Helpu rhywun sydd mewn argyfwng iechyd meddwl

[Daw’r wybodaeth isod o lyfryn ‘Gweithio gyda Thosturi‘ Samariaid Cymru. Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â’r Samariaid ar 0808 164 0123 (Cymraeg) neu 116 123 (Saesneg) neu’r gwasanaethau brys ar 999.]

Argyfwng iechyd meddwl yw pan fydd ar rywun angen cymorth ar frys.

Pan fydd rhywun yn mynd drwy argyfwng iechyd meddwl, efallai eu bod yn profi:

Efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd aros yn ddigyffro os oes rhywun yn cael argyfwng iechyd meddwl ac efallai y byddwch yn ei gael yn frawychus. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio y gall gweithredu’n dosturiol wneud llawer i gynorthwyo rhywun sydd mewn trallod. Byddwch yn hyderus ynghylch eich gallu i’w helpu, a chofiwch nad oes angen i chi fod yn arbenigwr.

Cyfathrebu

Gwnewch yn siŵr eich bod yn canolbwyntio’n llwyr ar yr unigolyn a dangoswch eich bod yn gwrando. Y peth pwysicaf yw dangos eich bod yn poeni a sicrhau nad yw’r unigolyn yn teimlo ar ei ben ei hun. Mae gan y Samariaid gyngor ar wrando sydd i’w gweld isod.

Brys

Os ydych chi’n credu bod rhywun mewn perygl o weithredu ar deimladau hunanladdol a/neu brifo ei hun, ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999 a gofyn am ambiwlans. Mwy o wybodaeth yma.

Cyfeirio

Os oes ar unigolyn angen cymorth brys ar gyfer ei argyfwng iechyd meddwl, ond nad ydych chi’n credu bod perygl i’w diogelwch yn y fan a’r lle:

  1. Gofynnwch i’r unigolyn, neu aelod o’i deulu neu ffrind, a yw eisoes mewn cysylltiad â’i wasanaethau iechyd meddwl lleol. Os ydyw, bydd yn gallu troi at ei dîm argyfwng lleol. Mae’n bosib y bydd yr unigolyn eisoes yn gwybod am hyn neu eisoes mewn cysylltiad â’i dîm argyfwng ond dylech ei annog i’w ffonio.
  2. Cynghorwch yr unigolyn neu aelod o’i deulu neu ffrind i wneud apwyntiad brys gyda meddyg teulu.
  3. Anogwch yr unigolyn i ffonio gwasanaeth gwrando, fel y Samariaid.

Cyngor ar sgwrsio

Os ydych chi’n teimlo bod rhywun yn cael trafferth i ymdopi neu mewn trallod emosiynol ac na wyddoch sut i fynd ati i gael sgwrs anodd, mae rhai pethau y gallwch eu gwneud i’w helpu i siarad yn agored.

Efallai eich bod yn teimlo na allwch eu helpu oherwydd nad ydych chi’n gwybod beth i’w ddweud na sut i ddatrys eu problemau. Fodd bynnag, mae’n bwysig cofio bod y weithred syml o siarad a gwrando yn bwerus ynddi ei hun ac yn gallu fod o gymorth sylweddol i rywun sydd mewn trallod.

Yn aml mae pobl eisiau siarad, ond maent yn aros nes i rywun ofyn sut ydynt. Cwestiynau agored sy’n helpu rhywun i siarad am eu problemau yn lle dweud ‘ie’ neu ‘na’ yw’r rhai mwyaf defnyddiol gan eu bod yn annog y person arall i barhau i siarad. Er enghraifft: “Pryd wnest ti sylweddoli…?”, “Beth arall ddigwyddodd…?”, “Sut oedd hynny’n teimlo…?”

Cyngor ar wrando

Dangoswch eich bod yn poeni

Canolbwyntiwch ar y person arall, sicrhewch gysylltiad llygaid, a rhowch eich ffôn i gadw. Mae rhoi’ch holl sylw i rywun yn ffordd ddieiriau o ddangos iddynt faint rydych chi’n poeni amdanynt.

Byddwch yn amyneddgar

Efallai y bydd yn cymryd amser a sawl ymgais cyn y bydd person yn barod i siarad yn agored. Mae amser yn hanfodol wrth wrando ar rywun. Ni ddylai’r person sy’n siarad deimlo ei fod yn cael ei ruthro, neu ni fydd yn teimlo ei fod mewn amgylchedd diogel. Os yw’r person arall wedi cymryd saib wrth ymateb, arhoswch. Mae’n bosibl nad yw wedi gorffen siarad. Cofiwch y gallai gymryd peth amser iddo lunio’r hyn mae’n ei ddweud, neu y gallai ei chael yn anodd mynegi sut mae’n teimlo.

Dywedwch ef yn ôl

Gwiriwch eich bod wedi deall, ond peidiwch â thorri ar draws na chynnig ateb. Mae adrodd rhywbeth yn ôl i rywun yn ffordd dda iawn o’i sicrhau ei fod yn cael eich holl sylw. Gallwch hefyd wirio eich bod yn clywed yr hyn mae eisiau ichi ei glywed, nid yn dehongli’r sgwrs yn eich ffordd eich hun.

Byddwch yn ddewr

Peidiwch â chael eich digalonni gan ymateb negyddol ac, yn bwysicaf oll, peidiwch â theimlo bod yn rhaid ichi lenwi distawrwydd. Mae’n gallu teimlo’n fusnesgar ac yn wrthreddfol gofyn i rywun sut mae’n teimlo. Buan iawn y gwelwch a yw rhywun yn anghyfforddus ac nad yw eisiau ymgysylltu â chi ar y lefel honno. Cewch eich synnu pa mor fodlon yw pobl i siarad yn agored a sut, weithiau, mai dyna’n union mae ar rywun ei angen er mwyn gallu rhannu’r hyn sy’n mynd ymlaen yn ei feddwl.

[Ffynhonnell: llyfryn ‘Gweithio gyda Thosturi‘ Samariaid Cymru]