Sgitsoffrenia’n ‘codi ofn’ ar gyflogwyr : BBC CymruFyw
Mae dynes o Ynys Môn sydd â sgitsoffrenia yn dweud bod stigma ynglŷn â’r cyflwr wedi effeithio ar ei chyfleoedd gwaith.
Dywed Siobhan Davies, 45 o Rosneigr a mam i bedwar o blant, ei bod eisiau gweithio a chyfrannu i gymdeithas, ond bod cyflogwyr posib yn ofni rhoi cyfle iddi.
Mae Ms Davies yn clywed amrywiaeth o leisiau yn ei phen ers yn 16 oed – pob un ag enw a phersonoliaeth ei hun.
Dywed bod cyflogwyr posib yn clywed ei bod wedi methu gweithio am y saith mlynedd diwethaf tra’n cael gofal i mewn ac allan o’r ysbyty a gofyn i’w hunain: “Ydy hi’n mynd i fod i fewn eto? Fedran ni gymryd siawns arni? Ac mae lot o bobl ddim yn barod i neud hynny. Dyna ‘di’r broblem. Ti’n ca’l dy ddal yn y gorffennol.”