Bipolar Fi
“Hi yw bywyd ac enaid y parti”
“Mae hi’n bersonoliaeth fawr”
Dyma beth fydd pobl yn aml yn dweud amdanaf i. Rwy’n berson hapus, hyderus a llawn egni. Rwy’n gweithio fel actor a dramodydd ac yn teimlo’n gartrefol iawn ar y llwyfan.
Ond nid yw pobl yn gweld yr ochr arall – dyddiau yn cysgu yn y gwely yn teimlo’n anobeithiol. Dyddiau lle dydw i ddim yn gweld y pwynt cario ymlaen efo bywyd fi.
Dyma beth yw deubegwn, neu bipolar yn y Saesneg – newidiadau eithafol mewn hwyliau.
Pan mae pethau’n dda rwy’n teimlo ar ben y byd, ond pan mae pethau’n ddrwg, mae bywyd yn gallu bod yn lle tywyll iawn.
Mae yna tri math o bipolar – bipolar math 1 (mwyaf eithafol), bipolar math 2 (llai eithafol), a cyclothymia (y lleiaf eithafol). Mae gen i bipolar math 2. Mae hynny’n meddwl fy mod yn dioddef o iselder a hypomania.
Beth yw hypomania?
Mae hypomania yn gyfnodau o ymddygiad gorweithgar ac egni uchel a all gael effaith sylweddol ar eich bywyd o ddydd i ddydd. Mae hypomania yn fersiwn ysgafnach o mania ac sydd fel arfer yn para am gyfnod byrrach. Mae hyn fel arfer ychydig ddyddiau, er y gall hyd yr amser amrywio. Mae mania yn ffurf fwy difrifol.
Ond i fi, mae hypomania fel superpower fi. Pan fi’n rhoi meddwl fi ar rywbeth – does dim byd yn gallu stopio fi! Fel bwcio tocyn awyren un ffordd i Colombia! Neu bwcio theatr yn Llundain ar gyfer sioe nad oeddwn wedi ysgrifennu eto! Pan dwi’n hypomanic, ar ôl i fi gael syniad fi fel machine cynhyrchiol, a fi ddim yn stopio tan bod y syniad wedi gorffen. Dyma sut daeth fy sioe ‘Bipolar Me’, sy’n seiliedig ar fy mywyd a fy niagnosis, i fodoli. Yn 2019 fe wnes i sgwennu’r ddrama gyfan mewn dim ond tri mis, a rhoi fe ymlaen am wythnos yn yr ‘Etcetera theatre’ yn Llundain. Fe wnaeth y sioe gwerthu allan a chael adolygiadau pedwar seren yn y wasg. Haf diwethaf wnaeth yr Eisteddfod Genedlaethol gomisiynu’r sioe yn yr iaith Gymraeg ac fe wnes i gyfieithu’r sioe i greu ‘Bipolar Fi.’ Odd e’n brofiad emosiynol iawn i ddweud fy stori yn yr iaith Gymraeg. Diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru mae’r ddwy sioe – y fersiwn Gymraeg a Saesneg, yn cael eu perfformio yn Theatr Gwaun yn Sir Benfro mis nesaf.
Mae llawer o bobl gyda deubegwn yn greadigol iawn, er enghraifft Carrie Fisher, Catherine Zeta-Jones, Steven Fry, Demi Lovato, Mariah Carey. “Fi di bod yn researcho pobl enwog gyda bipolar. Mae lot o ni. Ti’n meddwl bod e’n rhywbeth sy’n dod da’r territory? I fod yn berfformiwr ma’n rhaid bod bach yn nuts?” yw un llinell yn fy nrama ‘Bipolar Fi.’
I fi, mae bod yn greadigol yn helpu fi brosesu fy iechyd meddwl. Pan fyddaf yn sefyll ar y llwyfan mae’r tywyllwch neu’r anhrefn yn diflannu ac rwy’n teimlo heddwch a thawelwch.
Ers i mi gael y diagnosis pum mlynedd yn ol, fi wedi mynd ar daith mawr efo derbyn fod hyn yn rhywbeth fydd gyda fi am weddill fy mywyd. Does ‘na ddim gwellhad ar gyfer bipolar – rydych chi just yn dysgu sut i reoli fe trwy ddod i adnabod eich cycles ac eich triggers. Er enghraifft os fi ddim yn cysgu ac yn cael llawer o syniadau newydd rwy’n gwybod fod hypomania ar y ffordd, ac os fi’n teimlo’n drist ac yn tynnu nôl o ffrindiau a theulu fi’n paratoi fy hun ar gyfer cyfnod o iselder.
Rydw i hefyd yn cymryd meddyginiaeth, ac ers i mi ffeindio tabledi sy’n gweithio i fi mae fy ngwahaniaethau mewn hwyliau wedi lleihau llawer.
Rwy’n falch i ddweud fy mod wedi bod mewn lle da ers cwpwl o flynyddoedd nawr, ac nid yw’r cyflwr yn rheoli fy mywyd rhagor.
Mae ‘na dal llawer o stigma ynghylch a’r cyflwr, ac felly rwy’n gobeithio y bydd fy nramâu yn helpu pobl i ddeall yn well beth yw bipolar a sut mae’n effeithio pobl.
Mae ‘Bipolar Fi’ yn Theatr Gwaun ar 21 a 22 Ebrill 2023.