Cam 3 – 12 Cam Alcoholigion Anhysbys i adferiad llawn

Rhagarweiniad

Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys ym 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig – un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth oedd yn mynnu datrysiad ysbrydol. Ym 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut bu i’r can aelod cyntaf o frawdoliaeth AA gyrraedd sobrwydd ac adfer o’u halcoholiaeth. Crisialwyd hyn yn y 12 Cam – rhaglen, dros y blynyddoedd, sydd wedi achub miliynau drwy’r byd o grafangau dieflig alcoholiaeth a dibyniaethau eraill. Ond mae’n rhaglen y gallwn ni i gyd elwa ohoni. Yn wir, rydw i yn grediniol y dylid dysgu’r 12 Cam ymhob ysgol drwy’r wlad. Yn y gyfres yma o erthyglau, byddaf yn disgrifio’r gwahanol gamau.

Cam 3: “Fe wnaethom benderfyniad i droi ein hewyllys a’n bywyd i ofal Duw – fel yr ydym yn ei ddeall.”

Rydym wedi edrych ar Gam 1 a Cham 2 – rydym wedi ildio i’r ffaith nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y cyffur neu’r ymddygiad niweidiol sydd wedi’n caethiwo, ac rydym wedi dangos ein parodrwydd i drio cysylltu gyda Phŵer mwy na ni’n hunain – pŵer a all, o bosib, wneud drosom yr hyn na allwn ei wneud drosom ni ein hunain. Mae hyn wedi’n llenwi am y tro cyntaf gyda’r ymdeimlad cryf o obaith. Ond os na wnawn ni droi’r gobaith hwnnw’n weithredu – a hynny’n gyflym, fe ddiflanna mor sydyn â niwl y bore, ac fe fyddwn ni nôl lle dechreuson ni. Y gweithredu sy’n rhaid inni ei wneud yw gweithio Cam 3.

Penderfyniad

Y weithred ganolog yng Ngham 3 yw gwneud penderfyniad. Mae’r syniad o wneud penderfyniad yn ein dychryn, yn enwedig pan ystyriwn beth rydym yn bwriadu ei wneud yn y Cam hwn. Mae ‘gwneud penderfyniad’ yn rhywbeth nad ydym wedi’i wneud ers tro byd. Yn y gair Saesneg, ‘decide’, yr un peth yw’r elfen ‘–cide’ ag yn y gair ‘suicide’, ac ofnwn y bydd gwneud penderfyniad yn lladd hanner ein hopsiynau. Gwell gennym yn aml eistedd nôl a disgwyl i’r penderfyniad gael ei wneud drosom gan ein dibyniaeth, gan yr awdurdodau neu, yn niffyg hynny, gan ryw ymyrraeth ddwyfol. Pan ychwanegwn at hyn y cysyniad o ymddiried y gofal am ein hewyllys a’n bywyd i rywbeth nad yw’r mwyfafrif ohonom yn ei ddeall ar hyn o bryd, mae peryg inni feddwl bod y cyfan yn ormod inni, a dechrau chwilio am ffordd rwyddach o weithredu’r 12 Cam. Mae rhain yn feddyliau peryglus, oherwydd pan gymrwn ffordd rwyddach, esmwythach, mae peryg inni danseilio’n hadferiad.

Mae’n arwyddocaol bod y Cam hwn yn awgrymu ein bod yn troi ein hewyllys a’n bywyd i ofal Duw, fel yr ydym yn ei ddeall. Mae’r geiriau hyn yn arbennig o bwysig. Drwy weithio Cam 3, rydym yn caniatáu i rywun neu rywbeth ofalu amdanom – yn hytrach na’n rheoli. Dyw’r Cam hwn ddim yn golygu ein bod yn robotiaid heb y gallu i fyw ein bywydau ein hunain. Yr unig beth rydym yn ei wneud yw newid cyfeiriad – a derbyn yr arweiniad gawn ni gan y Pŵer yma sydd am ofalu amdanom.

Hunan-adnabyddiaeth

Ar ryw adeg ym mywydau pob un ohonom yn ddiwahân mae’n rhaid i ni ateb dau gwestiwn: ‘Pwy neu beth ydw i?’ a ‘Pwy neu beth ydy Duw?’. Ac mae’n rhaid i ni ddarganfod yr atebion i’r ddau gwestiwn yna drosom ni ein hunain. Rhaglen o hunan-adnabyddiaeth yw’r 12 Cam – ac fe ddown i adnabod a chofleidio ni’n hunain, y da a’r drwg, yng Ngham 4. Yng Ngham 3, sut bynnag, mae’n rhaid inni ddod i ryw fath o gasgliad ynglŷn â beth mae’r gair ‘Duw’ yn ei olygu i ni fel unigolion. Does dim rhaid i’r casgliad hwnnw fod yn gymhleth nac yn gyflawn. Does dim rhaid iddo fod yn debyg i un neb arall, chwaith – a gall fod yn wrywaidd neu fenywaidd; yn Ef neu Hi. Cofiwch mai gwneud penderfyniad yn unig ydym yng Ngham 3. Yr unig beth sy’n hanfodol yw ein bod yn dechrau taith fydd yn caniatáu inni ddwysáu ein dealltwriaeth o’r ysbrydol.

