Cam 2 – 12 Cam Alcoholigion Anhysbys i adferiad llawn
Rhagarweiniad
Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys ym 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig – un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth oedd yn mynnu datrysiad ysbrydol. Ym 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut bu i’r can aelod cyntaf o frawdoliaeth AA gyrraedd sobrwydd ac adfer o’u halcoholiaeth. Crisialwyd hyn yn y 12 Cam – rhaglen, dros y blynyddoedd, sydd wedi achub miliynau drwy’r byd o grafangau dieflig alcoholiaeth a dibyniaethau eraill. Ond mae’n rhaglen y gallwn ni i gyd elwa ohoni. Yn wir, rydw i yn grediniol y dylid dysgu’r 12 Cam ymhob ysgol drwy’r wlad. Yn y gyfres yma o erthyglau, byddaf yn disgrifio’r gwahanol gamau.
Cam 2: “Fe ddaethom i gredu fod Pŵer mwy na ni ein hunain yn gallu ein hadfer i’n hiawn bwyll.”
Mae Cam 2 yn rhan o’r rhan gyntaf o’r rhaglen adferiad – Cam 1 i 3.
Y camau hyn yw craidd adferiad ac mae’n hanfodol eu bod yn cael eu selio’n solat ar ein heneidiau. Ni fyddwn yn rhuthro yma a thraw yn gwneud iawn i hwn a’r llall, dadansoddi’n bywydau a delio gyda materion eraill. Mae’r rhaglen adferiad wedi’i gosod allan mewn ffordd syml ond clyfar iawn – canolbwyntiwn ar y pethau pwysig yn gyntaf – a’r peth pwysicaf yw hyn: os na ddown o hyd i Bŵer mwy na ni ein hunain a dod i gredu yn y Pŵer hwnnw/honno, go brin fod gennym siawns o dorri’n rhydd o’n dibyniaeth/ymddygiad niweidiol ac adfer unrhyw drefn i’n bywydau afreolus. Mewn geiriau eraill, heb Dduw, heb ddim.
Chwi gofiwch yng Ngham 1, a drafodwyd y tro diwethaf, mai ein gwaith yn y Stafell Fyw yw datgelu’n raddol i’r dioddefwr y gwirionedd am ei wir gyflwr, sef ei fod yn ddi-bŵer dros y cyffur, a’i adfer i’w iawn bwyll. Gwnawn hynny drwy ganolbwyntio ar y niwed y mae alcohol (a chyffuriau neu ymddygiadau niweidiol eraill) wedi achosi iddo ef neu hi ac i’r rhai maent yn proffesu eu caru.
Cynigiwn iddynt gipolwg ar y boen a’r dioddefaint y mae’r ddibyniaeth wedi’u hachosi iddynt yn ffisegol, feddyliol, ysbrydol ac emosiynol, a gadawn i’r dioddefaint hwnnw – o bosib y grym mwyaf creadigol ym myd natur – eu perswadio i newid eu ffyrdd. Drwy hyn, gobeithiwn agor eu llygaid i ddifrifoldeb eu cyflwr ac, yn fwy na dim, i’r ffaith na all un pŵer meidrol eu harbed rhag canlyniadau’r cyflyrau rheiny. Felly, os na fedraf fi ac os na fedran nhw arbed eu hunain, pwy all?
A dyna bwrpas Cam 2: dod i gredu y gall Pŵer mwy na ni wneud drosom yr hyn na allwn ei wneud drosom ni ein hunain.
Ystyfnigrwydd
Ac yma canfyddwn broblem sy’n gyffredin iawn i staff y Stafell Fyw: ystyfnigrwydd y meddwl caeedig. Mae meddwl caeedig yn rhwystr i bob deall ac addysg, a dyna pam bod meddu ar feddwl agored yn hanfodol os ydym i ganfod Pŵer trawsnewidiol all achub ein bywydau.
