Byw efo salwch Mam
Tristwch. Euogrwydd. Ansicrwydd. Casineb. Blinder. Gwylltineb.
‘Dwi ‘di teimlo pob un o’r emosiynau yna dros y bedair blynedd ddiwethaf wrth wylio Mam yn brwydro’n erbyn iselder a seicosis. Ond wrth gwrs, ‘dwi hefyd ‘di teimlo’n hapus ar adegau pan mae Mam yn well, pan fydd yr ‘hen Mam’ yn ymddangos eto. Ond fydda i wastad ofn gadael i fi fy hun deimlo’n rhy hapus, achos yn aml iawn pan mae Mam yn cael wythnos neu fis da, mae wythnos neu fis gwaeth na’r tro dwethaf yn dilyn.
Dyna un peth ‘dwi ‘di ddysgu wrth drio bod yn gefn i Mam ar yr adegau anodd. Bob tro dwi’n meddwl bod Mam yn nôl efo ni, ei bod hi’n mynd i allu bod yn Nain i’r plantos acw eto, mi ddaw ‘na rywbeth a’i tharo hi nôl eto. Felly byddwn ni’n mynd nôl i’r dechre ac yn trio eto. Ac felly mae hi ‘di bod i ni fel teulu ers 2014. Yn aml iawn, ‘dwi’n teimlo ei bod hi jest mor anodd i’r teulu a ffrindie agos sy’n gwylio rhywun mae nhw’n caru yn dioddef, ag ydi hi i’r person sy’n dioddef. Mi fues i am hir yn methu deall a methu rili dygymod efo be’ oedd ‘di digwydd i Mam. Ar y pryd, mi ddoth y salwch o nunlle – roedd Mam yn iawn siŵr, 54 mlwydd oed, wedi priodi ers bron i 30 mlynedd, yn gweithio yn llawn amser, y plant ‘di tyfu fyny a ‘di gadel gartre’, tŷ neis a dwy wyres fach lyfli.
Euog.
Heddiw, wrth edrych nôl, roedd yna ambell arwydd bod y frwydr yma ar ddechrau. A dyna lle mae’r teimlad o euogrwydd yn dod mewn, teimlo y buaswn i wedi gallu neud rhywbeth i stopio’r salwch ‘ma, teimlo y dylwn i fod wedi ‘neud mwy i helpu Mam.
Mi fues i’n poeni am yn hir ar ôl i Mam fynd yn sâl ‘na rhywbeth o’n i wedi ‘neud pan o’n i’n tyfu fyny oedd ‘di neud iddi fynd yn sâl, ac wrth feddwl am y peth rŵan mae hynna yn ffordd wirion i feddwl ac i deimlo, ond ar y pryd roedd yr euogrwydd yma’n cymryd drosodd. Mae ‘di cymryd amser hir i mi ddeall a derbyn nad oedd bai arna i am salwch Mam, achos salwch ydi o, all neb helpu, mae o’n salwch creulon a thywyll, ond salwch ‘di salwch.
Wrth gwrs, dwi’n dal i deimlo’n euog bron bob dydd, ydw i’n neud digon i helpu? Mae’r teimlad o euogrwydd ‘di newid mewn rhyw ffordd erbyn hyn, dwi’n teimlo’n euog am gario ‘mlaen efo mywyd i tra fod Mam yn styc mewn uffern, methu codi o’i gwely, methu gneud dim tra mai’r cwbl mae hi’n ei ddymuno ydi cael bod yn wraig ac yn nain unwaith eto. Ond mae iselder yn salwch mor greulon – er fod Mam yn beichio crio weithiau am ei bod hi’n deall ei bod hi’n wirioneddol sâl ac yn ysu i gael gwella, does ganddi ddim nerth ynddi i ‘neud iddi ei hun fwyta, i ‘neud iddi ei hun yfed dŵr, ac yn anffodus allwn ni fel ei theulu hi ddim ei gorfodi hi i fwyta ac yfed, er ein bod ni wedi trio a thrio. Felly, aros yn ei gwely mae hi, methu ffeindio’r cymhelliant i godi allan o’i gwely, a ninnau’n gwbl ddiymadferth yn y sefyllfa.
Blin.
