Effaith nam golwg ar fy iechyd meddwl
Rhannol ddall, dall ac anabl, dyma rhai o’r labelau sydd wedi diffinio sawl agwedd o’m mywyd i ers i fi gael y diagnosis o’r cyflwr llygaid dirywiol, Retinitis Pigmentosa (RP), pan oni’n chwe mlwydd oed.
Dwi wedi bod yn berson reit hapus a positif erioed ond dwi methu cuddio’r ffaith bod tyfu i fyny hefo anabledd wedi bod yn sialens ac mae o’n rhywbeth sydd wedi cael effaith ar fy iechyd meddwl mewn mwy na un ffordd.
Dwi wedi bod yn berson distaw ers pan oni’n blentyn a dydi magu hyder erioed wedi dod yn hawdd i mi ond pan nes i ddechrau cael fy mwlio oherwydd fy nam golwg, fe wnaeth o brofi i fod hyd yn oed yn fwy anodd i fynegi fy hun. Roedd y sylwadau câs a’r chwerthin oherwydd bod fi wedi baglu dros rhywbeth gan bod fi heb ei weld yn dechrau cael effaith mawr ac er fy mod yn trio eu cau nhw allan, roedd y sylwadau yn gwneud i mi deimlo’n ddibwys ac fel fy mod i ddim yn perthyn.
Roedd pobl yn fy nhrin i’n wahanol oherwydd fy anabledd, roedd plant yr un oed a fi hyd yn oed yn siarad hefo fi fel fy mod i’n blentyn bach, gweiddi oherwydd bod nhw’n meddwl bod fi methu clywed yn ogystal â methu gweld. Actio’n neis i ‘ngwyneb ac yna gwneud sylwadau câs tu ôl i’n nghefn i, ddim yn deall fy mod i’n clywed y sibrydion.
Roedd cael fy nhrin fel hyn yn gwneud i mi deimlo ofn – ofn cerdded mewn i ystafell oherwydd bod fi methu gweld neb oedd yna ac yn gwybod byddai neb llawer yn fodlon helpu.
Un o symptomau mwyaf cyffredin RP ydi dallineb nos felly pan ma unrhywle yn dywyll neu rhannol dywyll, dwi methu gweld dim ac roedd hyn yn golygu bod fi’n gwrthod cyfleoedd i fynd allan gyda fy ffrindiau gyda’r nos rhag ofn i fi eu colli nhw, rhag ofn i ni fynd i rywle swnllyd a fyddai’n golygu fy mod i methu eu gweld nac eu clywed nhw.
Ac wrth gwrs fe wnaeth gwrthod tro ar ôl tro olygu eu bod nhw’n meddwl bod fi ddim isio treulio amser hefo nhw ond i fi, yr unig opsiwn oedd gen i oedd aros adra, roedd o’n haws, roedd o’n golygu bod fi’n saff, golygu fy mod i’n gyfforddus yn fy amgylchedd fy hun, un oni’n gyfarwydd gyda.
Wrth i amser fynd yn ei flaen, roedd fy ngolwg i’n dirywio’n mhellach, doeddwn i methu gweld fy ffrindiau pan oni’n cerdded i’r ffreutur yr ysgol amser cinio ac felly’n eistedd ar fy mhen fy hun. Roedd o’n anodd, doeddwn i ddim yn nabod unrhywun arall hefo nam golwg. Mi oni’n teimlo fel mai fi oedd yr unig un oedd yn ei brofi, meddwl bod ‘na ddim ffordd allan o’r tywyllwch ‘ma oedd yn cael ei greu, nid yn unig yn llythrennol gan fy nam golwg ond hefyd oherwydd y teimlad o unigrwydd oedd i weld yn dod yn fwy amlwg yn fy mywyd i.
Roedd y dirywiad yn fy ngolwg yn gallu cael effaith negatif ac yn gwneud i mi deimlo’n isel ar brydiau.
Mi roedd o’n gwneud i mi deimlo’n wahanol, doeddwn i ddim yn licio’r ffaith fy mod i’n gorfod gwneud newidiadau i ‘mywyd – cael gwaith wedi ei addasu, defnyddio ffon wen pan oni isio mynd allan yn annibynol a gymaint mwy. Ac roedd y teimlad yna o fod yn ‘wahanol’ hefyd yn gallu arwain at unigrwydd.
Daeth y teimlad o unigrwydd hyd yn oed yn fwy amlwg pan oni’n fy mlwyddyn gyntaf yn y chweched dosbarth, mi wnes i ddechrau cael pyliau o banig yn aml ac roedd y teimlad o orbryder yn golygu bod fi ddim isio mynd i’r ysgol a ddim isio gadael y ty.
Mi roeddwn i’n poeni bob dydd bod pobl yn fy meirniadu i oherwydd fy nam golwg, poeni bod y dirywiad amlwg yn fy ngolwg bob dydd yn mynd i feddwl bod pethau am fynd hyd yn oed yn waeth, teimlo fod yr unigrwydd a’r ofn yn mynd i barhau am byth.
Ond hefo amser, nes i sylweddoli fod yna bethau oedd yn gallu fy helpu i deimlo’n well.
Fe wnes i ddechrau dod ychydig mwy agored am sut oni’n teimlo, nes i ddechrau ysgrifennu blog gan fy mod i’n ei weld o’n haws i gyfleu fy hun a fy nheimladau trwy ysgrifennu, a mi wnes i ddechrau siarad hefo pobl eraill oedd yn byw gyda nam golwg, rhywbeth oedd yn gam mawr i mi gan fy mod i’n ei ffeindio’n ofnadwy o anodd i drafod fy mhrofiadau a cael yr hyder yna i siarad gyda pobl newydd.
Mae’r gorbryder dal i fod yna, mae’r teimlad o unigrwydd dal yn dod i’r fei bob hyn a hyn ond dydi o ddim hanner mor ddrwg ac oedd o arfer bod.
Mae’n saff i ddweud bod nam golwg wedi effeithio arna i mewn ffyrdd positif a negatif, dwi wedi bod mewn sefyllfaoedd doeddwn i byth yn meddwl buaswn i’n gallu dod trwy ond rhywsut neu gilydd, mi wnes i a dwi’n trio canolbwyntio ar y pethau da mae o’n dod a i’m mywyd i.
Dim ond rhan bach o fy stori i ydi hwn ond rhyw ddiwrnod, dwi’n gobeithio bydd gen i’r hyder i rannu rhan arall o’r effaith mae fy anabledd yn cael ar fy iechyd meddwl.