Iechyd Meddwl a Cholled

Yn ôl y Miscarriage Association, mae un o bob pedwar beichiogrwydd yn dod i ben drwy gamesgoriad (miscarriage). Ond does neb yn siarad am hynny.

Mae’r rheol o beidio cyhoeddi eich beichiogrwydd cyn deuddeg wythnos yn achosi straen enfawr i’r rhai sy’n profi camesgoriad, a’r disgwyliad yw i barhau â’ch bywyd fel petai popeth yn iawn. Yn anffodus, nid yw mor hawdd â hynny.

Dwi’n gwybod hyn oherwydd dwi’n un o’r rhai hynny, dwi’n un o bob pedwar, dwi wedi cael camesgoriad. Mae rhannu’r holl manylion personol hyn yn teimlo’n rhy ymwthiol i oddef, ond dwi’n teimlo dyletswydd i wneud yn y gobaith y bydd o gysur i rywun arall ac yn chwalu’r stigma sy’n bodoli.

“Dim ond 21 oed oeddwn i, ac newydd ddechrau fy ngyrfa”

Roeddwn i’n gwybod fod rhywbeth o’i le pan oeddwn yn gorfod cerdded allan o gaffi oherwydd roedd arogl y coffi yn gwneud imi deimlo’n sâl. Anwybyddais hyn am ryw dair wythnos wedi hynny, ond daeth y symptomau’n rhy amlwg, ac yna fe wnes i lewygu yn yr orsaf drên ar y ffordd i’r gwaith. Dyna pryd y darganfyddais fy mod i’n feichiog. Mae angen imi nodi, gyda llaw, nid oedd y beichiogrwydd yn rhywbeth roeddwn i wedi’i gynllunio. Dim ond 21 oed oeddwn i, ac newydd ddechrau fy ngyrfa. Roeddwn i mewn perthynas hir-dymor a sefydlog, ond nid oedd cael plant yn ein hugeiniau cynnar ar ein agenda o bell ffordd. Roeddem ni bob amser yn ofalus gydag atal cenhedlu, felly’n amlwg roedd hyn yn sioc enfawr i’r ddau ohonom.

Yn ystod yr wythnosau dilynol, roeddwn i’n trafod ein opsiynau, yn ymchwilio ac yn mynychu apwyntiadau â’r meddyg teulu. Erbyn hyn, roeddwn i’n nesáu at unarddeg wythnos ac roedd y straen ond yn cynyddu gydag amser. Roedd mynd i’r gwaith yn dechrau dod yn anodd iawn; roeddwn i’n chwydu bob dydd ac yn teimlo’n benysgafn yn gyson. Daeth i’r pwynt lle y byddai’n rhaid i mi ddweud wrth y gwaith, heb sôn am fy nheulu a ffrindiau.

“Dyma’r pwynt y dywedwyd wrthym fy mod i’n cael camesgoriad”

Bore Dydd Iau oedd hi, a dihunais i weld gwaed ar y gwely. Teimlais y panig yn codi ynof wrth i mi sylweddoli beth oedd yn digwydd. Roeddwn i ar fin colli’r babi. Babi nad oeddwn i’n gwybod roeddwn i wir eisiau tan i mi ystyried y posibilrwydd o’i golli. Roeddwn i ar ben fy hun gan fod fy nghariad yn byw rhyw awr i ffwrdd, a doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud. Ar ôl ffonio’r meddyg, bu’n rhaid i mi fynd i’r ysbyty ar ben fy hun i gael sgan. Y sgan cyntaf. Rhywbeth a ddylai fod yn gyffrous, ond i ni, dyma’r pwynt y dywedwyd wrthym fy mod i’n cael camesgoriad. Ar ôl hynny, bu’n rhaid i ni fynd adref i aros iddo ddigwydd. Doedd dim llawer o gyngor ynghylch beth i’w wneud, heblaw am aros a dychwelyd o fewn pythefnos i sicrhau bod popeth wedi mynd.

Ar ôl oriau o boen a gwaedu, fe ddigwyddodd. Roedd yr olygfa’n erchyll o beth, a ninnau’n methu credu beth oeddem wedi gweld. Dyna oedd y tro cyntaf, yn y pum mlynedd roeddem ni wedi bod gyda’n gilydd, i mi weld fy nghariad yn llefain. Er nad oeddem yn barod i gael babi, ac hyd yn oed wedi ystyried erthyliad fel opsiwn, roedd y ddau ohonom wedi dechrau dychmygu’r bywyd bach hwn oedd yn tyfu y tu mewn i mi. Bu’n rhaid i mi gymryd rhai dyddiau i ffwrdd o’r gwaith, ond a dweud y gwir, roedd bod yn y tŷ yn hel meddyliau ond yn gwneud pethau’n waeth. Roedd hi’n anodd derbyn y ffaith roeddwn i’n feichiog rhai dyddiau yn ôl, a nawr doeddwn i ddim, heb unrhyw beth i ddangos amdano.

“Ers y digwyddiad, dwi wedi bod yn dioddef â gor-bryder ac iselder, ac erbyn hyn mae’n effeithio’n ddirfawr ar fy mywyd bob dydd”

Ers y digwyddiad, dwi wedi bod yn dioddef â gor-bryder ac iselder, ac erbyn hyn mae’n effeithio’n ddirfawr ar fy mywyd bob dydd. Ar y dechrau, dywedodd y meddyg mai hormonau oedd yn achosi i mi deimlo fel hyn, ac y byddwn i’n iawn pan fyddai hyn yn setlo. Ond yn fy achos i, mae’r teimladau wedi parhau am flwyddyn. Mae’n anodd dirnad bod fy problemau meddyliol wedi deillio o’r un digwyddiad hwn, ond gydag help cwnselydd, dwi’n deall nawr fy mod i’n galaru. Anodd oedd deall sut y gallwn i alaru am rywbeth dwi ddim wedi adnabod na gweld, ond mae hyn yn broses hynod naturiol ar ôl camesgoriad. Mae’r reddf naturiol o roi’r bai ar eich hun ond yn gwaethygu’r sefyllfa. Dwi wedi treulio cymaint o amser yn pendroni ynghylch beth aeth o’i le, beth oeddwn i wedi’i wneud i achosi hyn. Ond dwi’n deall nawr nad oedd unrhyw beth y gallwn i wedi’i wneud i’w osgoi. Mae hyn yn codi’r baich ychydig, ond nid yw’n helpu o ran y gofid sydd gen i am y dyfodol. Dwi’n poeni y bydd yr un peth yn digwydd eto, y bydda i’n cael camesgoriad pan dwi wir am gael plant, mai tynged fy nghorff yw i fethu fel menyw.

Mawr obeithiaf bod fy stori wedi bod o gymorth i rywun sydd wedi bod mewn sefyllfa debyg. Dwi’n credu mai’r peth pwysicaf yw i geisio bod yn agored ynghylch y pwnc. Ni ddylem ni deimlo cywilydd am ein trawma, ac nid oes angen cuddio’r galar sy’n deillio o hynny. Trwy wneud hyn, fy ngobaith yw annog eraill i rannu eu profiadau, i ddechrau trafodaeth â’ch ffrindiau, eich cyd-weithwyr a’ch teulu, er mwyn chwalu’r distawrwydd sydd ynghlwm â’r math hwn o golled.

Cymorth Ychwanegol