Cefnogi niwrowahaniaeth yn y gweithle
Yn ein gweithleoedd erbyn hyn, mae meithrin amgylchedd cynhwysol yn hollbwysig. Mae’r cynhwysedd hwn yn ymestyn i unigolion niwrowahanol, sy’n gallu gwynebu heriau unigryw gyda’i tasgau amrywiol, dyddiol. Gall deall niwrowahaniaeth a gweithredu addasiadau rhesymol wella cynhyrchiant a lles gweithwyr mewn pob math o weithleoedd ledled y wlad.
Wedi diagnosis awtistiaeth yn 2023, a hunan ddiagnosis ADHD yn 2024, dwi, Vicky Powner o Sir Benfro, wedi dysgu tipyn am fi fy hunan, yn ogystal â beth sydd angen arnaf i roi yn ei le er mwyn gwneud bywyd pob dydd yn haws. Mae hynny erbyn hyn yn wir am fy niwrnodau gwaith hefyd.
Ar fy nhaith o ddysgu am fod yn niwrowahanol, sylweddolais fod mwy na thebyg fwy nag un rheswm pam fy mod wedi newid swyddi cymaint ar hyd y blynyddoedd. Mae rhai gweithleoedd wedi bod yn dda i fi ac wedi helpu i mi fagu hyder ond mae eraill heb fod mor hygyrch na hawdd.
Mae niwrowahaniaeth yn cyfeirio at amrywiadau yn yr ymennydd o ran sgiliau gweithredu dynol megis cof-gweithiol, rheoleiddio emosiynau, hyblygrwydd ac yn y blaen, ond yn ogystal a hyn, mae yna wahaniaethau mwy amlwg gyda phobl niwrowahanol yn sgȋl cymdeithasu a sgiliau cyfathrebu, cadw sylw, deall sefyllfaoedd, gwneud ffrindiau a gor-feddwl. Mae amhariadau fel awtistiaeth, ADHD, dyslecsia, ac eraill yn dod o dan ymbarél niwrowahaniaeth. Nid diffygion yw’r amhariadau yma ond gwahaniaethau – ffordd gwahanol o edrych ar y byd, dyna’i gyd. Ond mae’n bwysig iawn codi ymwybyddiaeth am hyn er mwyn i’r byd dderbyn pobl niwrowahanol yn well.
Weithiau mae yna gymhlethdod rhwng y termau ‘Addasiadau rhesymol’ ac ‘Addasiadau yn y gweithle’. Mae addasiadau rhesymol yn derm sy’n sôn am addasiadau cyfreithiol mae’n rhaid i gyflogwyr roi yn ei lle i bobl anabl. Mae gan y cyflogwr gyfrifoldeb sylfaenol, cyfreithiol o dan y Ddeddf Gydraddoldeb i hyrwyddo’r math yma o addasiadau pe bai ei hangen. Mae addasiadau yn y gweithle yn addasiadau sy’n gallu bod tuag at unrhywun o fewn y gweithle – boed yn anabl neu beidio. Yn syml, mae’r addasiadau yma’n gallu helpu gwneud y lle gwaith yn le mwy cynhyrchiol, iach a hapus i bobl weithio, ac o bosib gall hyn olygu bod yr addasiadau yn helpu pobl sydd â phlant, pobl sy’n ofalwyr, menywod sy’n mynd trwy’r menopôs ayb.
Mae addasiadau ar gyfer pobl niwrowahanol yn hynod o bwysig oherwydd maent yn gallu helpu hyrwyddo cydraddoldeb, gwella cynhyrchiant a hyrwyddo cynhwysiant.
Dwi wedi gweithio mewn amryw o swyddi dros y blynyddoedd – rhai sy’n fwy ymarferol fel bod yn athrawes ysgol gynradd, rhai sydd a chymysgedd o waith ymarferol a gwaith ymchwil/creadigol o greu adnoddau a gwersi amrywiol cyn ei haddysgu i blant cynradd ac uwchradd, hyfforddi oedolion a hefyd swyddi mwy corfforaethol.
