Ymweld â’r feddygfa
Ymwadiad: Mae pob meddyginiaeth yn effeithio ar bawb yn wahanol. Siaradwch â’ch meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol cyn cychwyn neu roi’r gorau i gymryd meddyginiaeth.
Yn ddiweddar, cafwyd nifer o drafodaethau ar Radio Cymru’n ymwneud â iechyd meddwl er mwyn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Un o’r pynciau a fu dan sylw oedd profiadau pobl wrth ymweld â meddygfeydd am faterion iechyd meddwl.
Dyma gyfraniad David Williams i’r rhaglen:
Mae ‘na gymaint o iselder a gofid a phryder ar led ar hyn o bryd mae person yn ofnus neu’n araf deg i fynd at feddyg teulu i sôn am ei gyflwr.
Y peth cyntaf rydych yn ei wynebu yn y feddygfa doctor ac ym man aros y tîm iechyd meddwl ydy teledu gyda rhyw raglen rwtsh â phobl yn sgrechian ar ei gilydd. Dydy hwn ddim yn eich rhoi chi mewn sefyllfa dda cyn dechrau. Efallai fyddai cerddoriaeth clasurol neu bennod o’r Blue Planet yn well. Gan amlaf, yn dibynnu ar y Dr ydych chi’n weld a’r ardal ydych chi ynddo fo, mae’n dipyn bach o loteri beth fydd yn digwydd i chi. Oni bai eich bod mewn sefyllfa argyfyngus, efallai y bydd y meddyg yn awgrymu tabledi gwrth iselder neu rhai i esmwytho eich teimladau. Gan amlaf, mae’r tabledi yma’n cymryd tair wythnos i unrhyw effeithiau penodol bositif ddigwydd. Beth sydd yn digwydd i’r person yn y dair wythnos yna? Maen nhw’n dal yn yr un awyrgylch sydd efallai yn effeithio arnynt ac yn achosi’r iselder a’r gofid.
Awgrymiadau
Gan amlaf, deg munud sydd gyda chi gyda Doctor. Ydy hwn yn ddigon i agor eich calon ac ymddiried mewn person sydd dan bwysau gwaith a straen ei hunan?
A fydde modd cael cymunedau therapiwtaidd fel porthladd cyntaf yr alwad? Lle gall person fynd i siarad a thrafod gyda meddyg ac aelod o dîm cymunedol iechyd meddwl a lle mae’r unigolyn yn cael o leiaf hanner awr i drafod? Ac ar ddiwedd yr ymgynghoriad bod y tri yn penderfynu’r ffordd orau ymlaen ynglŷn â thriniaeth?
Mae’r or-bwyslais ar y model meddygol gyda thabledi yn ateb i bopeth yn creu mwy o broblemau i’r dyfodol nac y maent yn eu hatal! Oes yna ddigon o sôn am ddibyniaeth ar gyffuriau gwrth iselder? Maent yn gallu bod o gymorth yn y tymor byr ond beth sydd yn digwydd i’r amgylchiadau, y sefyllfa neu’r hanes teuluol ag arweiniodd at yr iselder yn y lle cyntaf? Plaster ar friw agored ydyw wedyn!
Sylwadau Meddyg Teulu am Feddyginiaethau
Gall meddyginiaethau fod yn driniaeth effeithiol ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl. Yn aml maent fwyaf effeithiol o gael eu cyfuno gyda thriniaethau siarad fel CBT neu cwnsela. Mae’n bwysig trafod yr holl opsiynau gyda’r meddyg teulu cyn dechrau unrhyw feddyginiaeth. Dylech fod yn ymwybodol o’r sgil effeithiau posib a dylech gysylltu gyda’r meddyg os ydych yn datblygu unrhyw symptomau anarferol neu sy’n achosi gofid i chi. Os ydych yn awyddus i newid dôs neu stopio unrhyw feddyginiaeth, dylai hyn gael ei wneud gyda chyngor meddygol.