Nos a Bwrw Glaw
Do’n i ddim rili yn blentyn hapus iawn. Wastad yn teimlo’n rhwystredig neu bo fi’n ‘hard done by’ ac yn aml yn syllu drwy ffenest y bws ysgol yn hel meddyliau tywyll (fel ‘swn i mewn music video trist). O’dd fy mrawd i, Gid, yn arfer fy ngalw i’n ‘Wednesday Addams’. (Ma hi’n iconic so actually ma hwnna’n compliment).
Dwi’n cofio pan o’n i a fy chwaer i, Elan, yn blant, nath fy chwaer ddeud,
‘O! dwi wrth fy modd hefo’r Haf – yr haul yn gwenu a phopeth yn edrych yn ddel! ‘
A dyma Mam yn deud,
‘Dyna neis Els! Be amdanat ti Mir, ti’n licio’r haul a’r Haf?’
A dyma fi’n deud,
‘Na. Dwi’n licio nos a bwrw glaw’. (Lol)
Erbyn hyn, dyna be dwi’n galw’r pyliau isel. ‘Dwi’n teimlo ‘chydig bach yn nos a bwrw glaw’. Falle nai roi o ar grys-T ryw ddydd.
O’n i wastad yn meddwl bo fi ddim digon da a bod y byd yn fy erbyn i. Ma’r feddylfryd yna ‘di nilyn i trwy’ mywyd i rîli ac mae o’n rhywbeth dwi dal methu ysgwyd hyd heddiw. Ges i’r diagnosis bo fi’n diodde o iselder a gorbryder yn 19 (dwi’n 32 nawr). Do’dd pobl ddim rîli yn siarad am iechyd meddwl adeg hynny so o’n i’n teimlo cywilydd mawr am y peth. Meddwl bo fi di torri a na fysa na neb isio bod yn ffrindie hefo fi neu mynd allan hefo fi hefo’r ‘defect’ yma. Fel rhyw degan mewn ffatri sy’ di cael ‘i weirio’n anghywir.
Oherwydd hyn, dwi’n meddwl mai dyna pam dwi’n rybish am siarad amdano. Methu rîli trosglwyddo sut dwi’n teimlo mewn geiriau sy’n neud sens (fel ‘da chi siwr o fod ‘di sylwi wrth ddarllen hwn)! Dwi’n wael am ddiodde ar fy mhen fy hun. Ddim isho bod yn boen a dympio fy mhroblemau i ar rywun arall.
Bod yn faich. Niwsans. Dwi’n cael pyliau OK ond y rhan fwyaf o’r amser dwi just. Yn. Poeni. Ma’r lleisiau’n gas. Ac yn uchel. A dwi’n poeni am be ma pobl yn meddwl ohona i. Poeni bo fi ddim digon da. Mai fi di’r person gwaetha yn y byd. Poeni bo fi’n mynd i ddeud y peth rong. Poeni bo fi ddim yn gwneud digon. Poeni bo fi’n gneud gormod. Hyn i gyd tra’n trio actio fel bod pob dim yn iawn fel bo fi’m yn massive DOWNER fel cwmni. Ma’n exhausting.
Dwi’n gwbod yr holl bethau sydd angen i fi neud i helpu fy hun. Ymarfer corff, anadlu, self-care, siarad hefo therapydd (rhwbeth o’n i heb neud tan yn ddiweddar IAWN, eto achos bo fi’n rybish am siarad amdano fo), cael digon o gwsg, bod yn garedig i fi fy hun…ac yn y blincin’ blaen… Ond pan ti’n teimlo fel wyt ti (nos a bwrw glaw)… ma’n anodd gweld yr haul yng nghanol hynna i gyd. Ma fy therapydd i’n deud wrtha i i siarad hefo fi fy hun yn blentyn. Y ferch fach od a thywyll yna. Wednesday Addams. Nos a bwrw glaw’s biggest fan. A deud wrthi bod gwerth ganddi. Ei bod hi’n ddigon da. Bod hi ddim yn niwsans a bo fi’n ei GWELD hi. Yn ei DEALL hi. A’i bod hi ddim ar ei phen ei hun. Dwi ddim yn gwbod be di’r ateb a dwi ddim yn gwbod pam dwi’n sgwennu hwn… Mae o bach all over the place. Ond dyna sut ma’ ‘mhen i’n teimlo fel arfer.
Hyd yn oed os nad oes neb yn ei ddarllen o, ma’ ‘di bod yn rhyw fath o release neis. Falle ddylse fi ddechre sgwennu fy nheimladau lawr. ‘Journaling’ fel ma’r influencers yn deud. Dwi’n trio gwella agor fyny amdano fo ac ma’n ffrindie a’n nheulu i’n AWESOME. Ac mae hyd yn oed pobl dwi ddim yn nabod ‘di bod yn barod i wrando ac ma hynna mor sbesial.
Os ‘da chi’n teimlo chydig bach yn nos a bwrw glaw, byddwch yn garedig i chi’ch hun. Da chi ddim ar eich pen eich hun. A siaradwch. Xxx
O.N. Anfonwch neges os da chi isho t-shirt nos a bwrw glaw, nawn ni ddechre clwb xxx
Miriam Isaac