Chwaraewyr yn gwawdio pêl-droediwr am ei iselder : BBC

David Cox

Mae pêl-droediwr wedi disgrifio sut y bu i gyd-chwaraewyr a chefnogwyr ei wawdio wedi iddo siarad yn gyhoeddus am ei broblemau iechyd meddwl.

Dywedodd David Cox, sy’n chwarae i Cowdenbeath iddo gael ei alw’n ‘psycho.’

Mae David Cox wedi galw ar awdurdodau’r gêm i weithredu ar y gamdriniaeth yn yr un modd ag y byddent yn gweithredu yn erbyn hiliaeth.

Dywedodd David Cox iddo gael ei gam-drin gan gefnogwyr pêl-droed a chyd-weithwyr wedi iddo ddatgelu ei fod wedi hunan-niweidio a cheisio cymryd ei fywyd. Dywedodd hefyd fod gwrthwynebwyr wedi defnyddio ei iselder i danseilio ei ymdrechion yn ystod gemau ar y cae.

Cred y pêl-droediwr y dylai’r un ymdrech fynd i’r afael â’r stigma sydd ynghlwm wrth iechyd meddwl, ag sydd i herio materion cymdeithasol eraill, megis hiliaeth a rhagfarn.

“Dw’i wedi bod drwy gyfnod gwaethaf fy mywyd, ac mae cael pobl yn gwneud jôc o’r peth, ac i feddwl ei fod yn iawn i ysgwyd eich llaw ar ddiwedd y gêm ac anghofio am y peth, dyw hynny ddim yn iawn.”   [cyfieithiad]

Darllen rhagor : BBC (Saesneg)


Rhannu

PMDD ac iechyd meddwl

Mae Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (Premenstrual Dysphoric Disorder – PMDD) yn fath difrifol iawn o Syndrom Cyn Mislif (Premenstrual Syndrome – PMS), sy’n medru achosi nifer o symptomau emosiynol a chorfforol bob mis yn ystod, neu’r wythnos neu ddwy cyn i chi ddechrau, eich misglwyf.

Er y bydd nifer o bobl sy’n cael misglwyf yn profi symptomau PMS ysgafn, mae symptomau PMDD yn llawer gwaeth, a gallant gael effaith difrifol ar eich bywyd. Gall PMDD ei gwneud hi’n anodd gweithio, cymdeithasu a chynnal perthnasau iach. Mewn rhai achosion, gall hefyd arwain at feddyliau hunanladdol.

Ydy PMDD yn broblem iechyd meddwl?

Yn gyffredinol, diffinnir PMDD fel anhwylder endocrin, sy’n golygu ei fod yn anhwylder sy’n gysylltiedig â hormonau. Fodd bynnag, yn ogystal â symptomau corfforol, mae pobl sydd â PMDD hefyd yn profi amrywiaeth o symptomau iechyd meddwl gwahanol megis iselder a theimladau hunanladdol. Oherwydd hynny, mae PMDD yn ddiweddar wedi ei gofnodi fel problem iechyd meddwl yn y DSM-5 – un o’r prif lawlyfrau y mae meddygon yn ei ddefnyddio i roi diagnosis o broblemau iechyd meddwl.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Cynllun newydd i atal hunanladdiad a hunan niwed : Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Bydd cynllun newydd i atal hunanladdiad a hunan-niwed yn y gogledd yn ceisio gwneud y mater yn ‘fater o bwys i bawb’.

Mae sefydliadau yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, awdurdodau lleol, Heddlu Gogledd Cymru a grwpiau’r trydydd sector yn cynnwys y Samariaid wedi dod ynghyd i ddatblygu cynllun gweithredu strategol i leihau hunanladdiad a hunan niwed dros y tair blynedd nesaf.

Dynodwyd y cynllun fel blaenoriaeth allweddol yn strategaeth iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a gyhoeddwyd yn ddiweddar – sy’n nodi’r cyfeiriad ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a lles ar draws Gogledd Cymru.


