Gorbryder

manon-elinMae gorbryder yn aml yn cael ei gamgymryd am nerfusrwydd neu boeni gormod, ond mae’n gyflwr llawer mwy difrifol a chymhleth. 

Ges i’r panic attack cynta’ yn 2007 yn 12 oed, a hyd heddiw mae gorbryder yn rhywbeth sy’n rhan o ‘mywyd i.

Mae’r symptomau corfforol yn ddigon gwael: crynu, crychguriadau, coesau’n teimlo’n wan, teimlo ‘mod i ar fin colli rheolaeth, ma ‘nghalon i’n curo’n gynt a dwi’n ysu i ddianc.

Ond y symptom gwaetha a fwyaf brawychus o gorbryder a phanig i fi yw ‘dadwireddu’ (‘derealisation’). Mae’n deimlad o fod mewn breuddwyd, wedi datgysylltu o ‘nghorff a’r byd o ‘nghwmpas, a bod pethau’n teimlo’n ddieithr ac yn afreal. Hyd yn oed ar ôl bron deng mlynedd, dyw e ddim yn dod yn llai brawychus.

Falle bod y panic attack ei hun dim ond yn para’ am rai munudau, ond ma’n ‘adeiladu lan’ am oriau a gall gymryd dyddiau, os nad wythnosau, i ddod dros pwl gwael.

Datblygodd hynny i fod yn agoraffobia – ofn, neu deimlo pryder, mewn sefyllfaoedd lle byddai’n anodd i ddianc neu i gael cymorth (nid ofn llefydd agored nac ofn gadael y tŷ fel mae’n aml yn cael ei ddisgrifio!) I fi, mae hynny’n golygu ‘mod i o hyd yn meddwl pa mor bell ydw i o adre, a sut fydden i’n dianc neu’n gadael sefyllfa petai angen.

Mae’n amrywio o ddydd i ddydd. Un diwrnod alla’i fynd mas a cherdded yn bell iawn heb fawr o broblem, a’r diwrnod nesa yn teimlo’n sâl wrth feddwl am fynd mas. Ma’ hynny’n golygu bod gwneud trefniadau neu ymrwymo i unrhyw beth yn anodd gan fod y salwch mor anrhagweladwy!

Pan ddigwyddodd e am y tro cynta’ doedd gen i ddim syniad beth oedd yn digwydd. Cymrodd flynyddoedd i fi ddysgu am gorbryder a phyliau o banig. Petai iechyd meddwl yn cael ei drafod yn fwy agored ar y pryd, yn enwedig yn yr ysgol, fyddwn i wedi deall mwy beth oedd yn digwydd.

Mae gwir angen cyflwyno addysg ar iechyd meddwl mewn ysgolion, er mwyn dysgu sut i gadw’n hunain yn iach yn feddyliol, a sut i helpu pobl eraill sy’n dioddef. Gan fod cymaint o bwysau ar ddisgyblion ysgol i lwyddo mewn arholiadau mae’n anochel eu bod nhw’n teimlo dan straen. Byddai gwersi ar iechyd meddwl yn ffordd o addysgu disgyblion sut i ymdopi â’r pwysau gwaith, sut i reoli straen mewn ffyrdd cadarnhaol a sut i ymlacio. Dylai gwersi cymorth cyntaf hefyd ymdrin ag argyfyngau iechyd meddwl. Rydyn ni’n cael ein dysgu sut i helpu person sydd wedi llewygu, ond faint ohonom fyddai’n gwybod sut i helpu rhywun sy’n cael panic attack?

Ma’ gorbryder yn rhywbeth sydd yno drwy’r amser, ac yn effeithio ar bopeth rwy’n gwneud, ond gyda thechnegau CBT, meddyginiaeth, a chefnogaeth teulu a ffrindiau, galla’i ymdopi â’r cyflwr o ddydd i ddydd y rhan fwyaf o’r amser heb iddo fod yn ormod o rwystr.

Manon
@manon_elin

Rhannu

3 sylw ar “Gorbryder

  1. Cytuno fod angen trafod salwch meddwl yn agored gyda phlant a phobl ifanc a rhoi rhyw fath o arweiniad ar beth i’w wneud a sut mae adnabod y symptomau unai yn eich hunain neu mewn ffrind/aelod o’r teulu. Efallai bydde hyn yn helpu i rai i chwilio am help neu i ddysgu ymdopi’n gynt.
    Diolch am rannu dy stori Manon.

  2. Helo Manon. Diolch am rannu dy stori. Dwi’n gallu uniaethu â rhywfaint o’r pethau wyt ti’n sôn amdanynt. Sut wyt ti’n ymdopi â’r dadwireddiad? Unrhyw tips?
    Mae’n rhywbeth sydd wir yn codi ofn arna i.

    Diolch

    • Helo, diolch am y sylw. Does dim llawer o tips gyda fi ar gyfer delio â’r dadwireddiad yn anffodus. Yr unig beth alla’i awgrymu yw dysgu peidio ag ofni’r teimlad (er mor frawychus ac erchyll yw e!) Mae darllen am brofiadau pobl eraill hefyd yn gallu helpu i wybod ei fod e’n rhywbeth eithaf cyffredin, er bod braidd dim sylw yn cael ei rhoi iddo.

Gadael Ymateb