Ar y Dibyn – Aberystwyth

Mae meddwl.org yn falch i gefnogi sesiynau Ar y Dibyn yn Aberystwyth. 

Mae Ar y Dibyn yn lle diogel i unigolion sydd wedi eu heffeithio gan unrhyw fath o ddibyniaeth i ddod at ei gilydd i chwarae gyda syniadau’n greadigol.

  • Cyfle i ddod i ddeall eich hunain a phobl eraill trwy siarad a chreu
  • Dim cywilydd, dim ond creadigrwydd
  • Nid oes angen datgelu dim am eich hanes
  • Nid oes angen unrhyw brofiad creadigol

Cynigir:

  • Croeso cynnes heb feirniadaeth
  • Gweithdy trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Cefnogaeth cwnselydd os ydych chi angen sgwrs ddyfnach
  • Deunyddiau creu, paned a bisged

Cynhelir y sesiynau yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, rhwng 13:30 – 15:00 ar y dyddiadau isod:

  • Dydd Iau 24 Hydref
  • Dydd Iau 31 Hydref
  • Dydd Iau 7 Tachwedd

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda niawynskyrme@gmail.com