Cam 1 – 12 Cam Alcoholigion Anhysbys i adferiad llawn
Dyma’r Cam 1af mewn adferiad…
Rhagarweiniad
Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys ym 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig – un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth oedd yn mynnu datrysiad ysbrydol. Ym 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut bu i’r can aelod cyntaf o frawdoliaeth AA gyrraedd sobrwydd ac adfer o’u halcoholiaeth. Crisialwyd hyn yn y 12 Cam – rhaglen, dros y blynyddoedd, sydd wedi achub miliynau drwy’r byd o grafangau dieflig alcoholiaeth a dibyniaethau eraill. Ond mae’n rhaglen y gallwn ni i gyd elwa ohoni. Yn wir, rydw i yn grediniol y dylid dysgu’r 12 Cam ymhob ysgol drwy’r wlad. Yn y gyfres yma o erthyglau, byddaf yn disgrifio’r gwahanol gamau.
Cam 1: “Rydym yn cyfaddef ein bod yn ddi-bŵer dros alcohol a bod ein bywydau allan o reolaeth.”
Mae ochr ddu i’n heneidiau. Dyna mae’n ei olygu i fod yn ddynol. Ond mae gormod o lawer ohonom yn cuddio’r ochr ddu honno oddi wrth ein hunain ac oddi wrth y byd. Byddwn yn perfformio i ddangos yr hyn rydym yn tybio y mae’r person arall eisiau ei weld ynom; yr hyn rydym yn tybio y mae’r person arall eisiau ei glywed gennym. I bob pwrpas rydym yn byw bywyd anonest; yn ceisio bod yn rhywbeth nad ydyn ni.
Dyma un o wersi mawr bywyd yr ydym eto i’w dysgu. Drwy beidio â chofleidio a derbyn ochr ddu ein heneidiau – hynny yw, barnu rhai agweddau o’n hunain i fod yn ddrwg ac yn bechadurus, yn hytrach na’u derbyn fel rhan o’r natur ddynol a’u cymodi â ni ein hunain – arfogwn hwynt â grym negyddol sydd yn cryfhau eu pŵer drosom. Y duedd ynom i guddio ochr ddu’r enaid rhag ein hunain a rhag y byd sydd wrth wraidd llawer iawn o’n problemau yn y Gorllewin heddiw. Mae’n creu’r ymdeimlad o arwahanrwydd – nid yn unig oddi wrth y Creawdwr a’n cyd-ddyn, ond yn y cefndir mae’r ymwybyddiaeth gynyddol honno o’r gagendor sy’n bodoli rhwng yr hyn ydym a’r hyn y dylem fod.
Yn y Stafell Fyw ein gwaith yw annog pobl i dderbyn a chofleidio ochr ddu eu heneidiau – eu dysgu i fod yn ddynol, mewn geiriau eraill. Anogwn hwynt i ‘garu’r cancr tu fewn’. Nawr, mae caru rhywbeth sy’n ein lladd yn wrthun gennym. Ond yn y frwydr ysbrydol hon, dyna’r unig ateb; rhaid dysgu caru ein gelynion fel y dysgodd Crist i ni wneud; dysgu caru rhai agweddau annymunol ac anghyfforddus o’n hunain – y gwachul ynghyd â’r da.
Y broses
Mae pawb yn y byd, dybiwn i, yn gwybod na all alcoholig adfer nes iddo dderbyn ei fod yn alcoholig. (Mae hynny’n wir am bob cyflwr dynol arall hefyd.) Ond yr hyn mae’r alcoholig yn ei wneud mewn gwirionedd yw cofleidio ochr ddu ei enaid; derbyn rhai gwirioneddau anghyfforddus ac annymunol amdano’i hun, a derbyn y rheini i waelodion ei enaid.
Dyma yw hanfod Cam 1 yn rhaglen adferol 12 Cam Alcoholigion Anhysbys (AA). “Rydym yn cyfaddef ein bod yn ddi-bŵer dros alcohol a bod ein bywydau allan o reolaeth.” Y rhwystr pennaf i hyn ddigwydd yw’r ffaith fod dibyniaeth (addiction) yn un o’r cyflyrau hynny sy’n mynnu dweud wrthym nad oes dim byd yn bod arnon ni. Yn Cam 1 felly, ein gwaith yw datgelu i’r dioddefwr, yn raddol, y gwirionedd am ei wir gyflwr, sef ei fod yn ddi-bŵer dros y cyffur, ac yna ei adfer i’w iawn bwyll. Gwnawn hynny drwy ganolbwyntio ar y niwed y mae alcohol (a chyffuriau neu ymddygiadau niweidiol eraill) wedi achosi iddo ef neu iddi hi ac i’r rhai maent yn eu caru.
