‘Cymraeg yn y carchar’
Cyn y Nadolig, cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, ei hadroddiad diweddaraf – ‘Cymraeg yn y carchar’ – sy’n cyflwyno canlyniadau ei harolwg o hawliau a phrofiadau carcharorion sy’n siarad Cymraeg.
Yn ei rhagarweiniad i’r adroddiad, noda’r Comisiynydd:
“Mae angen diwallu anghenion iaith carcharorion sy’n siarad Cymraeg er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddynt gael eu hadsefydlu’n effeithiol. Mae galluogi carcharorion i siarad eu hiaith eu hunain yn dangos parch at eu hunaniaeth, ac yn eu galluogi i’w mynegi eu hunain yn well.”
O ystyried ymchwil a phrofiadau sydd eisoes wedi eu rhannu, mae’r adroddiad yn cyflwyno pryderon sydd â goblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer y carcharorion hynny sy’n byw ag anawsterau iechyd meddwl. Mae hyn, wrth reswm, yn destun pryder i griw meddwl.org â ninnau’n ymwybodol fod gan garcharorion fwy o anghenion iechyd meddwl na’r boblogaeth yn gyffredinol, a llai o reolaeth dros eu hanghenion gan fod eu bywyd bob dydd, i bob pwrpas, wedi’i reoli gan y carchar.
Rydym eisoes yn ymwybodol fod cleifion iechyd meddwl yng Nghymru yn annhebygol o ofyn am, nac hyd yn oed defnyddio, gwasanaethau Cymraeg a gynigir iddynt rhag cael eu hystyried yn lletchwith a derbyn gwasanaeth israddol.
Nid yw’n syndod felly fod adroddiad y Comisiynydd yn amlygu bod carcharorion hefyd yn dewis peidio â defnyddio’r Gymraeg neu ofyn am wasanaeth yn Gymraeg yn y carchar er mwyn osgoi ‘gwneud bywyd yn anodd’.
Ymhellach, mae’r adroddiad wedi adnabod bod profiadau unigolion sydd wedi eu lleoli yng Nghymru’n well o ran y Gymraeg na phrofiadau’r rheiny sydd wedi eu lleoli mewn carchardai y tu allan i Gymru. Er ein bod yn falch o glywed hynny, ac yn obeithiol fod agoriad HMP y Berwyn yn cryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg wrth i fwy ohonynt gael eu lleoli yng Nghymru, mae’n codi pryderon sylweddol am y sefyllfa anfanteisiol y mae merched Cymru ynddi gan nad oes carchar i fenywod yng Nghymru o gwbl.
Fel yr eglura’r Comisiynydd yn ei hadroddiad, mae methiant i ddiwallu anghenion iaith carcharor yn gallu bod yn rhwystr i’r gwaith o adsefydlu’r unigolyn hwnnw’n effeithiol. Rydym yn ystyried bod y broses o adsefydlu’n ymwneud yn gryf ag iechyd meddwl, a chan fod sawl agwedd ymddygiadol a gwybyddol yn aml yn perthyn i waith adsefydlu, mae modd ei gymharu â therapïau newid ymddygiad (a ddefnyddir yn aml ym maes iechyd meddwl). Mae ymchwil blaenorol wedi amlygu y gall methiant i dderbyn gwasanaeth therapi o’r fath trwy famiaith arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol a pheryglus ar gyfer cleifion iechyd meddwl – gan gynnwys anawsterau i fynegi, gorwyliadwraeth annaturiol dros beth maent yn ei ddweud a straen diangen wrth geisio mynegi emosiynau cymhleth mewn sefyllfa fregus llawn pwysau. Gall hyn oll gyfyngu ar fanylder cyfraniadau’r claf gan arwain at anawsterau i gael at wraidd y materion sydd angen sylw. Credwn yn gryf mai’r un fyddai’r anawsterau wrth i garcharor geisio llywio ei ffordd drwy’r broses adsefydlu.
Y cam cyntaf wrth adsefydlu yw cynnal yr hyn a elwir yn asesiad cychwynnol er mwyn adnabod problemau ac anghenion carcharorion er mwyn medru penderfynu ar ddull adsefydlu sy’n addas ar eu cyfer nhw. Yn debyg iawn i’r cam o geisio darganfod diagnosis mewn gofal iechyd meddwl, mae cyfathrebu yn gwbl ganolog i’r broses ac mae’r gallu i wneud hynny’n hyderus ac yn rhwydd yn hanfodol er mwyn sicrhau diagnosis cywir. Mae potensial i rwystrau ieithyddol ar y pwynt hwn arwain at gamddiagnosis a thriniaeth anaddas (ac, yn aml, aflwyddiannus). Yr un yw’r egwyddor mewn ymdrechion adsefydlu. Os nad yw’r carcharor yn gallu cyfathrebu’n gwbl naturiol drwy gyfrwng yr iaith sydd fwyaf cyfforddus iddo, mae risg sylweddol a pheryglus y bydd camddealltwriaeth ynghylch ei anghenion yn arwain at driniaeth anaddas. Effaith hyn yn y pendraw yw perygl i lwyddiant y gwaith adsefydlu, gan osod siaradwyr Cymraeg o dan anfantais o’u cymharu â’u cyfoedion Saesneg eu hiaith. O ystyried mai poblogaeth fregus iawn sydd ymysg ein carcharorion, nid yw gwahaniaethu fel hyn yn dderbyniol o gwbl.
Gobeithio y bydd yr argymhellion yn cael sylw er mwyn cynyddu a sicrhau cydraddoldeb i siaradwyr Cymraeg, gan roi sylw penodol i sefyllfa merched yng Nghymru lle nad oes opsiwn ond eu lleoli mewn carchar dros y ffin.
Sophie Ann Hughes