‘Ara’ Deg Mae Dal Iâr’
Bybl bach saff i mi ers 3 mis bellach, yn daclus a del mi roedd y tŷ yn ei le, a phob papur, pensel, cwpan a threfn y dydd yn gadarn yn ei le.
Fi yn gweithio, Osh yn ‘neud ei waith ysgol, a’r peiriant coffi yn canu. Amser brecwast, cinio a swper mewn trefn, sgwrsio dros fwyd, mwydro, canu a dawnsio. Bywyd saff. Er yr holl ofn tu allan, roedd adra, y tŷ, yn le caredig ac yn rywle glân, ac yn le i guddiad a chrio yn ddistaw bach. Facetime a Zoom, y sgwrsio di-ri, y gwenu cogio bach – ond ni oedd bia’r drefn, ni oedd yn gyfrifol, ni oedd yn gwarchod ein bybl bach ni. Roedd hi’n saffach ar ben dy hun – yn dy feddwl bach dy hun.
Mis Awst.
Yr ofn, y crio yn y car, y golchi dwylo, a golchi dwylo, a mwy o olchi dwylo. Mae hyn yn anoddach na’r clo mawr i mi. Dim bybyl bach saff, dim trefn ar y negeseuon gan y dyn sydd yn byw yn shed yr ardd, dim trefn ar gymdeithas. Dal i fynd, dal i drio mynd, a dal i grio.
Mae ofn mynd yn sâl, ofn colli mam, ofn peidio gweld mam eto yn codi yr ofn mwyaf y byd arna i. Yr ofn sydd yn gwneud mi deimlo yn sâl, yr ofn dwi erioed wedi teimlo o’r blaen. Yr ofn sydd yn gwneud i mi deimlo yn unig.
Mygu.
Crio.
Gwylltio.
Gwenu gwyllt.
Mae rhaid symud, mae bywyd yn gorfod mynd yn ei flaen, y ‘normal newydd,’ y byd glân, pobol mewn masgiau lliwgar, y golchi dwylo, yr ofn yn y cysgod.
Mynd yn araf deg fydda i, fesul hanner awr.
Araf deg ma’ dal iâr.
Araf deg mae dod ‘nôl i ‘normal’ newydd.
Cofia, dim pawb sydd yn gallu hel eu wyau i gyd yn drefnus, a rhoi trefn ar fywyd a’u meddylia’ dros noson dda o gwsg.
Llinos Jones