Ysgol, Lockdown, a Gorbryder
Fi oedd y ferch oedd wastad yn ‘joio ysgol’ a wedd ‘ysgol yn dod yn hawdd’ i mi yn ôl fy nghyfoedion, ac ro’n i’n ei gredu e. Rhaid nodi doedd amgylchiadau fy nheulu i fel plentyn byth yn un ble roeddwn i’n datgelu sut yr oeddwn i’n teimlo. Doeddwn i ddim yn cyfeirio at fy nheimladau o gwbl. Felly beth oedd yn digwydd i fi pan doeddwn i ddim yn gallu atal y dagrau rhag llifo dros fy mochau? Beth oedd yn bod ‘da fi?
Yn sydyn reit dyma’r holl fyd yn cael ei gloi lawr gyda Covid ar ddechrau 2020 (hanner ffordd trwy fy mlwyddyn cynta’ TGAU).
Ges i sawl digwyddiad yn ystod y lockdown cynta ble’r o’n i am ddweud i rywun fy mod i ddim yn hollol hapus, ond ar yr un pryd roeddwn i’n teimlo fel roedd mwy na digon o broblemau ar blât pawb, wedd y ffaith fy mod i ddim yn gant a chant ddim yn werthfawr iawn, felly gwthies i e i un ochr.
Fel sawl disgybl ysgol yn y blynyddoedd diwetha, cafodd fy mlynyddoedd TGAU ei ddinistrio gan Covid. Dim un arholiad ‘go iawn’. Dim llawer o ddigwyddiadau allgyrsiol, ac i fi fel rhywun oedd wrth ei bodd yn mynd i’r ‘Steddfod ac yn cymryd rhan mewn chwaraeon di-ri, fe oedd yn golled fawr. Ac ar ben y cwbwl – dysgu o adre’ (aka hunllef!). Ond rhyw ffordd neu gilydd, gadwes i fynd, ac roedd diwedd blwyddyn 11 yn agosáu. Wedd Covid yn dechrau peidio ac wedd sôn bod bywyd yn mynd nôl i ryw fath o normal. Nes i feddwl yn llwyr mi fydda i’n mynd nôl i fod yn fi, ond yn wirioneddol dyma ble ddechreuodd pethau fynd yn dywyllach i fi.
Allai ddim gweud sawl gwaith glywais i “Bydd y chweched yn dy siwtio di i’r dim!” neu “O byddi di’n un o rheina sy’n joio ysgol hyd at y diwedd yn enwedig y ddwy flynedd nesa!”. Ac allai ddim gweud i chi faint nath y brawddegau yma wneud beth oedd yn digwydd i mi ym mlwyddyn 12, cant gwaith yn waeth.
Ai arna i oedd y bai am wneud fy mywyd i fel yma?
Ges i sawl breakdown yn yr ysgol ac adref, gan gynnwys sawl pwl o bryder yn toiledau’r merched yn ystod amser ysgol neu adref yn fy ystafell wely ar fy mhen fy hun. Mewn ychydig fisoedd es i o fod dan bryder yn aml a hynny’n cael effaith bach ar fy niwrnod, i gyfnod ble wedd popeth yn teimlo fel wedd e’n mynd o’i le, ac roeddwn i’n hollol anhapus. Am dros 6 mis cadwais i’r sawl digwyddiad yma i fy hun gan ei gadw o fy ffrindiau, teulu, a phob un o fy amgylch. Nes i’n dda i’w gadw o bawb achos nath neb byth cwestiynu fi. Nes i gadw i wenu.
Wedd y tro gyntaf ges i ymosodiad pryder (anxiety attack) o flaen fy nghyfoedion yn adeg hunllefus. Wedd e’n embarassing a humiliating, ges i fy nhywys allan o’r dosbarth oherwydd roedd e mor amlwg ‘mod i ddim yn iawn. Nath e neud fi deimlo mor agored i niwed, a nes i feddwl cymaint am beth oedd pobl yn mynd i weud. Nes i ei gadw o bobl am gymaint o amser er mwyn osgoi cwestiynau ac yna yn ddigon sydyn, wedd fy nosbarth cyfan wedi fy ngweld i mewn digwyddiad doedd neb arall ERIOED wedi fy ngweld i ynddo.
Nath y teimlad yma o anhapusrwydd ddirywio yn fy mlwyddyn gyntaf o’r chweched.
