Gorbryder yw un o’r cyflyrau iechyd meddwl mwyaf cyffredin ledled y byd, ac mae’n effeithio ar filiynau o bobl bob blwyddyn. Ond gellir ei drin yn effeithiol gyda therapi ymddygiad gwybyddol (CBT). Mae’r llyfr yma’n egluro beth yw gorbryder, a sut mae’n gwneud i chi deimlo pan mae tu hwnt i reolaeth neu’n parhau am gyfnodau hir. Bydd yn eich helpu i ddeall eich symptomau.
Rhagor o wybodaeth
Mae’n egluro beth yw gorbryder, a sut mae’n gwneud i chi deimlo pan mae tu hwnt i reolaeth neu’n parhau am gyfnodau hir. Bydd yn eich helpu i ddeall eich symptomau ac mae’n ddelfrydol fel strategaeth ymdopi ar y pryd ac fel rhagarweiniad i therapi mwy cyflawn. Byddwch yn dysgu:
- Sut mae gorbryder yn datblygu
- Pa symptomau corfforol i gadw llygad amdanyn nhw
- Sut i adnabod a herio meddyliau sy’n peri gorbryder i chi
- Dulliau o newid eich ymddygiad er mwyn lleihau’ch teimladau o orbryder
ISBN: 9781784617639 (1784617636)
Dyddiad Cyhoeddi: 26 Mehefin 2019
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Fformat: Clawr Meddal, 106 tudalen
Rhan o’r cynllun ‘Darllen yn Well’
I weld rhagor o lyfrau iechyd meddwl Cymraeg, ewch i’r dudalen hon.
Wrth brynu llyfrau drwy siop y wefan hon, bydd meddwl.org yn derbyn 33.33% o bris y gwerthiant.
