Ailbrosesu a Dadsynhwyro drwy Symudiadau’r Llygaid (EMDR)

Eye movement desensitization and reprocessing

Mae therapi Ailbrosesu a Dadsynhwyro drwy Symudiadau’r Llygaid (EMDR) yn dechneg seicotherapi sy’n defnyddio mewnbwn synhwyraidd megis symudiadau’r llygaid i helpu pobl i wella ar ôl trawma.

Os oes rhywbeth trawmatig wedi digwydd i chi, efallai bydd yr atgof o’ch profiad yn dod yn ôl i’ch meddwl yn annisgwyl, gan eich gorfodi i ail-fyw’r digwyddiad gwreiddiol, gyda’r un dwyster o deimladau.

Er nad yw’n bosib dileu’r atgofion hyn, gall therapi EMDR newid y ffordd y mae’r atgofion trawmatig hyn wedi eu cadw yn yr ymennydd – gan eu gwneud yn haws i’w rheoli ac i ymdopi â nhw.

Defnyddir EMDR i drin trawma yn bennaf, ond hefyd gellir ei ddefnyddio i drin nifer o anhwylderau iechyd meddwl eraill.

(Ffynhonnell: Counselling Directory a Very Well Mind)