Mae’n amser i chi wybod y gwir

Nid yw teitl y blog hwn yn ymgais i chi feddwl fy mod i wedi bod yn cadw rhyw gyfrinach fawr dan gaead bedd na dim byd felly.. Ond gobeithio mi fydd e’n ddigon i roi’r wefr i chi gario ‘mlaen i ddarllen am gwpwl o funudau.

Mae’r blog yma am iechyd meddwl.. Weithiau, dyw bywyd tu ôl i’r wyneb ddim yn hunky dory.

Cwestiwn neu ddau..

Pa mor dda ydych chi’n fy nabod i? Neu hyd yn oed, pa mor dda ydych chi’n adnabod eich hunan?

Hoffwn i rannu gyda chi rhywbeth nad oes ond rhai pobl yn gwybod amdana i, sef fy mod i’n dioddef o Orbryder Cymdeithasol neu Social Anxiety.

*Noder- Nid cais am dosturi neu sylw personol yw’r darn hwn..

Y diffiniad

Diffiniad yr NHS am Orbryder Cymdeithasol ydy:

Mae pryder cymdeithasol neu ffobia cymdeithasol yn anhwylder hir dymor, sy’n peri i’r person sy’n dioddef i deimlo ofn llethol o sefyllfaoedd cymdeithasol.

Rwyf yn rhoi’r argraff fy mod i’n unigolyn sy’n ddigon hapus mewn sefyllfa gymdeithasol, ond mewn gwirionedd, rwyf wedi dringo mynyddoedd enfawr i gyrraedd y pwynt ydw i heddiw.

Mae yna lawer o bobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl, llawer gwaeth nag ydw i/wedi gwneud. Mae’r blog yma yn amlygu’r ffaith bod pawb yn cael amseroedd da a gwael, bod ffordd ymlaen i bob unigolyn ac nad ydych chi ar eich pen eich hunan yn dioddef.

Fy stori (yn fyr)

Cefais ddiagnosis o Osteostarcoma 10 mlynedd yn ôl (2007) – cancr prin a ddatblygodd yn fy ffemwr (thighbone) dde. Yn dilyn hyn cefais driniaeth cemotherapi am 9 mis, gyda llawdriniaeth fawr 3 mis i mewn i’r cemo i dynnu’r asgwrn llygredig, ac yn ei le cefais brosthesis titaniwm (26cm o fetel!). Ydw, dwi’n gweiddi’n groch geiriau David Guetta bob tro dwi’n clywed y geiriau ‘I am Titanium!’

Dyma rhan gyntaf y stori. Oedd, roedd y cyfnod yma’n anodd iawn i oddef wrth fynd trwy’r boen echrydus a thriniaeth ddidostur i wella o’r cancr. Doedd gen i ddim syniad o’r goblygiadau a fyddai’n dod i’r golwg yn dilyn y driniaeth – problemau, o bosib, a ddechreuodd cyn hynny.

Y canlyniad

Roeddwn i’n gyfan gwbwl ddibynnol ar fy nheulu a fy ffrindiau, wedi colli fy ngallu i gerdded, fy annibyniaeth a’m holl hunan hyder – yn gragen o’r person oeddwn i o’r blaen.

Dyna sut oedd e’n teimlo i fi ta beth…

Ond fe ddysgais sut i wrando, go iawn.

Ar ôl gorffen fy nhriniaeth, fe es i nôl i’r ysgol i gyflawni fy TGAU mewn blwyddyn, ac ar yr un pryd yn treulio rhan fwyaf o’r amser nôl ac ymlaen i’r ysbyty, wrth drio edrych yn ‘iach’ i bawb oedd o fy amgylch.

Nid dyna oedd y gwirionedd..

Roeddwn i hefyd yn ymwybodol iawn o ba mor wahanol oeddwn i’n edrych, wedi fy argyhoeddi bod pawb yn syllu arna’i, heb wallt ac mewn cadair olwyn/crutches/ffon gerdded. Fe yrrodd e i fi weithio hyd yn oed yn galetach i ail ennill y gallu i gerdded heb unrhyw gymorth. O’n ni eisiau blendio mewn gyda phawb arall, i beidio cael unrhyw sylw wedi’i dynnu ata i.

Byddwn ni’n crio rhan fwyaf o ddyddiau (heb reswm weithiau) ar ôl ysgol neu ar ôl ymweld â’r ysbyty, yn ymdrechu am egni i gario mlaen gweithio gan wybod na fyddai fy ngorau byth yn ddigon.

