Caethineb iselder yng nghanol sefyllfa Coronafirws

Rhybudd cynnwys: Teimladau hunanladdol a Bwyd

Dwi’n stryglo. Dwi’n poeni. Dwi ofn. Ydw i’n iawn i ddweud mod i newydd ddisgrifio yr hyn sy’n mynd drwy feddwl pawb ar hyn o bryd? Mae’r sefyllfa ‘ma yn hunllef. Dwi ofn y peidio gwybod beth sy’n dod nesaf.

Ofn. Pryder. Caethineb. Rhwystredigaeth. Tristwch.

Dwi ddim ofn dros fi fy hun. Mae hynny yn rhywbeth mae iselder wedi ei roi i mi dros y blynyddoedd. Dwi’n poeni dim am fi fy hun. Ond mae’r ofn sydd gennai dros bobl eraill yn annioddefol. Dwi’n poeni amdanynt pob eiliad o’r dydd. Lwmp yn fy ngwddw sydd cau’n glir a mynd. Dagrau yn llifo fel mae’r ofn yn cynyddu. Ond fedrai’m gwneud dim i’w gwarchod na’u hachub o’r hunllef ‘ma.

Mae fy iselder wedi fy ngwneud yn gaeth.

Yn gaeth i drefn sy’n teimlo’n ddiogel. Yn gaeth i furiau dwi wedi eu hadeiladu fy hun. Yn gaeth i reoli faint a be’ dwi’n ei rannu a’i ddangos i bobl. Dwi’n gaeth mewn pob ystyr o’r gair. Ond fedrai’m bod yn gaeth rwan. Dwi’n gorfod dysgu i dynnu’r muriau i lawr. Ond un peth y byddai’n parhau i fod yn gaeth iddo fydd y rheolaeth o faint dwi’n ei ddangos i bobl. Dwi’n un gwael am rannu a gadael pobl i mewn a mae hynny’n wendid enfawr. Ond y gwir ydi, fedra’i ddim. Fedra’i ddim rhoi pobl drwy hynny. Fedrai’m gwneud hynny ar ddiwrnod arferol heb sôn am ar ben popeth sy’n mynd ymlaen yn y byd ar hyn o bryd.

Dwi’n mynd am apwyntiad rheolaidd efo fy meddyg teulu ers y tri mis diwethaf. Oherwydd y sefyllfa Coronafirws, roedd yr apwyntiad diwethaf yn gorfod bod dros y ffôn. Gofynnodd i mi, fel mae hi’n gofyn ym mhob apwyntiad, os oeddwn i’n teimlo’n hunanladdol. Doeddwn i methu ateb. Dwi wirioneddol ddim yn gwybod os ydw i’n teimlo’n hunanladdol. Sut fod rhywun methu gwybod y fath beth? Dwi ‘di byw efo’r teimlad o ddim eisiau bodoli a ddim eisiau deffro yn y bore. Ond mae’r teimladau hynny wedi newid dros yr wythnosau diwethaf. Dwi’n onest yn malio dim os ydw i’n fyw neu yn farw.

Dwi’n meddwl am bobl sydd wedi cymeryd eu bywyd eu hunain ac yn canfod fy hun yn aml yn pendroni sut y daethant i’r penderfyniad a pa ddull wnaethon nhw benderfynu arno. Bydd fy meddwl yn cael ei gipio i fwrlwm o obsesiwn yn ei gylch. Dydw i heb roi cynllun mewn lle. Dydw i heb roi camau mewn lle. Ond doeddwn i methu ateb cwestiwn fy meddyg. Roeddwn i’n teimlo cywilydd o ddweud fy mod i’n teimlo’n hunanladdol oherwydd dydw i ddim wirioneddol yn siwr os ydi’r ffordd dwi’n teimlo yn cael ei ddiffinio fel teimladau hunanladdol. Dwi’n gwybod sut dwi’n teimlo. A dwi’n medru ateb y cwestiwn yn fy mhen, ond mae ei ateb i rhywun arall yn fater arall.

Dwi’n stryglo efo pethau bychain dydd i ddydd ers misoedd.

Llnau’r tŷ, golchi fy ngwallt, siopa bwyd, ffonio am apwyntiadau, cymdeithasu a sgwrsio. Mae’r pethau hyn yn parhau i fod yn strygl anferthol ond dwi’n gorfod dysgu fy hun i’w goresgyn gan bod pobl yn dibynnu arnai ar hyn o bryd. Fi fydd yn siopa i fy rhieni a nain ar y funud oherwydd y sefyllfa Coronafirws. Mae nhw wedi gwneud cyn gymaint i mi, mae’n ddyletswydd arnai i edrych ar eu hôl a sicrhau eu bod yn ddiogel.

Ond dwi’n stryglo. Dwi’n stryglo i fynd i nôl papur newydd i dad yn ddyddiol. Dwi’n stryglo i wneud yn siŵr mod i’n cofio am bopeth mae nhw angen. Dwi’n stryglo i edrych ar luniau o’r plant bach arbennig yn fy mywyd. Dwi’n stryglo wrth feddwl amdanynt. Dwi’n stryglo with feddwl am y tro nesaf y bydd yn rhaid i mi fynd allan o’r tŷ. Dwi’n stryglo wrth feddwl am faint fydd hyn yn mynd ymlaen. Dwi’n stryglo i reoli faint dwi’n fwyta. Dwi’n stryglo i fethu stopio bwyta yn ddi-ddiwedd. Dwi’n stryglo wrth feddwl faint o bwysa dwi am roi mlaen. Dwi’n stryglo wrth feddwl sut mae’r pobl dwi’n eu caru yn ymdopi. Dwi’n stryglo i beidio medru bod yno i bobl eraill. Dwi’n stryglo.

Dwi’n casau fy hun.

Dwi’n gweld cymaint o eiriau positif ar y cyfryngau cymdeithasol ond dwi methu eu teimlo. Mae’r geiriau yn wag i mi. Dwi’n eu darllen ond mae’r ofn a poeni am bobl eraill yn cipio unrhyw allu i’r geiriau fedru sefyll yn fy meddwl.

Dwi’n teimlo’n hynod o hunanol.

Dwi’n byw fesul awr, delio efo pethau un cam ar y tro. A hynny o dan fwgwd fel bod neb yn gweld y straen a’r ymdrech aruthrol. Mae’r dagrau yn cael eu cuddio nes mod i nôl adref yn niogelwch fy nghaethineb.

Os yda chi wedi neu yn teimlo unrhyw beth tebyg i’r hyn dwi wedi sôn amdano uchod, dyda chi ddim ar ben eich hun. Dwi newydd brofi hynny i chi. Dwi ‘di sgwennu’r blog yma efo calon drom, lwmp yn fy ngwddw a llygaid llawn dagrau.

Dwi’n teimlo cymaint o emosiynau ac yn meddwl cymaint o feddyliau. Dwi’n llanast emosiynol. Dwi’n crio dwnim faint o weithiau mewn diwrnod. Dwi’n teimlo’n unig ond dwi’n gwybod mod i ddim fy hun.

Mae’n amser ofnus, pryderus, trist ac unig. Ond dyda chi ddim ar ben eich hun.

Cadwch yn iach. Cadwch yn ddiogel.

Dienw

Rhagor o wybodaeth am iechyd meddwl a’r Coronavirus

Rhannu

Gadael Ymateb