Cynigiwn iddynt gipolwg ar y boen a’r dioddefaint y mae’r ddibyniaeth wedi’u hachosi iddynt yn gorfforol, yn feddyliol, yn ysbrydol ac yn emosiynol, a gadawn i’r dioddefaint hwnnw – o bosib y grym mwyaf creadigol ym myd natur – eu perswadio i newid eu ffyrdd.
Paradocs
Dyma ble canfyddwn y paradocs cyntaf yn y 12 Cam – sef y gallu i ddal ynghyd ddau eithaf mewn un llaw a gwneud synnwyr perffaith o’r ddau. Sut gallwn ni gyfaddef a derbyn ein bod yn ddi-bŵer dros rywbeth, a thrwy hynny, ganfod y llwybr i adferiad o’r rhywbeth hwnnw? Mewn geiriau eraill, sut gallwn ni ildio mewn brwydr ac ennill y frwydr honno ar yr un pryd?
Mae’r 12 Cam wedi eu seilio ar y rhagdybiaeth na all un pŵer meidrol ein harbed o’n halcoholiaeth. Felly, os na fedraf fi ac os na fedrwch chi arbed eich hunain, pwy fedr? A dyna holl bwrpas y 12 Cam – ein harwain at y Pŵer (yn Cam 12) a all wneud drosom yr hyn na allwn ei wneud drosom ni ein hunain.
Mae grym anghyffredin mewn cyfaddef ein bod yn ddi-bŵer dros rywbeth. Cyfaddefwn na fedrwn roi’r gorau i yfed ein hunain a’n bod yn fodlon derbyn help o ba gyfeiriad bynnag y daw. Dyna pryd mae gras Duw fel yr ydym yn ei ddeall Ef yn cael gofod i ddechrau gweithredu’n drawsnewidiol arnom. Pan ydym ar ein gwannaf, felly, ac yn fodlon derbyn yr annerbyniol – yn baradocsaidd – rydym ar ein cryfaf.
‘Cerddediad drwy Uffern’
Mae maddeuant, cariad dan reolaeth agape, a ‘cherddediad drwy Uffern’ yn hanfodol i hyn ddigwydd wrth gwrs. Ond mwy am y ddau gyntaf yng nghamau 4, 8 a 9. Mae Cam 1 yn ymwneud â ‘cherddediad drwy Uffern’ – a’r mwyaf Uffernol yw’r cerddediad hwnnw, gorau’n y byd. Dyna sy’n rhoi i ni’r parodrwydd a’r gwyleidd-dra i newid ein ffyrdd. Gorfoda ni hefyd i fabwysiadu meddwl agored a dechrau coleddu gonestrwydd yn ein byw bob dydd; gonestrwydd sy’n ein galluogi i dderbyn yr hyn yr ydym yn ei deimlo, i dderbyn yr hyn yr ydym yn ei feddwl, ac i dderbyn yr hyn ydym, y da a’r drwg.
Y tro nesaf
Yn Cam 2 edrychwn ar sut ‘y daethom i gredu fod Pŵer mwy na ni ein hunain yn gallu ein hadfer i’n iawn bwyll’. Ac mae’r broses yn golygu ein bod yn ateb y ddau gwestiwn y mae’n rhaid i bob un ohonom eu hateb ar ryw adeg yn ein bywydau: ‘Pwy neu beth ydw i?’ a ‘Pwy neu beth ydy Duw?’.
Dewch gyda mi felly ar y daith fwyaf anturus, ddadlennol a chynhyrfus sy’n bod – y daith tuag at hunan adnabyddiaeth lawn, tuag at gyflawnder, a thuag at undod gwynfydedig â Duw fel yr ydym yn ei ddeall Ef. Taith sy’n dechrau drwy dderbyn fod ‘crac’ ynom i gyd – ein bod ni i gyd, yn ddiwahân, yn berffaith amherffaith, a bod Duw yn ein caru ni nid er gwaethaf ond oherwydd hynny.
A chofiwch hyn, gallwch gyfnewid y gair ‘alcohol’ am unrhyw gyffur, ymddygiad niweidiol, neu stâd meddwl negyddol arall rydych yn dioddef ohonynt, neu unrhyw anhawster y mae bywyd yn ei daflu atoch – gallwch ddefnyddio’r 12 Cam ym mhob agwedd o’ch bywyd.
Dyna pam rwy’n grediniol y dylid dysgu’r 12 Cam – sydd wedi’u disgrifio fel ‘rhodd Duw i’r 21 Ganrif’ – i bob plentyn ymhob ysgol drwy’r wlad – am mai rhaglen ydyw sy’n ein dysgu sut i fyw, sut i fod yn ‘true to nature’ fel y dywedodd Wil Brian ‘stalwm, a sut i ganfod a chynnal cysylltiad ymwybodol â Duw; cysylltiad sy’n ein galluogi i fyw bywydau y tu hwnt i’n holl freuddwydion.
Cam 2 >
Wynford Ellis Owen
Ymgynghorydd cwnsela arbenigol
wynfordellisowen@adferiad.org / 07796464045