Roeddwn i’n ffeindio fe’n anodd canolbwyntio ar y gwaith (un o sgîl effeithiau niferus y cemotherapi) ond penderfynais fod yn rhaid i fi ennill y graddau gorau phosib. Doedd methiant ddim yn opsiwn, a do, fe ddes i’n berffeithydd.

Fe ddes i ofni cyfrannu mewn sgyrsiau rhag ofn y byddai pobl yn dod i feddwl fy mod i’n ddiflas neu yn dwp, heb sôn am sefyllfaoedd gyda grwpiau mawr o bobl. Yn ogystal â hyn, byddwn i’n ailchware sefyllfaoedd yn fy mhen, yn ceisio eu harchwilio a dadansoddi bob brawddeg, yn ffeindio beiau yn fy ymddygiad.

Cefais fy nisgrifio fel person tawel a swil gan fy athrawon a dim ond yn siarad gyda’r bobl oeddwn i’n adnabod. Doedd dim modd i mi wneud beth oedd fy ffrindiau i’n gwneud chwaith – mynd allan i gigs, i ffwrdd ar wyliau gwersylla neu hyd yn oed mynd i’r dre i wneud bach o siopa. Pam? Roeddwn i’n gaeth i’r ‘ofn o’r anhysbys’, sefyllfaoedd newydd lle nad oedd rheolaeth gen i. Yn gaeth i’r gadair olwyn neu i’r crutches a gynyddodd fy ymddygiad mewnblyg a meddwl ansefydlog, cylch dieflig nad oedd modd imi ddianc.

Roeddwn i’n gwrthod ateb fy ffôn hyd yn oed os oeddwn i’n ei adnabod. Bydden ni prin yn ateb text, dim ond pan oedd gen i egni i roi rhyw gwpwl o frawddegau at ei gilydd. Yn bendant, byth yn ordero take away, mae’n broblem dwi dal yn brwydro â hi heddiw.

Roeddwn i wedi fy mharlysu gan y pryder a’r ofn o’r anhysbys, y meddyliau llethol o beth oedd pobl eraill yn meddwl ohono i yn efryddu unrhyw hunan hyder. Mae hwn dal i fod yn broblem hefyd, er nid i’r un graddau ag oedd e arfer bod.

Y daith i oresgyn Yr Ofn

Nid doctor ydw i, mae hwn i gyd yn amlwg o brofiad personol ac yn awgrym o ran beth all eich helpu chi neu rywun chi’n nabod sy’n mynd trwy amser anodd.

Yn bersonol, mae gen i ffydd yn Nuw, a’i ddymuniad ef oedd e i mi ddod trwy’r driniaeth er mwyn pwrpas gwell.  (Jer 29.11)

Felly roedd yn amser i mi ddechrau byw.

  1. Mae gwellhad yn cymryd AMSER
    Mae e wedi cymryd deng mlynedd i mi ddod i ddeall fy mod i’n brwydro gyda phryder, ar lefelau gwahanol ar gyfnodau amrywiol o fy mywyd. Rydw i dal i gael trafferthion wrth feddwl bod neb wir yn hoffi fi, fy mod i’n wael yn fy swydd a bydd dim dwi’n ‘neud yn ddigon da. Ond ma hwnna yn OK, achos does neb yn berffaith.
  2. Siaradwch gyda RHYWUN
    Gall hwn fod yn ffrind, teulu neu gynghorydd proffesiynol. Fe es i at therapydd CBT am sbel, ac fe ddes i sylweddoli fy mod i’n dueddol o wneud pethau’n fwy nag y maen nhw yn fy mhen, dwi dal yn gwneud hynny heddiw.
    Yn lwcus roedd gen i deulu a ffrindiau cefnogol, hyd yn oed os nad oeddent yn deall yn llawn beth oedd yn mynd ‘mlaen. Mae rhannu gydag eraill yn hanfodol achos ni fydd pobl yn gwybod os nad ydych chi’n dweud wrthynt.
  3. Rydym i gyd yn WAHANOL
    Mae gan bawb ei stori, mae rhai pobl yn mynd trwy brofedigaethau anodd ag eraill yn profi bywyd i’r gwrthwyneb. Ond ni ddylwn ni ddiystyru unrhyw un ar gyflwr ei iechyd meddyliol neu sefyllfa bersonol.

O.N Rhannwch ag eraill, hyd yn oed os yw’n her anhygoel o anodd. Gofynnwch os ydyn nhw wirioneddol yn iawn a pheidiwch a rhoi’r gorau i fod yn ffrind iddyn nhw.

Luned Gwawr Evans