Dyna’r lle ola’ o’n i eisiau bod. Gollais i’r awydd i gymdeithasu, fy niddordebau ac wedd fy ngwaith ysgol yn dirywio yn ddramatig. Wedd e fel switsh, y panig yn setio mewn ac weithiau heb esboniad clir, yn gyntaf fy nghalon yn dechrau cyflymu, wedyn fy mhen yn dechrau troi, cyn i fy mola droi a throsi, ac yna mae fy ngallu i ffeindio anadl yn galed. Ac wedyn doedd meddwl ddim yn rhwydd. Wedd e fel petai fy nghorff i’n cau lawr.
Wedd y celwyddau i’m ffrindiau ac athrawon yn fwy niweidiol na dim byd arall – credwch fi. “Na fi ddim yn teimlo’n wych heno felly dwi am aros adre, falle wythnos nesa!”. Ddefnyddies i hwn sawl tro i’m ffrindiau. Ac yna ar ôl siarad gyda fy athrawes, dyna’r tro cyntaf nes i ddweud allan yn uchel fy mod i’n credu bod rhyw broblem gyda fi.
Nes i byth credu bod yr esgus yma yn ddigon oherwydd nes i feddwl byddai pobl arall yn fy ngweld i fel ‘the boy who cried wolf’ ac mai dyma syniad fi o gael sylw. Ond y gwirionedd oedd, roedd y problemau roeddwn i wedi bod yn delio â ers sbel yn ddifrifol.
Ac yn lle chwerthin neu gau’r syniad yma i lawr, nath hi wrando. A deimles i rhyddhad.
Esboniodd hi sawl peth i mi a nath e neud i fi sylweddoli yr effaith cafodd y gorbryder yma ar fy mywyd. Dim llawer cyn y digwyddiad yn y wers nath pobl ofyn yn fwyfwy aml “Wyt ti’n teimlo’n iawn, ti’n edrych yn sâl”. Gwnaeth sawl person sylw ar y ffaith mod i ddim mor gymdeithasol ag yr o’n i, ar y ffordd oeddwn i’n edrych yn wahanol, sylwadau ar y ffaith fy mod i’n bwyta llai. Roedd yr effeithiau yma oherwydd es i mewn i’m cragen a chau’r byd i ffwrdd…achos dyma beth o’n i’n meddwl oedd orau.
Wedd y tro gynta’ ddath y geiriau “fi ddim yn teimlo’n hapus” mas o ‘ngheg i yn un o’r adegau fwyaf ofnus o fy mywyd ond hefyd yn un o’r adegau ble wnes i gwestiynu ‘ai hwn yw’r peth gorau i wneud?’ Fe nes i feddwl sawl gwaith taw cadw ef i fy hun oedd orau. Am fisoedd nes i ddelio â’r breakdowns a sesiynau o lefain fy hun, ac yn sydyn ces i gyfle i siarad gyda rhywun, a nath e neud i fi sylweddoli faint oeddwn i’n cadw i fy hun. Yn sydyn nes i ddeall taw dyma’r ffordd oedd angen i mi ddilyn er mwyn gwella.
I fod yn onest gyda chi, heb gael fy nal yn llefain yn y dosbarth sawl mis yn ôl, fi’n credu bydde fi dal yn yr un sefyllfa, efallai ychydig yn waeth achos roedd y syniad o ddweud i rhywun fel oeddwn i’n teimlo heb gael fy ngofyn yn hollol ofnus.
Sawl mis ymlaen a dwi dal yn gweld hi’n anodd i siarad – dwi hyd yn oed dal i ffeindio’r ffordd o ddweud i’m ffrindiau fwyaf agos. Ond dyw hyn ddim yn rhywbeth sy’n newid dros nos!!
Fi’n dal i brofi diwrnodau tywyll, ond fi’n gwella ac yn sylweddol!
Fi’n fwy agored i ddeall bod fod yn hapus ddim yn rhywbeth gall rhywun brofi 24/7! Dwi wastad wedi gor-feddwl, yn ddiweddar nes i brofi fy arholiadau cyntaf erioed. Ac roeddwn i’n gweld sawl patrwm tebyg yn fy ymddygiad dros y cyfnod arholiadau ac ymddygiad nol yn y lockdown cyntaf. Dechreuais i boeni fy mod i ddim yn gwella ac yn cymryd camau yn ôl, ond trwy fod yn fwy agored am sut oeddwn i’n teimlo, nes i’n iawn. Wedd e’n anodd ond dwi’n iawn!
Rwyf wedi dysgu fod bod yn wahanol ddim yn rhywbeth gwael. Nes i deimlo fel bod ymweld â chwnselydd yn fy ngwneud i yn wahanol mewn ffordd wael, ond nath e ddim, achos ar ôl bob sesiwn dwi’n teimlo llawer fwy hyderus i’r dyfodol!