Mae’r gwrthwynebiad i’r Cam hwn, sut bynnag, yn naturiol iawn os yw’r Pŵer yng Ngham 2 yn cael ei gysylltu â’r Duw wnaeth fradychu’r adict pan oedd yn blentyn. “Pwy yw’r Duw hwn sy’n cadw’r bobl ddrwg tra’n cymryd y bobl dda?” neu “Pa fath o Dduw fyddai’n cymryd fy Nhaid/Tadcu oddi arnaf?” Yn fy achos i, roeddwn yn arfer meddwl mai marwolaeth fy Nhad oedd yn fy chwerwi – ond rwy’n deall nawr mai colled fwy o lawer oedd y colli ffydd yn fy nghalon.
Nid yw plant, yn ôl Gabor Maté, yr awdur a’r cyn-golofnydd meddygol, yn deall metafforau. Pan glywant “Duw’r Tad” nid ydynt yn deall bod y geiriau hyn yn sefyll am y cariad, yr undod a’r pŵer creadigol cynhenid sydd yn y bydysawd. Dychmygant hen ddyn rhywle uwchben yn y cymylau. I rai gall hyd yn oed ymdebygu i’r Taid/Tadcu wnaeth eu treisio. I bobl ifanc, os nad yw’r Duwdod yn amlygu ‘i hun yng ngweithredoedd y bobl rheiny sy’n llenwi’u byd, mae’r gair Duw yn troi’n rhagrith.
Tlodi Ysbrydol
Wrth roi ei ffydd mewn pethau/sylweddau/pobl/ymddygiadau niweidiol y tu allan iddo ef/hi ei hun – dyna yw dibyniaeth (addiction): defnyddio pethau y tu allan i ni’n hunain i wneud i ni deimlo’n well, a hynny er waethaf canlyniadau negyddol i ni’n hunain ac i eraill – mae’r adict yn colli nabod ar y person ‘authentic’ y tu mewn ac yn gweld ei hun fel rhyw ego pitw sy’n gorfod crafu a begera am bob owns o fodlonrwydd yn y byd a’i bethau. Nid dioddefaint corfforol; nid poen meddwl nac emosiynol sy’n dod â phobl i’r Stafell Fyw yn chwilio am help, ond y tlodi ysbrydol enbyd hwnnw sy’n dilyn ymddygiad o’r fath. Nid oes ganddynt syniad pwy neu beth ydynt, a dioddefant o faich annioddefol unigrwydd a’r syniad affwysol o arwahanrwydd oddi wrth eu hunain, eu cyd-ddyn ac oddi wrth y Creawdwr. Dim ond yr adict sy’n gwybod gwir ystyr unigrwydd.
Dyma’r tlodi y cyfeiria Iesu ato: “Pan fyddwch yn nabod eich hunain, byddwch yn cael eich adnabod, a byddwch yn deall mai chi ydy plant y Tad byw. Ond os nad ydych yn nabod eich hunain, yna rydych mewn cyflwr o dlodi, a chi ydy’r tlodi hwnnw.” Efengyl Thomas.
Sylweddoli’r tlodi hwn yn aml iawn yw dechrau’r broses tuag at berthynas lawn â’r Creawdwr; ac mae’n dechrau’n aml gyda’r cyfaddefiad yma: “Dydw i ddim yn credu mewn Duw, ond o leiaf drwy Gam 2 rydw i wedi derbyn nad fi ydy O neu Hi!”
Rhaid i ni ofyn un cwestiwn byr i ni ein hunain yn unig: “Ydw i’n credu neu ydw i hyd yn oed yn fodlon credu bod yna Bŵer mwy na mi fy hun?”
Proses
Proses yw Cam 2 felly:
FE DDAETHOM I’R STAFELL FYW (neu ganolfan debyg am help)
FE DDAETHOM I SYLWEDDOLI (anallu’n ego i’n cadw’n ddiogel neu’n dawel neu’n hapus)
FE DDAETHOM I GREDU (mai Pŵer mwy na ni ein hunain yn unig allai wneud hynny)
Sylwch hefyd ar y cymal ‘…ein hadfer i’n hiawn bwyll’.