Ac yma canfyddwn broblem y down ar ei thraws yn aml iawn yn y Stafell Fyw: ystyfnigrwydd y meddwl caeëdig. Yn ôl Herbert Spencer, “Mae un egwyddor sy’n rhwystr i bob gwybodaeth, yn brawf yn erbyn pob ymresymiad, ac sy’n cadw dyn yn fythol anwybodus – a’r egwyddor honno yw dirmyg cyn ymchwiliad.”

Mae’r gwrthwynebiad i’r Cam hwn, sut bynnag, yn naturiol iawn os yw’r Duw sydd yma yn cael ei gysylltu â’r Duw wnaeth fradychu’r adict pan oedd yn blentyn. “Pwy yw’r Duw hwn sy’n cadw’r bobl ddrwg tra’n cymryd y bobl dda?” neu “Pa fath o Dduw fyddai’n cymryd fy Nhaid/Tadcu oddi arnaf?” Yn fy achos i, roeddwn yn arfer meddwl mai marwolaeth fy Nhad oedd wedi fy chwerwi – ond rwy’n deall nawr mai colled fwy o lawer oedd y colli ffydd yn fy nghalon.

Nid yw plant, yn ôl Gabor Maté, yr awdur a’r cyn-golofnydd meddygol, yn deall metafforau. Pan glywant y geiriau ‘Duw’r Tad’ nid ydynt yn deall eu bod yn cynrychioli’r cariad, yr undod a’r pŵer creadigol cynhenid sydd yn y bydysawd. Dychmygant hen ddyn rywle uwchben y cymylau. I rai gall hyd yn oed ymdebygu i’r Taid/Tadcu wnaeth eu treisio. I bobl ifanc, os nad yw’r Duwdod yn amlygu ‘i hun yng ngweithredoedd y bobl hynny sy’n llenwi’u byd, mae’r gair ‘Duw’ yn troi’n rhagrith.

Mae AA yn awgrymu felly ein bod yn dewis Duw sy’n gariadus a gofalus ac yn fwy na ni ein hunain. Gall hyn gwmpasu hynny o ddehongliadau o Dduw ag sydd yna o aelodau yn AA. Nid oes neb yn cael eu cau allan, felly. Bydd ein cysyniad o Dduw yn tyfu wrth inni dyfu yn ein hadferiad. A bydd gweithio Cam 3 yn ein helpu i ddarganfod beth sy’n gweithio orau i ni. Yn Stafell Fyw Caerdydd anogwn bawb i fabwysiadu meddwl agored wrth ystyried beth mae’r gair ‘Duw’ yn ei olygu iddynt.

Bod yn hytrach na byw

Mae Cam 3 yn bwysig oherwydd ein bod wedi gweithredu ar hunan-ewyllys cyhyd gan afradu ein hawl i wneud dewisiadau a phenderfyniadau. Felly beth yn union ydy hunan-ewyllys (self-will)? Yn aml iawn mae’n golygu ein bod yn celu ein gwir emosiynau rhag ein hunain a rhag y byd, gan greu ynom yr ymdeimlad o arwahanrwydd – rhwng yr hyn ydym a’r hyn y dylem fod. Ei ben draw yw bod y dioddefwr yn bod (yn hytrach na byw) dan faich annioddefol unigrwydd heb falio am ddim byd arall ond am leddfu’i boen ei hun; mae fel byw gyda’r ddannodd yn barhaus. Anwybyddwn anghenion a theimladau pawb arall gan yrru’n orffwyll drwy fywydau aelodau’r teulu, ffrindiau ac estroniaid fel ei gilydd, heb fod yn ymwybodol o’r llanast a’r dinistr a adawn o’n hôl. Mor brysur ydym yn trio cael ein ffordd ein hunain fel y collwn bob cysylltiad â’n cydwybod a chyda’r Creawdwr. Rydym fel llong fechan ar fôr tymhestlog heb lyw ac heb gapten. Fe’n teflir o don i don ac â’n bywydau’n anhydrin a di-drefn. Mae’n ddisgrifiad reit agos o Uffern os ystyriwch y peth – a chan mai dim ond yr adict sy’n gwybod gwir ystyr unigrwydd, mae ar ei ben ei hun yn yr Uffern honno.

