’n i’n teimlo’n wahanol …dwi yn wahanol i lot o bobol! A dim bai fi dio!
Sy’n dod a fi nôl at y ‘blin thing’!! Mae’r diffyg deiagnosis yn aruthrol, a mae cael deiagnosis yn gallu bod yn broses hir sy’n dorcalonus, merched yn benodol wedi cael deiagnosis o iselder, gorbryder, derbyn meddyginiaeth at gyflyrau pan y broblem go iawn oedd y methiant o ddeiagnosis awtistiaeth, felly treulio blynyddoedd yn teimlo ‘be sy’n bod efo FI?’ pan doedd dim byd yn bod gyda NHW. Sy’n dod a fi at bwynt arall, mae’r terminoleg o amgylch ASD yn dal i deimlo’n eitha negyddol …lot o ‘diffyg’ hyn a’r llall. Dwi ddim on board hefo hynna! Sdim diffyg unrhywbeth mewn pobol gyda awtistiaeth…dim ond diffyg dealltwriaeth.
Mae cymaint dwi dal isio rhannu, a cymaint dwi dal i ddysgu am sut dwi’n gweithio a heriau bywyd pob dydd i bobol sy’n atypical.
- Y ‘masgio’ i ffitio mewn
- Gor ysgogiad (over stimulation)
- Pryder gormodol
- Gwyliadwriaeth hyper (hyper vigilance)
- Iselder
- Ymddygiad osgoi (avoidance behaviours)
- Sensitifrwydd swn (noise sensitivity)
- Problemau cwsg
- Burnout
- Meltdowns
- OCD
- Controlling behaviours
- Ysgogi (stimming)
- Newid mewn trefniadau
- Gadael y ty
I restru jysd rhai…ac mae’n amhosib i ‘ddisgrifio’ rhywun gydag awtistiaeth achos da ni gyd yn profi fo’n wahanol, ond be dwi di sylweddoli yw mae PAWB, ASD neu beidio, yn gweithio’n wahanol ..mae mor syml a hynny rili.
Dros y blynyddoedd ac ers imi ‘sgwennu’r blog cyntaf, oherwydd natur y cwrs seicotherapi a’r therapi personol dwi wedi derbyn, dwi wedi cymryd yr amser i dynnu’n hunan ar lêd fatha injan car a thrio ffeindio allan sut dwi’n gweithio. Dwi’n teimlo fel bo fi O’R DIWEDD wedi neud yr ymdrech i ddarllen ‘instruction manual Non’ A mae yn cymryd YMDRECH a dio ddim yn hawdd i ni fentro i’r llefydd anodd nadi? OND galla’i addo yn y pendraw, fflippin ec mae gymaint neisiach i ddreifio’r car yma!
Mae therapi wrth gwrs yn gallu teimlo’n daunting ac yn gallu bod yn gostus os nad ydach chi’n mynd trwy’r NHS. A dwi’n gwybod bod arian yn gallu bod yn brin weithie achos blwyddyn diwethaf odd y blwyddyn mwya skint i fi ever (hence gwerthu’r ty!) Ond be nes i er mwyn gallu talu am therapi oedd peidio prynu dillad am flwyddyn! A dwi’n CARU dillad so that was big for me! Weithie mae’n bosib neud ambell i aberth er mwyn gofalu a gwrando ar beth sy’n achosi i ni beidio ‘rhedeg’ yn hwylus. Da ni’n anfon ceir am MOT …be amdano ni?! Da ni’n bwysig! A hyd yn oed os nad yw therapi yn opsiwn, galla’i ddeud o brofiad bod siarad hefo UNRHYWUN yn gallu newid eich byd. Ffrind, G.P, cydweithiwr…newch chi synnu pa mor debyg mae’n heriau ni gyd yn y pen draw. Os da chi’n stryglo heddiw..siaradwch. Os mae’n teimlo’n amhosibl dwi’n deall..ond sdim byd yn amhosibl. Camau bach.
Mae’r llun dwi wedi ddefnyddio gyda’r blog yma yn un rili pwysig i fi. Roedd Eden yn perfformio yn Clwb Ifor Bach mis Chwefror diwethaf, jyst ryw 3 awr ar ôl i fi gael y deiagnosis o awtistiaeth. A dwi ‘rioed wedi teimlo mor gyfforddus …mor FI. Felly wrth imi ddathlu penblwydd yn 50 eleni (waw…oce) dwi’n ddiolchgar i Meddwl am y cyfle i gael ail gyflwyno’n hun i chi eto. Dwi dal i ddysgu a thrio pethe newydd wrth imi weithio trwy ‘instruction manual Non’. Yr arferol…symud y corff…llai o siwgr… mwy o fitamin D…cerdded mewn natur…dwi di stopio yfed alcohol… ond mae hynna’n flog arall! A mae pethe’n dechre gweithio! Ac i rhai ohonoch chi sy’n cofio’r llais horrible yna oedd yn byw yn fy mhen, wel dwi di cael gair efo fo …idiot..‘pwy ff*c odd o’n meddwl oedd o?! ‘oce tra nawr llais’ Ag wrth imi landio yn be sy’n teimlo fel ‘second act Non Parry’ be dwi’n gwybod yw hyn…dwi di treulio oes yn bihafio fel o’n i’n meddwl o’n i fod bihafio…ag odd hwnna’n SHIT! Mae disgwyliadau cymdeithasol a systemau hynafol a diffyg dealltwriaeth yn gallu torri ysbryd pobl …mae beth bynnag sy’n neud ti’n ‘wahanol’ mooooor werthfawr. Sa neb fel ti. Dim ti sydd angen newid. Diffiniad ‘atypical’ yw ‘not conforming to type’ – WELL COUNT ME IN! Felly dwi am gambihafio go iawn rwan…mae LOT mwy i ddod….byddwch ofn!!
A diolch tîm Meddwl , da chi’n absolwt SER. A C’MON 2024!