Dwi wedi dod o hyd i sawl peth dwi ‘di bod yn angerddol drostynt o fewn rhai o’r swyddi yma ond hefyd wedi dod ar draws sawl rhwystr. Y rhwystr mwyaf wrth edrych nôl yw gwahaniaethau enfawr gyda chyfathrebu, am fod angen gwybodaeth clir a chywir arnaf fel person niwrowahanol, er mwyn gallu gwneud synnwyr o’r hyn sydd yn mynd ymlaen o’m cwmpas. Fel person awtistig/ADHD, dwi’n gweld hi’n anodd hefyd pan bod pethau’n newid ar fyr-rybudd a dwi’n meddu ar ymdeimlad cryf o anghyfiawnder. Mae hyn yn gallu bod yn anodd mewn sefydliad sy’n symyd yn gyflym fel y mae yn y byd addysg er engraifft.
Yn aml, wrth ddysgu am niwrowahaniaeth, mae pobl yn clywed am y pethau negyddol. Ond, mae yna fuddion enfawr o gyflogi person niwrowahanol. Dyma rai engreifftiau:
- Mae gan bobl niwrowahanol safbwyntiau unigryw a sgiliau datrys problemau anhygoel.
- Maent yn gallu rhoi ffocws gwych ar bethau a gwneud llawer o waith mewn amser byr pan maent yn gweithio ar bethau o ddiddordeb.
- Maent yn dangos gwytnwch ac yn ymroddgar iawn dros ei gwaith.
- Maent yn bobl gonest iawn ac yn cyfathrebu’n uniongyrchol.
- Maent yn dangos ymrwymiad mawr i gyfleodd cyfartal.
- Maent yn helpu gyda sicrhau deinameg tȋm amrywiol.
Mae cyflogi unigolion niwrowahanol nid yn unig yn fater o gyfrifoldeb cymdeithasol ond hefyd yn fantais strategol. Gall y cryfderau a’r safbwyntiau unigryw a ddaw yn eu sgil wella arloesedd, cynhyrchiant a deinameg gweithle yn sylweddol. Trwy feithrin amgylchedd cynhwysol sy’n gwerthfawrogi ac yn cefnogi niwrowahaniaeth, gall sefydliadau ddatgloi potensial llawn eu holl weithwyr ac ysgogi llwyddiant cynaliadwy. Mae creu amgylchedd cefnogol ar gyfer gweithwyr niwrowahanol yn golygu mwy na dim ond addasiadau corfforol. Mae’n gofyn am newid diwylliannol tuag at ddeall a derbyn.
Dros y blynyddoedd diwethaf o weithio mewn swydd corfforaethol, dwi wedi dysgu pa mor bwysig yw addasiadau. Nid oes rhaid i’r newidiadau yma gosti dim byd; nid oes rhaid i’r newidiadau yma fod yn bethau mawr – a dweud y gwir, y pethau bach sydd wedi gwneud y newid mwyaf! Siarad yn agored, rhannu y pethau anodd a’r pethau dwi’n dda ynddynt a cael rheolwr sy’n barod i ddeall, dysgu a derbyn – y da a’r drwg!
Dwi’n ffodus i allu defnyddio’r wybodaeth yma yn fy ngwaith er mwyn gallu ceisio gwneud newidiadau a gwelliannau i bobl arall sy’n niwrowahanol, neu’n anabl, drwy siarad â chyflogwyr am bwysigrwydd ystyried pobl anabl am swyddi o fewn ei gweithleodd achos mae’n beth pwerus – nid yn unig i’r unigolion ond i’r Gweithle, yn ogystal a dangos y ffordd ymlaen i bawb arall!
Fel rhan o’m swydd, dwi wedi creu sesiwn i godi ymwybyddiaeth am addasiadau gweithle rhesymol sy’n addas i bobl niwrowahanol, er bod rhan fwyaf o’r addasiadau yma’n gallu gwneud gwahaniaeth i unrhywun a dweud y gwir! Mae croeso mawr i chi ymuno a’r sesiynau sy’n cael ei rhedeg yn fisol – yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae’r wybodaeth ar gyfer y sesiynau nesaf ar gael ar y posteri isod.