Rhannu

Angen taclo problem tlodi yng Nghymru : Samariaid Cymru

Gwyddom fod tlodi’n gysylltiedig â phobl yn lladd eu hunain. Gwyddom hefyd nad yw hunanladdiad yn anochel a bod yna gamau y gallwn eu cymryd fel nad yw adegau anodd yn arwain at farwolaethau pobl.

Erbyn hyn mae yna dystiolaeth ddiymwad o gysylltiad cryf rhwng amddifadedd economaidd gymdeithasol ac ymddygiad hunanladdol. Mae ardaloedd o anfantais economaidd gymdeithasol uwch yn tueddu i fod â chyfraddau hunanladdiad uwch, a pho uchaf yw’r lefel amddifadedd mae unigolyn yn ei phrofi, uchaf yw’r risg ymddygiad hunanladdol.

Mae tlodi’n golygu wynebu ansicrwydd di-baid. Mae ei nodweddion yn cynnwys tai annigonol, iechyd meddwl gwael, cyflawniad addysgol isel, diweithdra, unigedd a symudedd cymdeithasol isel.’

Darllen rhagor : Samariaid Cymru


Rhannu

Disgwyl 10,000 o alwadau ar Ddydd Nadolig : Golwg360

Mae’r Samariaid yn disgwyl hyd at 10,000 o alwadau gan bobol yng ngwledydd Prydain sy’n teimlo’n unig ar Ddydd Nadolig.

Mae disgwyl i staff dreulio cyfanswm o 123,000 o oriau rhyngddyn nhw yn sgwrsio â phobol fydd ar eu pennau eu hunain dros yr Ŵyl.

Dywedodd llefarydd fod tlodi, unigrwydd, diffyg bwyd a salwch meddwl ymhlith prif bryderon pobol sy’n cysylltu â nhw.

“Mae rhyw fath o bwysau ar bobol i deimlo’n hapus neu’n dda neu ymddwyn mewn rhyw ffordd arbennig oherwydd ei bod yn Nadolig.”

Mae hynny, meddai, yn gallu arwain at “embaras neu anallu”.

Y llynedd, atebodd y Samariaid 230,000 o alwadau rhwng Rhagfyr 18 a Ionawr 1.

Llinell Gymraeg y Samariaid: 0808 164 0123 (7pm – 11pm, 7 diwrnod yr wythnos) (llinell Saesneg – 116 123 (24/7)


Rhannu

Elusennau’n cael mwy o alwadau am hunanladdiad gan blant : BBC Cymru Fyw

_99286027_5fbb1bc7-3413-4c03-958d-9c19d359bca7Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y plant a phobl ifanc sy’n cysylltu â llinellau cymorth elusennau ynglŷn â hunanladdiad.

Dywedodd Childline Cymru wrth raglen Newyddion 9 eu bod wedi delio ag 20% yn fwy o alwadau’n ymwneud â hunanladdiad dros y flwyddyn diwethaf. Maen nhw hefyd yn poeni fod natur y galwadau yn fwy difrifol, gyda phlant mor ifanc a 10 oed yn cysylltu â nhw. Dywedodd elusen arall, MEIC, fod nifer y galwadau wedi bron â dyblu o fewn y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Lisa Vranch o Childline:

“Yn y dechre o’dd plant yn dod i siarad am deimlo yn isel falle. Lot o broblemau yn digwydd ond falle roedden nhw yn hunan frifo i ymdopi gyda’r teimladau yna. Ond nawr mae plant yn dod yn syth i ddweud bod nhw isie lladd eu hun a dyna lle ni wedi gweld y gwahaniaeth fwyaf.”

Rhannu

Brawd a ffrind agos i Dafydd Dafis yn trafod ei farwolaeth : BBC Cymru Fyw

_99062473__95453929_dafydd_dafis-2Ym mis Ebrill eleni, bu farw’r cerddor ac actor Dafydd Dafis yn 58 oed. Roedd o wedi lladd ei hun.

Mae ei frawd wedi bod yn siarad am farwolaeth Dafydd ar raglen Y Byd ar Bedwar, sy’n cael ei darlledu nos Fawrth.