Fel y rhan fwyaf o deuluoedd sy’n delio gydag iselder a’r math yma o salwch, mi fuodd ein bywyd ni ar stop am amser hir, neb yn siŵr iawn be oedden ni i fod i neud a sut mae rhywun fod i helpu rhywun sydd yn y sefyllfa yma, pan mewn gwirionedd, doedden ni ddim yn deall ffasiwn salwch ydi o. Mae’n hawdd iawn colli amynedd efo rhywun sy’n dioddef fel’ma; pam allith hi ddim jyst codi allan o’i gwely? Pam nad ydi ei hwyresau hi’n ddigon o reswm iddi allu ‘neud iddi hi hun godi a dod i’w gweld? Pam bod hi ddim wedi trio dod i weld ei merch ei hun? Yn aml iawn, roedd clywed Mam yn dweud wrth bobl eraill ei bod hi’n ‘iawn rŵan’ yn fy ngwylltio i, pam alle hi ddim jyst deud y gwir? Roedd hi’n bell o fod yn iawn, felly pam gadael i bawb arall heblaw am ei theulu agos feddwl ei bod hi’n well rwan?
Roedd gen i gywilydd am hir, ddim o salwch Mam, ond cywilydd mod i’n teimlo’n ddig efo Mam weithie, cywilydd mod i’n colli amynedd efo hi am fethu ‘neud pethau, pethau fydda i a phawb arall yn eu cymryd yn ganiatäol. Cywilydd mod i’n gwylltio efo hi pan roeddwn i fy hun wedi dioddef ar adegau o iselder, dim byd ar yr un raddfa â Mam wrth gwrs, ond mi rydw i bellach yn deall sut mae hi’n teimlo pan dydi hi ddim yn gallu nag awydd neud dim, felly pa hawl sydd gen i o bawb i fod yn flin efo hi? Fues i’n flin go iawn ar y dechrau, methu’n lân a deall pam bod hyn wedi digwydd i’n teulu ni, pam fod rhaid i ni gyd ddioddef? Doedd Mam ddim yn haeddu hyn, ond dyna’r peth, does neb yn haeddu dioddef nag oes? Dydi iselder ddim yn poeni am ar bwy mae’n effeithio, mae’n feistr creulon.
Trist.
Wedyn mi fyddai’r tristwch yn dilyn, teimlo’n drist fod Mam yn colli allan ar gymaint o bethe, fod Dad yn gorfod cario ‘mlaen ar ei ben ei hun pan ddylai Mam fod yna wrth ei ochr.
Fy niwrnod graddio oedd un o’r diwrnodau anoddaf i fi – teimlo mor falch mod i’n graddio, a bod Enlli fy merch fach yno i weld, ond ar yr un pryd teimlo tristwch uffernol bod Mam nôl yn ward Hergest ym Mangor, ac yn colli allan unwaith eto, teimlo’n drist fod ‘na ddim llunie ohona i a Mam a Dad. Mae hyn yn mynd â fi mlaen at rywbeth arall oni’n deimlo weithiau ar y dechrau – casineb, swnio’n ddwl dydi? Ond teimlo fel fy mod i’n colli allan tra bod cyfoedion i mi ddim yn sylweddoli pa mor lwcus oedden nhw, ac yn fwy na hynny ddim yn gwerthfawrogi yr hyn oedd ganddyn nhw chwaith. Ond, mewn gwirionedd, dyna sut oeddwn i’n ymddwyn cyn i Mam fynd yn sâl, doeddwn i ‘rioed yn disgwyl iddi fynd mor sâl, felly fydda i’n teimlo’n euog am nad oeddwn i yn gwerthfawrogi pa mor lwcus oeddwn i i gael Mam cyn iddi ddechrau dioddef o’r salwch.
Galar.
