RCS Gwasanaeth Cymraeg

Cefnogaeth yn y gweithle. Darperir y gwasanaeth yn y gogledd.

Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn cynnig cymorth am ddim a chwbl gyfrinachol i helpu gweithwyr i ddychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb oherwydd salwch. Maent hefyd yn cefnogi gweithwyr sydd yn mynd i’r gwaith, ond na allant berfformio’n effeithiol oherwydd iechyd corfforol neu emosiynol gwael.

Mae’r gwasanaeth ar gael i bobl gyflogedig neu hunangyflogedig sy’n byw neu’n gweithio yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Gwynedd ac Ynys Môn.