Dywedodd Rhys Davies, sy’n rhedeg theatr Y Stiwt yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam, bod ei frawd wedi diodde’ o iselder ers rhai blynyddoedd.

“Oedd y broses mor araf ddaru neb sylwi be’ oedd yn digwydd,” meddai. “Ond ar ôl dipyn oedd pawb wedi gweld bod o’n dipyn bach mwy withdrawn am bethau.

“Does neb yn gwybod sut ‘nath o gychwyn… wyrach bod o’n rhywbeth i ‘neud hefo gwaith, wyrach oedd o ddim yn cael y gwaith oedd o isio.  Oedd gwaith wedi mynd bach yn brin iddo fo a dyna be’ oedd y pwynt troi iddo fo.”


 

Rhannu

Hunanladdiadau: ‘O leiaf un yr wythnos’ : BBC Cymru Fyw

_95453931_dafydd_dafis-3Mae crwner gogledd orllewin Cymru wedi dweud ei fod yn delio gyda o leiaf un achos o hunanladdiad yr wythnos gyda phob un ohonynt yn ddynion.

Fe wnaeth y crwner Dewi Pritchard-Jones y sylwadau yn ystod cwest i farwolaeth yr actor a’r canwr Dafydd Dafis ym mis Mehefin. Cafodd ei gorff ei ddarganfod ym Mhorthaethwy ym mis Ebrill eleni. Y gred yw ei fod wedi lladd ei hun. Roedd yn 58 oed.

Ar raglen Y Byd ar Bedwar mae ei frawd a’i ffrind yn siarad am yr iselder yr oedd yn dioddef ohono ers blynyddoedd.

Hunanladdiad yw’r achos mwyaf cyffredin o farwolaeth ymhlith dynion o dan 45 oed ym Mhrydain ac yng Nghymru dynion 30-34 oed sydd fwyaf tebygol o ladd eu hunain. Yn 2016 fe gafodd elusen y Samariaid 5.7m o alwadau, sy’n gynnydd o 300,000 ers 2015.

Dywedodd brawd Dafydd Dafis, Rhys Davies, ei fod wedi ei synnu pan gafodd wybod bod y crwner yn delio gyda achosion o hunanladdiadau mor gyson.


Rhannu

Argyfwng iechyd meddwl: yr heddlu yn achub menyw yn y Trallwng : BBC

_98760004_18155886_10154311899196946_6109691431171044972_o-2Mae heddlu ar draws y DU wedi gweld cynnydd o 40% yn y galwadau i helpu pobl sydd mewn argyfwng iechyd meddwl dros y pum mlynedd diwethaf, yn ôl y Prif Gwnstabl Mark Collins.

Roedd Georgia Lawson, sy’n 25 oed o’r Trallwng ym Mhowys, yn un o’r rhai a wnaeth ddibynnu ar yr heddlu pan oedd hi’n teimlo’n hunanladdol. Nawr, mae hi eisiau canolfannau arbenigol i helpu pobl sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.

Darllenwch ei hanes ar wefan y BBC (Saesneg yn unig)


 

Rhannu

Annog teithwyr i helpu atal hunanladdiadau drwy sgwrsio : BBC

Small Talk Saves LivesMae’r erthygl hon yn trafod hunanladdiad. Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â’r Samariaid.

Fel rhan o ymgyrch i atal hunanladdiad, caiff teithwyr eu hannog i gamu i mewn os ydynt yn gweld pobl fregus ger traciau rheilffyrdd.

Mae Network Rail, British Transport Police (BTP) a’r Samariaid yn gobeithio bydd yr ymgyrch yn rhoi hyder i deithwyr i ymyrryd petai angen.

Dywed y Samariaid y gallai rhywbeth syml fel gofyn cwestiwn dorri’r cylch o feddyliau am hunanladdiad. Maent yn awgrymu gofyn cwestiynau fel, ‘Mae’n noswaith gynnes, on’d yw hi?’ a ‘Ydych chi angen help?’ Mae gofyn beth yw enw rhywun neu gyflwyno eich hun hefyd yn ffordd o ddechrau sgwrs.


Rhannu