OCD a’r Coronafeirws

Dydy teimlo’n bryderus am bandemig ddim yn unigryw i Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD). Ond wrth gwrs gall ymateb y rhai hynny ohonom sy’n orbryderus, yn enwedig os yw’n ymwneud â heintio, i argyfwng iechyd fod yn eithafol.

Yn ystod achosion iechyd rhyngwladol o’r math yma, cyngor gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, fel arfer, yw i osgoi cyffwrdd ein trwyn a’n ceg ac i olchi’n dwylo yn fwy aml am rhyw 20 eiliad. Cyngor iechyd digon cadarn, ond gydag OCD, yn enwedig i’r rhai â phryder am heintio, gall agor y llifddorau i’r meddyliau ymwthiol (intrusive thoughts) nad ydyn ni eu heisiau ond mae OCD yn eu taflu aton ni.

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun

Nid yn unig bod OCD yn gwneud i ni deimlo ei bod yn debygol iawn i ni ddal y feirws newydd, ond yn waeth byth, bod yn rhaid i ni gymryd pob gofal er mwyn peidio’i drosglwyddo i’r rhai rydyn ni’n eu caru. Mae’r teimlad o risg yn cael ei chwyddo ac yn ein boddi ag euogrwydd am bod posibilrwydd y byddwn ni ar fai am rannu’r feirws, a’r teimladau dwys o euogrwydd yn arwain at ymddygiad sydd y tu hwnt i’r arfer i’r rhai nad yw OCD yn effeithio arnynt. Gall hyn ein llethu yn feddyliol ac yn gorfforol.

Felly beth allwn ni wneud?

Mae cyngor y Llywodraeth yn ddigon synhwyrol a phwyllog, a gallwn ni sydd yn byw ag OCD â phryderon am heintio eu dilyn heb ganiatáu i OCD ei addasu i’w lefelau eithafol ei hun.

Gydag OCD mae ymddygiad gorfodol ac osgoi yn cael ei yrru gan bryderon sy’n plagio ein meddyliau bob dydd, ac wrth gwrs, i nifer ohonom bydd wedi dwysáu yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Y peth pwysicaf nawr yw i ofalu am eich iechyd, yn gorfforol a meddyliol. Felly dyma grynodeb o sut i ymdopi â’r cyfnodau heriol yma heb waethygu’ch OCD.

Crynodeb am Ymdopi ag OCD yn ystod y Coronafeirws

Peidio â rhoi lle i OCD
Mewn sawl ffordd, pryderu am rywbeth all fod yn broblem yw OCD, am fod posibilrwydd y bydd yn broblem. Mewn byd delfrydol byddwn yn dweud wrth ein hunain y byddwn yn poeni amdano os yw’n dod yn broblem, a ddim cyn hynny.

Mae angen ymarfer hynny, ond mae’r newidiadau bach yma yn gymorth i ni newid ein ffocws a gall hyn yn oed leihau’r grym sydd gan OCD i achosi ofn a phryder i ni.

Peidiwch â Dwysáu’r Risg
Mae’r wasg yn gwneud ei orau i godi ofn arnon ni, peidiwch gadael iddo nac OCD dwysáu’r risg. Fel gyda’r rhan fwyaf o’n pryderon OCD, waeth beth ydyn nhw, mae yna risg, gymharol fach, ond bydd OCD yn dwysáu hynny a gwneud iddo ymddangos yn sylweddol fwy nag yw mewn gwirionedd.

Mae CBT yn anodd, ond mae byw gydag OCD yn anoddach!

Efallai na fydd golchi eich dwylo yn unol â’r cyngor, yn hytrach na’r hyn mae OCD yn ei fynnu, yn teimlo’n ddigonol, ond dyna CBT ar waith, rydych chi’n dewis ymatal ag ymddygiad OCD ac yn aros i’r gor-bryder redeg ei gwrs!  Mae e yn eich gallu. Mae CBT yn anodd, ond mae byw gydag OCD yn fwy anodd.

Ymlacio

Mae ymlacio a gwneud beth bynnag sydd yn lleihau straen a phryder yn bwysig, p’unai ymarfer corff, myfyrio neu rywbeth arall yw hwnnw. Mae’n bwysig parhau â nhw yn ystod cyfnodau fel hyn, yn hytrach nag aros i’r meddyliau ymwthiol ddiflannu cyn mynd at unrhyw weithgareddau.

Peidiwch ag aros i feddyliau ymwthiol ddiflannu cyn parhau â’ch bywyd

Os ydyn ni’n caniatáu i OCD reoli ac aros nes i feddyliau nad ydyn ni’n eu dymuno i ddiflannu, fyddwn ni ddim yn gwneud unrhyw beth. Mae hyn yn allweddol i’w gofio gydag OCD, roedd yn berthnasol llynedd ac mae’n dal yn berthnasol nawr.

Peidiwch ag aros i feddyliau ymwthiol eich gadael cyn canolbwyntio ar yr hyn ‘rydych chi eisiau ei wneud. Os gwnewch chi hynny bydd OCD yn eich hatal rhag gwneud popeth sy’n bwysig i chi, yn fwyaf arwyddocaol wrth adeiladu a datblygu perthnasau gyda ffrindiau a theulu.

[Ffynhonnell: OCD UK]