Ypdét: Byw gydag Anhwylder Deubegwn
Rhybudd cynnwys: Mae’r blog hwn yn cynnwys cyfeiriadau at hunan niweidio a hunanladdiad.
Sgwennais fy mlog cynta i meddwl.org nôl yn Rhagfyr 2016, felly dyma’r ypdét ddisgwyliedig does neb wir wedi bod yn disgwyl amdano!
Peidiwch â disgwyl traethawd safonol, fi jyst moyn gadael y geirie ddod mas, fel maen nhw yn fy mywyd bob dydd.
Pedair mlynedd. Anodd credu shwt mor glou mae’r amser ‘di mynd, mae lot ‘di digwydd ond r’un pryd fi di cael lot o gyfnodau hynod boring fyd. Eniwê, dyma’r uchafbwyntiau:- symud tŷ pedwar gwaith, newid job dwywaith, ‘di cael pump (fi’n credu – sori os fi ‘di anghofio rhywun!) perthynas, ‘di hunan niweidio am y tro cynta’ ers sbel, ‘di meddwl am ladd fy hunan dwywaith, a ‘di wherthin a joio lot ‘fyd.
Sai’n moyn sgwennu hanes bywyd fi neu hunangofiant, mae bywyd fi’n lot rhy boring am hynna, ond fi’n moyn rhoi syniad i chi am shwt mae byw gyda bipolar yn teimlo – a fi’n gwbod mae’n gwahanol i bob un sy gyda bipolar, pawb gyda’u profiade gwanol so ie, jyst profiad fi sy ma. Fi ddim yn gwbod beth yw’r term technegol iawn am fath o bipolar fi, pethe fel ‘rapid cycling’ neu ‘mixed state’ mae pobl iechyd meddwl wedi gweud wrthai, sy’n golygu mae mŵd fi’n gallu newid yn glou o un pen i’r llall – fel fi’n gallu bod mewn parti mood yn y p’nawn, a ffili gweld pwynt bywyd erbyn 7 y nos ac mae bownsio n’ôl ac mlaen fel na’n gallu bod yn danjerys chos mae digon o egni da chi actiwli wneud y pethe tywyll chi’n meddwl amdan. Mae’n deimlad cyffrous ‘fyd fel rolyrcostyr neu beth bynnag ac mae unpredictability fel cyffur, ond fel cyffur chi’n gwbod mae’n gallu lladd chi, sy’n swnio yn or-ddramatig braidd ond dyna’r bottom line sbo.
Ocê so eisiampl bach o’r math o bethe sy di digwydd. N’ôl yn dechre 2018 cwrddais â fenyw o Loegr, cawson ni gwpl o dêts. Wnes i ddim sylwi ar y pryd shwt mor hyper wê’n i ar y pryd, eniwê wêdd brên fi’n basically gweud thai ‘dyma’r perthynas mwya ymesing eriôd, ti’n gorfod symud mewn da hi’ a dyna ni, penderfyniad di cael ei wneud ar ôl pythefnos da hi! Wê’n i’n mor despryt i symud wnes i smasho lan holl dodrefn fi gyda morthwyl a mynd â fe i’r tip, wedyn symud lan i Stoke-on-Trent i fyw da hi.
Cawson ni dri mis hapus iawn wedyn aeth popeth yn rong, wnaethon ni sblito lan – ar ôl ymddiswyddo o’m jobyn yng Nghaerfyrddin- a bennais i lan yn edrych am rhywle i fyw a rhywle i weithio. Dyma pryd, yn wythnos ola yn Stoke, wnes i feddwl am ladd fy hunan. Eniwê, wnes i ddim yn amlwg a ffindais i dŷ i rhentu yn Llanidloes. Probably y ffor mwya randym o symud i Bowys! Dim ond 6 mis parais yn y tŷ, troi mas wêdd y boi drws nesa’n fwy gwirion na fi, wir yn codi ofn arnai, felly symudais i tŷ arall yn y dre mewn sgwâr hyfryd tawel ond ces i gyfnod ofnadw na o ran iechyd meddwl fi, es i bach yn paranoid, dechre dychmygu pawb yn siarad amdanai, cadw’r llenni ar gau trw’r amser ac yn y diwedd cyrraedd y pwynt lle wnes i hunan niweidio a dechre cyllunio lladd fy hunan a dychmygu’r cymdogion yn ffeindio fi a shwt bydde hynny wedi cau eu cege nhw. Wê’n i’n mor ffycd yp. Welais i’r CMHT yn y diwe a chael bach o help, a r’un pryd cael cynnig symud mewn i dŷ ffrind ym Machynllenth. Wnaeth hynny safio bywyd fi. Falle – gor-ddramatig eto.
Reit, mae hyn wedi mynd yn depressing ofnadw nawr felly mae rhaid sôn am ochr arall y peth. Fi’n wherthin lot a fi’n cheeky ofnadw a fi di cael shwt gymaint o hwyl gyda lot o bobl gwahanol a fi ‘di cael profiade a gweld llefydd fydda i fyth di gweld nhw heb wneud y penderfyniade fi’n wneud – sy’n penderfyniade heb feddwl, ond mae hynny’n gyffrous. Fi’n wneud pobl eraill wherthin lot, ddim yn fwriadol necessarily ond s’dim ots hwyl ydy hwyl!
A pan mae egni ‘na, mae’n anhygoel, mae’n anodd disgrifio sut mae brên fi’n gweithio chos fi ddim rili yn gwbod ond mae fel mae shwt gymaint o bethe’n mynd mlaen yn fy mhen r’un pryd, sy’n wneud canolbwyntio’n uffar o job caled a fi dim ond bennu biti 10% o’r bethe fi’n dechre (dyna pam fi’n jyst sgwennu hyn heb stopio neu cywiro chos dyna shwt mae brên fi’n gorfod gweithio), fi’n siarad off ar tanjents weithie, s’dim ffilter o gwbl ‘da fi, mae pethe jyst dod mas o geg fi, fi’n ffili stopio nhw a mae rhai pobl probably yn cymryd offens a meddwl mod i’n rude ond o leia mod i’n onest ac mae pobl yn gwbod lle maen nhw’n sefyll, s’dim bullshit. Dyna diffens fi ta beth.
Eniwê, dyna diwedd concentration span fi nawr. Sai’n siwr os bydd hwn yn ddefnyddiol neu ddim, gobeithio bydd i rywun rhywle, sai’n mynd i ddarllen e, jyst pwyso ‘send’. Os mae pobl mwyn cysylltu â fi dim probs. Sgwennai ypdét arall rhywbryd. Falle!
O.N Mae meddwl.org yn ymesing gyda llaw!
David Williams