Deall y gwahaniaeth rhwng nerfusrwydd a gorbryder
Mae’n gallu bod yn anodd deall weithiau ai nerfusrwydd neu gorbryder ydyn ni’n ei brofi.
Mae nerfusrwydd yn deimlad y bydd pawb yn ei brofi o bryd i’w gilydd. Gall gorbryder fod yn gyflwr meddygol y gellir ei ddiagnosio. Yn aml, byddwn yn troi at Google i geisio deall y broblem, ond gall hynny ein drysu’n llwyr oherwydd yr holl wybodaeth sydd ar gael, ac oherwydd y byddwn ni’n profi nerfusrwydd yn aml wrth brofi gorbryder.
Sut maen nhw’n cael eu diffinio?
Mae geiriadur Macmillan yn diffinio nerfusrwydd fel ‘teimlo’n gyffrous, yn bryderus, neu ychydig yn ofnus’. Canlyniad rhyw sbardun penodol yw hyn fel arfer.
Bydd gorbryder yn gwneud inni deimlo’n bryderus am ystod eang o faterion. Mae’n gyflwr hirdymor, ac fel arfer bydd y rheini ohonom ni sy’n byw gyda’r cyflwr yn teimlo’n bryderus trwy’r amser, ac yn ei chael hi’n anodd cofio’r tro diwethaf inni deimlo’n llonydd.
Ymateb
Yn aml, mae teimlo’n nerfus yn ymateb i rywbeth penodol. Gall fod yn deimlad ofnadwy, ac rydyn ni’n haeddu cefnogaeth i ymdopi gydag ef, ond fel arfer bydd y teimlad yn pylu.
Mae gorbryder yn salwch a gall ddod mewn tonnau. Bydd adegau pan fyddwn ni’n teimlo’n fwy pryderus nag eraill, ond mae’r teimlad yn tueddu i bara’n hirach na nerfusrwydd. Gall fod yn ymateb i ddigwyddiadau penodol, er enghraifft bydd y rheini sy’n byw gyda gorbryder cymdeithasol yn teimlo’n waeth mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Fodd bynnag, nid yw gorbryder bob tro’n ymateb i ryw sbardun penodol. Weithiau bydd y teimlad yn codi yn hollol ddirybudd.
Hyd yr amser
Un o’r gwahaniaethau mwyaf rhwng nerfusrwydd a gorbryder yw’r cyfnod o amser y bydd y teimladau yn para. Gyda gorbryder, mae ein teimladau a’n symptomau fel arfer yn weddol gyson. Anaml y cawn lawer o ryddhad ganddynt.
Mae nerfusrwydd yn deimlad tymor byr fel arfer. Mae adegau pan all bara am gyfnod, er enghraifft, yng nghanol arolygiad yn y gwaith, gallwn ni deimlo’n nerfus am hyd yr arolygiad. Ond nid yw’n deimlad cyson fel arfer.
Meddyliau tywyll
Gall gorbryder fod mor annioddefol fel ei fod yn achosi meddyliau tywyll ac anodd iawn. Mae’n bosibl y byddwn ni’n troi at hunan-niwedio, neu ymddygiadau hunan niweidiol eraill fel yfed neu ysmygu gormod, er mwyn ymdopi. A dweud y gwir, mae’n gallu bod mor annioddefol i achosi inni feddwl mai hunanladdiad yw’r unig ffordd o ddianc rhagddo. Gall y meddyliau tywyll hyn fod yn barhaus ac yn hollbresennol.
Ymyrryd â bywyd
Pan fyddwn ni’n nerfus, efallai y byddwn ni’n teimlo rhywfaint o anesmwythder ynglŷn â gwneud rhai pethau, ond fel arfer gallwn wneud y pethau hyn er gwaethaf ein teimladau.
Os ydyn ni’n byw gyda gorbryder, mae’n ymyrryd â’n bywydau o ddydd i ddydd. Weithiau gallwn wneud pethau rydyn ni’n arbennig o bryderus amdanyn nhw, er gwaethaf ein teimladau. Fodd bynnag, bydd cyfyngiadau o ryw fath ar ein bywydau yn aml oherwydd bydd llawer o bethau na fyddwn ni’n teimlo y gallwn ni wneud oherwydd effeithiau meddyliol a chorfforol gorbryder.
Pryd i gael help?
Os byddwn ni’n teimlo’n nerfus am bethau, gall fod yn ddefnyddiol iawn i siarad â ffrindiau a theulu amdanynt.
Gall gorbryder fod yn fwy cymhleth, ac os ydyn ni’n poeni ein bod yn profi’r symptomau, ac maen nhw’n ymyrryd â’n bywyd bob dydd, mae’n werth gwneud apwyntiad gyda’r meddyg teulu i drafod ein symptomau. Mae’n bosibl y bydd y symptomau’n pasio, ond mae’n werth trafod i weld a allwn ni gael rhagor o gymorth a chefnogaeth.
[Ffynhonnell: blurtitout.org]
Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.
Cyhoeddwyd: Mehefin 2019. Diweddarwyd: Chwefror 2026.