Gwallgofrwydd, yn ôl Albert Einstein yw ‘gwneud yr un peth drosodd a throsodd gan ddisgwyl canlyniadau gwahanol’.
Fy niffiniad i o wallgofrwydd yw’r anallu i amgyffred yn llawn ein gwir gyflwr. Cael ein hadfer i’n hiawn bwyll felly yw medru amgyffred yn llawn ein gwir gyflwr. Pan ystyriwch mai dibyniaeth yw un o’r ychydig gyflyrau sy’n mynnu dweud wrthych nad oes dim byd yn bod arnoch, gellwch ddeall pam bod fy niffiniad i yn gweddu i’r dim i’r cyflwr. Cael ein hadfer i’n hiawn bwyll yw medru gweld ein hunain, fel y dywedodd Cromwell “warts and all” – heb unrhyw ymwadiad – y da a’r gwachul.
Dylid pwysleisio yma mai rhaglen ysbrydol yw’r 12 Cam ac nid rhaglen grefyddol. Mae crefydd yn hysbysu ond mae CARIAD yn ffurfio a thrawsnewid. Rydym yn edrych am berthynas gyda Phŵer mwy na ni’n hunain nid trefniant.
Ar ryw adeg ym mywydau pob un ohonom yn ddiwahân mae’n rhaid i ni ateb dau gwestiwn: ‘Pwy neu beth ydw i?’ a ‘Pwy neu beth ydy Duw?’ Ac mae’n rhaid i ni ddarganfod yr atebion i’r ddau gwestiwn yna drosom ni ein hunain. Fel rheol, rhyw argyfwng neu ddioddefaint sy’n rhagflaenu’r cwestiynu – er, yn aml iawn, agosatrwydd marwolaeth sy’n eu gorfodi arnom. Gwelwch felly pam bod dioddefaint yn arf mor bwerus yn y Stafell Fyw ac yn yr holl broses o adferiad.
Oherwydd, wedi derbyn deffroad ysbrydol o ganlyniad i’r 12 Cam – astudiaeth sydd wedi’i ysgogi gan y dioddefaint hwnnw gyda llaw ac nid trwy fynd i’r capel neu’r eglwys sylwch (er bod tystiolaeth yn awgrymu bod ffydd grefyddol yn hwyluso’r broses) – mae’n anorfod y bydd yr adict, os yw o ddifri, yn gallu ateb y ddau gwestiwn. Nid yn unig hynny ond, fel y wraig honno yn y Beibl sy’n dioddef o’r gwaedlif ac sy’n cyffwrdd mantell yr Iesu yn y sicrwydd pendant y bydd yn derbyn adferiad llawn, mae’r adict yntau, maes o law, yn dod i wybod bod Duw yn bod yn hytrach na fel y mwyafrif ohonom sydd ond yn credu fod Duw yn bod. A’r rheswm am hynny yw bod Duw yn gwneud drosto – ei alluogi i roi’r gorau i’w gyffur neu i’r ymddygiad caethiwus – rhywbeth na all o wneud drosto ef ei hun.
Ond mae ffordd bell eto i fynd ar y daith i sobrwydd llawn a chyflawnder. Mae diffygion cymeriad lu yn ein rhwystro rhag cael cysylltiad ymwybodol â’r Creawdwr. Mae’r tiwb at Dduw wedi’i flocio.
Tro nesaf byddwn yn edrych ar GAM 3 ‘Gwnaethom benderfyniad i droi ein hewyllys a’n bywydau i ofal Duw fel yr ydym yn ei ddeall ef.’ A hwn yw’r Cam sy’n gwahanu’r dynion oddi wrth y bechgyn a’r menywod oddi wrth y genethod! A’r cam hwn yw’r allwedd i ddechrau dadflocio’r tiwb at Dduw.
< Cam 1 | Cam 3 >
Wynford Ellis Owen
Ymgynghorydd cwnsela arbenigol
wynfordellisowen@adferiad.org / 07796464045