Iselder ôl-enedigol ac iechyd meddwl amenedigol

Postnatal depression and perinatal mental health

Mae problem iechyd meddwl ‘amenedigol’ yn un rydych yn ei chael unrhyw bryd rhwng yr adeg rydych chi’n canfod eich bod yn feichiog hyd at flwyddyn ar ôl i chi roi genedigaeth.

Mae cael babi yn ddigwyddiad pwysig mewn bywyd, ac mae’n naturiol profi amrywiaeth o emosiynau ac ymatebion yn ystod eich beichiogrwydd ac ar ôl hynny. Ond os bydd unrhyw deimladau anodd yn dechrau cael effaith fawr ar eich bywyd bob dydd, efallai fod gennych broblem iechyd meddwl amenedigol. Gallai hon fod yn broblem iechyd meddwl newydd, neu’n rhan o broblem rydych wedi ei chael yn y gorffennol.

Gall fod yn anodd iawn gallu siarad yn agored am sut rydych yn teimlo pan fyddwch yn dod yn rhiant newydd. Efallai y byddwch chi’n teimlo:

  • dan bwysau i fod yn hapus ac yn llawn cyffro
  • bod yn rhaid i chi fod mewn rheolaeth o bopeth
  • yn bryderus eich bod yn rhiant gwael os ydych yn cael trafferth ymdopi â’ch iechyd meddwl
  • yn poeni y bydd eich babi yn cael ei gymryd oddi arnoch os byddwch yn cyfaddef sut rydych yn teimlo

Ond mae’n bwysig gofyn am help os bydd ei angen arnoch. Rydych yn debygol o weld bod llawer o famau newydd yn teimlo’r un fath.

Problemau iechyd meddwl amenedigol cyffredin

  • Iselder amenedigol
  • Gorbryder amenedigol
  • OCD amenedigol
  • Seicosis ôl-enedigol
  • PTSD ôl-enedigol

Iselder cyn-enedigol ac ôl-enedigol

Mae iselder ôl-enedigol yn rhywbeth y mae nifer o bobl yn ymwybodol ohono, ond mae’n llai hysbys y gallwch brofi iselder yn ystod beichiogrwydd hefyd. Nid yw’r symptomau yn wahanol i rai iselder ar adegau eraill, ond mae iselder ar yr adeg hon hefyd yn effeithio ar y berthynas rhwng y fam a’r plentyn.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng iselder ôl-enedigol a’r ‘felan’ (baby blues)?

Mae’r ‘felan’ yn cyfeirio at gyfnod byr o deimlo’n emosiynol ac yn ddagreuol tua 3 i 10 diwrnod ar ôl rhoi genedigaeth, ac mae’n effeithio ar tua 85% y cant o famau newydd. Er y gall y felan fod yn anodd, mae’n bwysig bod yn ymwybodol nad yw’n para am gyfnod hir – dim ond ychydig ddiwrnodau fel arfer – ac mae’n gymharol hawdd i’w reoli.

Mae tua 10%–15% o famau newydd yn datblygu iselder llawer mwy dwys sy’n para am gyfnod hwy, sef iselder ôl-enedigol. Fel arfer, mae’n datblygu o fewn chwe wythnos, ond gall daro’r fam ar unrhyw adeg o fewn y flwyddyn gyntaf wedi’r enedigaeth. Gall amrywio o fod yn gymharol ysgafn i fod yn ddifrifol iawn.

Seicosis ôl-enedigol

Mae seicosis ôl-enedigol yn ddiagnosis difrifol, ond prin, sy’n codi mewn tua un o bob 1,000 o enedigaethau. Mae’n debygol y byddwch yn cael cymysgedd o iselder, mania a seicosis. Gall seicosis ôl-enedigol fod yn brofiad llethol a dychrynllyd i chi a’ch anwyliaid, ac mae’n bwysig ceisio help cyn gynted â phosibl. Gyda’r cymorth cywir, bydd y rhan fwyaf o ferched yn gwella’n llwyr.

Anhwylder straen wedi trawma a thrawma genedigaeth

Efallai y byddwch yn datblygu anhwylder straen wedi trawma os byddwch yn cael un o’r canlynol:

  • cyfnod esgor anodd a genedigaeth hir a phoenus
  • toriad cesaraidd nas trefnwyd
  • triniaeth frys
  • profiadau eraill brawychus, annisgwyl a thrawmatig yn ystod yr enedigaeth

Rhai symptomau:

  • Ail-fyw agweddau ar y trawma, gan gynnwys ôl-fflachiadau, hunllefau, a meddyliau a delweddau ymwthiol
  • Teimlo ar bigau’r drain
  • Effrogarwch eithafol (hypervigilance)
  • Cael braw yn hawdd
  • Osgoi sefyllfaoedd sy’n eich atgoffa o’r trawma

Sut gallaf helpu fy hun i ymdopi?

  • Gofyn am help, a derbyn help gan y rhai o’ch amgylch
  • Gofalu am eich hylendid
  • Cadw dyddiadur hwyliau
  • Bod yn garedig i’ch hun
  • Dysgu ymarferion anadlu
  • Cysylltu â sefydliadau arbenigol
  • Ymuno â grŵp cymorth
  • Nodi sbardunau

Dolenni allanol

Ffynhonnell: Mind