Mewn Argyfwng? Gall y 12 gweithred hyn helpu

RHYBUDD: Darllenwch gyda gofal gan fod yr erthygl hon yn sôn am deimladau hunanladdol a allai eich atgoffa o deimladau anodd. Os oes angen cymorth brys arnoch, cysylltwch â’r Samariaid neu’r gwasanaethau brys ar 999.

Weithiau, gall ein hiselder ein harwain i stryglo â meddyliau a theimladau am hunanladdiad. Mae teimlo fel’na yn ofnadwy.

Gall fod yn eithriadol o anodd delio ag ef a gall arwain at wneud i ni deimlo’n bell iawn oddi wrth bawb arall. Dydyn ni ddim yn gwybod sut i gario mlaen.

Waeth pa mor dywyll mae pethau’n ymddangos, mae angen i ni ddal ati. Dydyn ni byth ar ein pen ein hun. Mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud i helpu.

Os oes angen cymorth brys arnoch, cysylltwch â’r Samariaid neu’r gwasanaethau brys ar 999.

1. Bod yn ymwybodol o symbylau

Weithiau mae ’na bethau penodol sy’n gallu symbylu ein meddyliau am hunanladdiad. Mae o gymorth i fod yn ymwybodol o’r symbylau hyn. Mae bod yn ymwybodol ohonynt yn golygu ein bod ni’n gallu rhoi pethau yn eu lle i gadw ein hunain yn ddiogel pan fydd y symbyliadau hyn yn ymddangos. Does dim rhaid i ni osgoi ein symbyliadau o reidrwydd – mae angen i ni ddysgu sut i ddygymod â nhw. Ond mae hi’n ddefnyddiol meddwl am strategaethau dygymod i reoli ein symbyliadau cyn iddyn nhw ddigwydd.

2. Creu Cynllun Argyfwng

Cyn ein bod ni’n cyrraedd y pwynt pan fyddwn ni mewn argyfwng, gall fod yn ddefnyddiol i greu cynllun argyfwng. Gall hyn gynnwys arwyddion fod pethau’n llithro, a chynllun clir o’r hyn i’w wneud os ydym ni’n meddwl am hunanladdiad. Fe allai gynnwys pethau sy’n helpu, pethau sy’n gwneud popeth yn waeth, a chynllun i gael mwy o gymorth os oes angen hynny arnom.

3. Creu Lle Diogel

Mae’n annhebygol y byddwn ni’n gallu symud pob un eitem a allai ein niweidio o’n tŷ neu fflat. Ond fe allem ni wneud un ystafell yn ddiogel. Gallem gymryd popeth allan o’r ystafell honno a allai gael ei ddefnyddio gennym i niweidio ein hunain. Gallem roi pethau yn yr ystafell yr ydym ni’n gwybod all ein helpu neu ein cysuro. Gallai hynny gynnwys blancedi, goleuadau arbennig, neu bethau fyddwn ni’n eu defnyddio i symud ein sylw – efallai mewn blwch dygymod â thrallod. Os nad ydym ni’n teimlo’n ddigon diogel i wneud hyn ar ein pen ein hun, gallem ofyn i rywun roi help llaw i ni.

4. Oedi

Os allwn ni gadw ein hun yn ddiogel am bum munud, dyw hynny ddim yn dileu’r dewis o hunanladdiad. Bydd y dewis hwnnw yno bob amser. Gallwn oedi’r penderfyniad am bum munud a gwneud rhywbeth gwahanol. Unwaith y bydd y pum munud wedi pasio, gallwn benderfynu oedi am bum munud arall. Gallwn ailadrodd hyn nes ein bod ni’n teimlo’n ddiogel.

5. Canolbwyntio ar Anadlu

Anadlwch i mewn wrth gyfri i dri, ac allan wrth gyfri i bump. Ceisiwch anadlu allan am fwy o amser nag anadlu i mewn bob amser. Gall helpu i ostwng lefelau pryder, arafu popeth, a gwneud i fywyd deimlo ychydig yn fwy llonydd.

