Gwefan meddwl.org yn dathlu’r 10

Eleni, mae hi’n 10 mlynedd ers i Hedd Gwynfor a Manon Elin gychwyn gwefan meddwl.org er mwyn creu cymuned cyfrwng Cymraeg i drafod a rhannu profiadau am iechyd meddwl yn agored.

Doedd yna ddim byd tebyg yn bodoli ar y pryd, a chafodd y ddau eu hysbrydoli i gychwyn y wefan ar ôl darllen cyfrol arloesol Gyrru Drwy Storom. Yn y gyfrol, roedd 11 unigolyn yn rhannu eu profiadau am iechyd meddwl yn agored ac onest yn Gymraeg.

Roedd Hedd a Manon wedi dod ar draws ei gilydd trwy Gymdeithas yr Iaith, ond daethant i fwy o gyswllt ar-lein tra’n trafod y gyfrol. O’r sgyrsiau cychwynnol hyn datblygodd y syniad o greu gwefan ar gyfer cefnogi pobl gyda’u hiechyd meddwl gan roi cyfle i bobl rannu profiadau personol a dod o hyd i wybodaeth am gyflyrau gwahanol, a’r gefnogaeth sydd ar gael yn Gymraeg.

Meddai Manon, “Dwi wedi cael cyfnodau o broblemau iechyd meddwl ers fy arddegau cynnar, a’r gyfrol Gyrru Drwy Storom oedd yr un gyntaf i mi ei darllen yn Gymraeg ble roedd pobl yn siarad yn agored am eu hiechyd meddwl.

“Wrth sylwi ar y sgyrsiau a sbardunwyd gan y gyfrol honno, ein syniad oedd creu cymuned lle gallai pobl drafod iechyd meddwl yn agored a rhannu profiadau, gan hefyd ddarparu platfform i ddysgu mwy am gyflyrau gwahanol. Doedd ‘na ddim byd tebyg yn bodoli yn y Gymraeg ar y pryd.

“Elfen greiddiol arall i ni oedd tynnu sylw at y diffyg cymorth proffesiynol oedd ar gael yn Gymraeg, a chodi ymwybyddiaeth o ba mor angenrheidiol yw cael cymorth iechyd meddwl yn ein hiaith ein hunain.

“Felly mi wnaethom ni gychwyn gwefan meddwl.org. Rhyw fath o hwb ar gyfer darganfod gwybodaeth iechyd meddwl Cymraeg oedd hi’n wreiddiol ond wedyn mi gynigiodd Arddun Rhiannon flog i ni a dyna oedd cychwyn ar yr elfen sydd dal yn bodoli heddiw o bobl yn rhannu eu profiadau. Roedd yr adran blogiau yn hynod o boblogaidd yn y blynyddoedd cynnar – roedd pobl yn ysu am y cyfle i rannu eu profiadau yn Gymraeg am y tro cyntaf.”

Dros y blynyddoedd, mae’r wefan wedi datblygu i gynnwys llawer o wybodaeth ac adnoddau am iechyd meddwl, ac wedi cyhoeddi dros 300 blog. Mae’r blogiau wedi eu hysgrifennu gan bob math o bobl, gan gynnwys enwogion megis Tara Bethan, Miriam Isaac, Dylan Cernyw  a Non Parry.

Ychwanegodd Manon, “Roedd yn ychydig o drobwynt yn hanes meddwl.org pan gyhoeddodd Non Parry flog ar ein gwefan a rhoi ei chefnogaeth yn gyhoeddus i ni yn 2019. Creodd Eden grysau-t ‘Paid a Bod Ofn’ i’w gwerthu yn yr Eisteddfod Genedlaethol i godi arian i meddwl.org, ac i roi ail ystyr i’w cân poblogaidd. Roedd yn dod â balchder mawr i ni weld pobl o bob oed ar y maes yn dewis gwisgo crysau-t oedd yn dangos eu cefnogaeth i’r neges bwysig hon.

“Mae Non yn parhau i fod yn llysgennad i meddwl.org ac rydym yn hynod o ddiolchgar iddi ac i Eden am yr holl waith maen nhw wedi ei wneud yn ein cefnogi ni a chymuned meddwl.org.

“Mae cael enwogion fel Non yn siarad yn agored am fod yn niwrowahanol ac am iechyd meddwl yn help mawr i bobl deimlo nad ydyn nhw ar ben eu hun, ac y gall y materion hyn effeithio ar unrhyw un.”

Cofrestrwyd meddwl.org fel elusen yn 2020, ac yn y blynyddoedd diwethaf maent wedi bod yn cynnal trafodaethau yn yr Eisteddfod yn ogystal â stondinau mewn digwyddiadau i normaleiddio sgyrsiau am brofiadau personol a heriol, ac i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael.

Mae’r wefan yn parhau i gael ei rhedeg gan wirfoddolwyr, a bellach mae ‘na bedwar ar y tim rheoli ac oddeutu dwsin yn y tîm ehangach yn cefnogi’r gwaith o ddydd i ddydd.

Meddai Manon, “Dw i’n credu mai beth ydw i’n fwyaf balch ohono ydy’r gymuned rydyn ni wedi ei chreu a faint o bobl sy’n diolch i ni amdani. Rydyn ni wedi clywed gan bobl yn dweud eu bod yn teimlo’n llai unig ers dod ar draws meddwl.org.

“Dw i’n gobeithio ein bod ni hefyd wedi llwyddo i annog rhagor o sgyrsiau am iechyd meddwl, ac wedi helpu pobl i ddeall eu hunain yn well, gan wneud iddynt sylweddoli nad ydyn nhw ar ben eu hunain.

Bydd meddwl.org yn cynnal cyngerdd mawreddog yn Neuadd Pontyberem ar y 24 o Hydref 2026 i ddathlu’r 10 mlwyddiant. Bydd amryw o enwogion sydd wedi cefnogi meddwl.org dros y blynyddoedd yn cymryd rhan yn y cyngerdd gan gynnwys Eden, Caryl Parry Jones a Lleuwen Steffan.