Galar. Mae’n swnio yn od ‘dydi, galaru am rywun pan mae nhw dal yma efo ni? Dwi’n deall pa mor lwcus ydw i fod Mam yn dal yma, dwi’n deall pa mor lwcus ydw i i gael siarad efo hi bob dydd, a dwi’n diolch i Dduw, bob dydd, bod Dad wedi dod adre pan ddoth o’r diwrnod ofnadwy yna pan gymerodd Mam yr holl dabledi ‘na, neu mi fuaswn i yn ‘sgwennu darn gwahanol iawn heddiw yn sicr. Ond, dwi’n galaru yn aml iawn am y Mam dwi’n gofio, ‘Mam’ cyn yr iselder a’r seicosis, cyn y tabledi a’r misoedd mae hi wedi treulio mewn unedau seiciatrig, galaru am y Nain oedd hi i Enlli. Wrth gwrs, mae hi’n dal yn Nain i Enlli, a honno bron yn bum mlwydd oed erbyn hyn, ac yn deall yn iawn fod Nain yn sâl a methu codi weithiau, ond dydi hi ddim r’un fath ag oedd hi gynt. Mae Elsi, fy hogan fach arall i yn dri mis oed erbyn hyn, ac mae’n fy ngwneud i’n drist bod Mam methu neud llawer efo hi chwaith ar hyn o bryd.
Ond, dwi’n gobeithio ga i Mam yn ôl un diwrnod. Er mod i’n gweld chydig o’r ‘hen mam’ bob hyn a hyn, dwi am iddi fod yma bob dydd efo ni, ac yn fwy na hynny mae hi’n haeddu yn fwy na neb i gael y cyfle i fod yn Nain eto.
Y dyfodol.
Y peth pwysica’ ‘di gobaith. Mae’r hyn ‘dwi ‘di ‘sgwennu hyd yma yn swnio’n reit dywyll a thrist, ond dyma sut ‘dwi ‘di teimlo dros y blynyddoedd diwethaf wrth drio dygymod efo salwch Mam, ac yn fwy na hynny wrth drio ei chefnogi hi, ond er gwaethaf hyn i gyd mae’n rhaid cael un hedyn o obaith, hyd yn oed ar y dyddie mwya’ tywyll.
Mae gwylio rhywun sy’n dioddef yn gallu’ch g’neud chi’n ansicr iawn. Sut ddiwrnod fydd fory? Fydd pethau dal ‘run fath mewn dwy flynedd â mae nhw heddiw? Neu ai dyma fydd ein bywyd ni o hyn allan? ‘Dwi’n cofio mam yn mynd am ‘ECT’ (triniaeth drydanol i’r ymennydd), ymhell o gartre i ysbyty ym Mryste am dri mis i gael y triniaethau – nid un, ond deuddeg, ac wrth gwrs fel pob triniaeth arall roedd risg y galle pethe fynd o’i le, risg y byddai Mam yn colli ei chof ac ati, ond er gwaetha’r ansicrwydd ‘ma mae’n rhaid cymryd y risg, a gobeithio mewn amser y daw golau ym mhendraw’r twnnel.
Ydy, mae pedair blynedd yn amser hir ofnadwy i fod yn sâl fel’ma, ond does dim ffasiwn beth â ‘quick fix’ ar gyfer y math ‘ma o salwch. Mae’n cymryd amser, cariad, cefnogaeth ac amynedd. Mae cael rhwydwaith o gefnogaeth yn hynod o bwysig, i’r rhai sy’n dioddef ac i’r rheiny o’u cwmpas.
Siaradwch wir dduw, cymerwch sylw, gofynnwch sut mae rhywun.
Ar yr adegau tywyll yma does dim byd pwysicach na chael ffrind. Dydi Mam ddim yn dda o gwbl ar hyn o bryd, dwi’m yn siŵr sut mae’r wythnosau nesa ‘ma am fod, ond mae fory yn ddiwrnod newydd eto, a gobeithio fory gawn ni ddiwrnod gwell. Er gwaethaf popeth mae’n rhaid i fywyd fynd yn ei flaen, a dwi mor falch o Mam, mae hi’n fwy dewr na llawer dwi’n ‘nabod, does dim cywilydd o gwbwl mewn dioddef o salwch o’r fath – fel ddwedais i gynt, salwch ‘di salwch. Does ‘na ddim cywilydd mewn dioddef o gancr, felly pam bod cywilydd mewn dioddef o seicosis neu sgitsoffrenia? Dwi’n ffyddiog y daw pethau yn well rywbryd, er gwaethaf yr amseroedd tywyll; ‘den ni fel teulu wedi cael amseroedd da dros y pedair blynedd diwethaf hefyd.
Fydd y storm yma ddim yn para am byth, dwi’n sicr o hynny.
Anna Foulkes