I weithio Cam 3, mae’n rhaid i bob un ohonom fod yn onest a chyfaddef yr amryfal ffyrdd yr ydym wedi gweithredu ar hunan-ewyllys, a’r niwed mae hynny wedi’i achosi i ni’n hunain ac i eraill.

Mae’n siwr bod rhai ohonoch yn dechrau meddwl yma beth yn union yw ewyllys Duw ar ein cyfer, a bod y Cam yma yn gofyn inni ddarganfod hynny. Ni fyddwn yn canolbwyntio ar ddarganfod ewyllys Duw ar ein cyfer nes inni gyrraedd Cam 11. Dechrau’r broses yn unig a wnawn yng Ngham 3. Serch hynny, gallwn ddod i rai canlyniadau syml fydd yn help inni ar ddechrau’r daith fel hyn. Er enghraifft, ewyllys Duw i ni yw inni beidio yfed alcohol (neu gymryd cyffur neu ymhel ag ymddygiad niweidiol arall) ac i wneud pethau fydd yn help inni adfer – fel mynd i gyfarfodydd AA, neu fynychu’r Stafell Fyw, a dechrau bod yn onest am yr hyn rydym yn ei wir deimlo ac yn ei wir feddwl.

Y broses

I grynhoi a symleiddio’r broses hyd yma, felly:

CAM 1: Ni allaf fi. (Rwy’n ddi-bŵer dros y cyffur neu ymddygiad niweidiol.)

CAM 2: Gall Ef neu Hi. (Dôf i gredu y gall Pŵer mwy na fi fy hunan fy adfer i’m hiawn bwyll fel y gallaf wrthsefyll yr ysfa i gymryd y cyffur.)

CAM 3: Ildiaf iddo Ef neu Hi. (Gadawaf iddo Ef neu Hi wneud drosof yr hyn na allaf ei wneud drosof fi fy hunan.)

Ar ôl gweithio CAM 3 daw’r dirgel yn hysbys – weithiau’n raddol ac weithiau’n sydyn. Yn aml iawn, o fethu cofio enghreifftiau o ymddygiadau niweidiol tuag at eraill, yn sydyn, mae fel petai llen yn cael ei thynnu i ddatgelu’r gwir mewn paratoad ar gyfer Cam 4 – pan fydd y dioddefwr yn gorfod derbyn rhai gwirioneddau anghyfforddus ac annifyr amdano’i hun. Bydd yn gorfod wynebu a derbyn fod mwy fyth o dduwch i’w enaid nad oedd wedi dychmygu’n wreiddiol. ‘Caru’r cancr tu fewn’ dwi’n galw’r broses hon yn y Stafell Fyw. Mae’r cysyniad o garu rhywbeth sy’n ein lladd yn elyniaethus inni. Ond yn y frwydr ysbrydol hon, dyna’r unig ffordd. Mae’r adict yn gorfod derbyn a chofleidio’r annerbyniol – yn wir, mae’n gorfod dysgu ‘caru ei elynion’ (ochr ddu ei enaid) fel y’i cynghorwyd ef i wneud gan yr Iesu. Ond mwy am hynny tro nesaf.

Dyma’r weddi y byddaf yn ei defnyddio yn y Stafell Fyw pan fyddaf yn gweithio Cam 3. Yn bersonol, byddaf yn mynd ar fy ngliniau i weddïo’r weddi drawsnewidiol hon ac yn gofyn i bawb arall barchu’r tawelwch sy’n ei dilyn bob amser.

‘Duw, rydw i’n cynnig fy hun i ti – i adeiladu gyda mi ac i wneud gyda mi fel y mynnot. Rhyddha fi o gaethiwed yr hunan fel y gallaf wneud dy ewyllys di yn well, a dwg ymaith oddi wrthyf fy holl anawsterau fel bod goruchafiaeth drostynt hwy yn tystiolaethu i’r rhai a wnawn eu helpu am dy nerth, am dy gariad, ac am dy ffordd di o fyw. Boed imi wneud dy ewyllys di’n wastadol. Amen.’

Wedi gweddïo’r weddi hon yn ddyddiol, dwy’n gofyn am ddim, yn disgwyl dim, ac yn derbyn popeth sy’n dod.

< Cam 2 | Cam 4 >

Wynford Ellis Owen
Ymgynghorydd cwnsela arbenigol

wynfordellisowen@adferiad.org / 07796464045