Cyfweliad gyda Nigel Owens
Mae Nigel Owens yn ddyfarnwr rygbi rhyngwladol. Bu criw Gwefan Meddwl yn trafod iechyd meddwl gydag ef yn ddiweddar.
Pryd oedd y tro cyntaf i chi fod yn ymwybodol o’ch iechyd meddwl eich hun, neu iechyd meddwl fel pwnc yn gyffredinol?
I fod yn onest, doeddwn i ddim yn ymwybodol ohono pan oeddwn i’n iau, ond wrth edrych nôl wrth i mi fynd yn hŷn, dechreuais i ystyried beth oedd e. Ar y pryd, nes i ddim feddwl amdano fel salwch meddwl.
Fe ddechreuodd e pan oeddwn i tua 19/20 oed. Roeddwn i’n delio â fy rhywioldeb am y tro cyntaf. Ar y pryd, doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd e, nac unrhyw beth am iechyd meddwl tan oeddwn i’n hŷn ac yn fwy ymwybodol.
Mae hyn yn mynd nôl rhyw 25 mlynedd, cyfnod lle nad oedd llawer o bobl yn gwybod beth oedd salwch meddwl fel maen nhw nawr.
Oes gennych chi brofiad o dderbyn cymorth ar gyfer eich iechyd meddwl? Sut brofiad oedd hwn?
Fe ges i gynnig i siarad â seicolegydd. Ond fe wnes i ddim cymryd y cyfle. Erbyn hynny, roeddwn i’n gwybod beth oedd y rheswm dros yr iselder. Doeddwn i ddim yn credu bod angen i mi siarad amdano oherwydd erbyn hynny, roeddwn i wedi delio ag e fy hun, efallai yn y ffordd anghywir, ond fe wnes i ddelio ag e.
A yw eich salwch wedi effeithio ar eich gyrfa mewn unrhyw ffordd?
Fe wnaeth effeithio ar fy ngyrfa ar y pryd, do. Ond ar ôl i mi ddelio gyda’r mater, nid yw wedi effeithio arno. Roeddwn i mewn gyrfa lle roedd yn effeithio arna i fel dyfarnwr, roedd yn effeithio ar fy ngallu i wneud y gwaith.
Gall effeithio ar yr ymdrech chi’n rhoi i’ch gwaith, a’ch gallu i wneud y gwaith sydd angen i chi wneud. Mae’n effeithio ar eich bywyd chi, ac mae’n gallu effeithio ar eich gyrfa chi hefyd.
Oherwydd doeddwn i ddim yn canolbwyntio ar fy ngwaith, fel dyfarnwr ar y pryd, fe gafodd effaith ar fy ngyrfa. Mae pawb yn wahanol, i rai mae gwaith yn eu helpu i ddod dros eu problem iechyd meddwl, neu ddim yn effeithio ar eu gwaith o gwbl.
Ond i’r rhan fwyaf o bobl, os nad ydych chi’n hapus yn eich bywyd, yn feddyliol, ni fyddwch chi’n gallu bod y gorau y gallwch chi fod ym mha bynnag yrfa rydych chi’n ei wneud.
Pa gyngor fyddech chi’n ei gynnig i rywun sy’n dioddef ar hyn o bryd?
Mae’n eithaf syml a dweud y gwir. Trafodwch â rhywun. Ewch i weld rhywun proffesiynol neu siaradwch â ffrindiau neu aelod o’r teulu.
Y peth pwysig yw derbyn yn gyntaf bod yna broblem, ac yna siarad amdano gyda rhywun, gofyn am help a chwilio am le gallwch chi ddod o hyd i’r help. Mae lot o lefydd ar gael sy’n gallu rhoi gwybodaeth i chi. Ond yn gyntaf, rhaid i chi dderbyn eich hun, bod angen help arnoch chi, a bod yna broblem.
I mi, y peth pwysicaf yw derbyn bod angen cymorth arnoch chi a wedyn gwneud rhywbeth amdano, naill â rhywun sy’n agos i chi neu’n broffesiynol, beth bynnag sy’n gweithio i chi. Efallai bydd rhai’n iawn ar ôl trafod â ffrind, ac efallai bydd angen rhai gael cymorth proffesiynol, ond mae’n bwysig eich bod yn gwneud hynny.
Hefyd, peidiwch â theimlo eich bod yn llai o berson oherwydd bod gennych chi broblem iechyd meddwl, nac eich bod yn llai o berson am ofyn am help.
I ddweud y gwir, mae’n eich gwneud yn fwy o berson oherwydd chi’n dangos cryfder a dewrder i wneud hynny.