6. Canolbwyntio ar Bob Synnwyr

Mae’n bwysig ceisio daearu ein hun. Gall canolbwyntio ar ein synhwyrau ein helpu i ddod yn ôl i’r foment. Gallwn geisio meddwl am bum peth y gallwn ni eu gweld, pum peth y gallwn eu clywed, pump y gallwn gyffwrdd, pump y gallwn flasu, a phump y gallwn eu harogleuo.

7. Rhestru 30 Rheswm Pam

Rhestrwch 30 rheswm dros fyw tan yfory. Unwaith y byddwn ni wedi gwneud hynny, gallwn restru 30 yn rhagor. Does dim ots pa mor hurt neu ryfedd ydyn nhw. Yn aml, gorau oll po fwyaf doniol, hurt a rhyfedd ydyn nhw.

8. Technegau Dwyn Sylw

Mae llawer o ffyrdd y gallwn ni ddargyfeirio ein sylw. Gallem wylio ffilmiau, bod yn greadigol, mynd am dro, neu rywbeth arall. Mae dwyn sylw mewn ffyrdd gwahanol yn gweithio i wahanol bobl. Ar adeg pan fyddwn ni’n teimlo’n iawn, gall fod yn fuddiol ysgrifennu rhestr o bethau i ddwyn ein sylw sy’n ein helpu. Fel hynny, mae’n hawdd cael gafael arno ar adegau pan fyddwn ni’n stryglo.

9. Dechrau Gwylio Cyfres Deledu Newydd

Dewiswch gyfres deledu ar YouTube neu Netflix. Yn ddelfrydol, un â sawl tymor. Unwaith y byddwn ni wedi cael gafael ar gyfres newydd, rhaid i ni aros o gwmpas i weld beth sy’n digwydd.

10. Defnyddio Meddyginiaeth yn Addas

Weithiau, bydd ein meddyg teulu neu dîm iechyd meddwl yn rhoi meddyginiaeth i ni ar gyfer ei ddefnyddio ar adegau anodd. Weithiau fe fydd hi’n strygl i’w gymryd. Ond mae defnyddio meddyginiaeth yn addas yn beth cywir i’w wneud mewn argyfwng. Rydym ni’n derbyn y meddyginiaethau hyn am reswm.

11. Dweud Wrth Rywun

Waeth pa mor dywyll y mae’r byd yn ymddangos, na pha mor unig rydym ni’n teimlo, dydyn ni byth ar ein pen ein hun. Mae pobl y gallwn ni siarad â nhw ar gael bob amser. Gallem siarad â ffrind neu aelod o’r teulu sy’n deall. Mae llinellau cymorth y gallwn ni eu ffonio. Gallwn fynd i’r Adran Frys neu ffonio 999. Mae yna rywun i siarad â nhw bob amser. Does dim angen i ni wynebu hyn ar ein pen ein hun.

12. Bod yn Garedig â Chi eich Hun

Mae hi mor anodd delio â meddyliau am hunanladdiad. Rydym ni’n drallodus, wedi blino, ac yn hollol ar chwâl. Mae hi’n ymddangos yn haws ildio i gelwyddau iselder.

Ond er mor greulon yw ein teimladau ar y pryd, maen nhw’n gallu mynd heibio, ac fe fyddan nhw’n pasio. Mae angen i ni ddal sownd. Mae angen i ni geisio gwella ein gêm hunan-ofal, bod yn garedig â ni ein hun, a gofalu amdanom ni orau allwn ni. Yn bwysicach na dim, mae angen i ni gael cymorth. Dydyn ni ddim yn haeddu’r meddyliau a’r teimladau yna. Dydyn ni ddim yn haeddu’r boen. Dyw dioddef ar ein pen ein hun ddim yn ateb. Mae angen help arnom ni, ac rydym ni’n ei haeddu.

Os oes angen cymorth brys arnoch, cysylltwch â’r Samariaid neu’r gwasanaethau brys ar 999.

[Ffynhonnell: blurtitout.org]