Perthynas a salwch meddwl: yr hyn ‘dwi wedi ddysgu
Mae bod mewn perthynas newydd yn gyffrous, ond yn gallu bod yn gymhleth os ydych yn dioddef â salwch meddwl. Mae’n anodd gwybod os ydych am rannu eich salwch â rhywun newydd, ac os felly, pryd i wneud hynny.
Mae dechrau’r drafodaeth, dro ar ôl tro, yn fy mlino. Weithiau, dwi jyst eisiau bod yn ‘normal’. Dwi ddim eisiau bod y ferch honno, yr un â’r salwch meddwl, yr un â thrawma’n gefndir i’w bywyd. Dwi eisiau canlyn rhywun yn y ffordd ‘normal’, a phrofi’r holl bethau cyffrous sydd ynghlwm â hynny. Dwi ddim eisiau esbonio bod ‘na rhan lwyd yn fy mhen sy’n gorchymyn sut ddiwrnod y bydda i’n cael, bod yr elfen gorfforol o berthynas yn gorfod digwydd un cam ar y tro, a bod fy emosiynau’n gallu newid yn sydyn heb unrhyw reswm amlwg. Mae’n drafodaeth dwi wedi cael sawl gwaith, gyda ffrindiau newydd, partneriaid newydd, neu jyst â phobl dwi wedi bod ar gwpwl o ddêts â nhw. Mae’n drafodaeth ddiflas, ac mae’n gallu bod yn lletchwith os nad yw’r person yn ddeallus.
Ar ôl i fy mherthynas hirdymor chwalu bron i flwyddyn yn ôl, dwi wedi pendroni ynghylch cael y drafodaeth hon sawl gwaith â phobl newydd yn fy mywyd. Dwi wedi bod mewn un sefyllfa, pan ddywedais wrth rywun yr oeddwn wedi bod yn ei weld am ryw fis, fy mod i’n cael pyliau o banig weithiau, a’r diwrnod nesaf derbyniais neges ganddo’n dweud nad oedd yn gallu ymdopi â rhywun oedd â ‘phroblemau’. Yn amlwg, fe wnaeth hyn effeithio ar fy hyder ychydig, ond erbyn hyn dwi’n meddwl fy mod i’n ddigon cryf i beidio â gadael sylwadau fel hynny fy atal rhag credu bod ‘na rhywun a fydd yn fy nerbyn fel yr ydw i. Felly, dwi wedi dyfeisio rhestr o bethau dwi’n meddwl fydd o ddefnydd i chi os ydych chi mewn sefyllfa debyg.
Dangoswch gariad at eich hun
Mae ‘na syniad yn bodoli bod angen i chi garu eich hun cyn i rywun arall allu eich caru. Dwi ddim o reidrwydd yn credu hynny. Ond dwi yn credu po fwyaf o amser, gwerthfawrogiad a hunan-ofal y byddwch yn ei roi i chi’ch hun, yr hawsaf y bydd i ymdopi â’r rhannau anodd o fod mewn perthynas. Bydd yr hunan-barch sy’n dod yn naturiol wrth ofalu am eich hun yn werthfawr os fydd perthynas yn dod i ben. Rydych chi’n haeddu hynny.
Cofiwch mai eich gwellhad yw’r peth pwysicaf
Rydym ni, fel pobl sydd â salwch meddwl, ar daith. Mae hynny braidd yn cliché, ond mae’n wir. Mae ‘na bethau ni’n darganfod ar hyd y ffordd sy’n ein helpu, ac mae ‘na bethau sy’n gallu bod yn niweidiol, ac yn arafu’r daith rhywfaint. Ni ddylai ein perthynas fod yn un o’r pethau niweidiol hynny. Mae angen i ni fod â rhywun a fydd yn ein codi yn ystod adegau anodd, a fydd yn credu yn ein gallu i lwyddo ac i gyrraedd ein hamcanion. Ceisiwch beidio â chaniatáu rhywun arall i beryglu eich iechyd meddwl.
Ewch yn araf, neu ar unrhyw gyflymder sy’n addas i chi. Ceisiwch beidio â rhuthro eich hunain, a cheisiwch beidio â gadael eich teimladau i fynd yn drech na chi. Mae hyn yn anodd mewn sefyllfa ramantaidd, a dwi’n cyfaddef fy mod i wedi gwneud y ddau. Ar y pryd, pan fo pethau’n newydd ac yn mynd yn dda, mae’n gwneud i chi deimlo’n hapus. Mae’r teimladau’n rhai cadarnhaol, ydynt, ond maen nhw’n hollgynhwysol ac yn gallu gwneud i chi golli persbectif. Mae’n bwysig cofio bod ‘na elfennau pwysig eraill yn eich bywyd, na fedrir eu hanwybyddu, hyd yn oed pan fyddwch yn disgyn mewn cariad. Dwi’n cofio un adeg rhai blynyddoedd yn ôl, pan wnes i ddisgyn mewn cariad am y tro cyntaf, roeddwn i wedi argyhoeddi fy hun bod cariad wedi fy ngwella’n llwyr. O ganlyniad, dechreuais anwybyddu’r hyn oedd yn sicrhau mod i ar lwybr o wellhad, sef meddyginiaeth ac ymarfer corff, ac ymhen wythnosau roeddwn i ar fy ngwaetha’. Bydd y person cywir yn deall pam fod angen i chi fynd yn araf, ac yn fodlon aros. Yn amlwg, mae angen cydbwysedd rhwng y pethau cyffrous mewn bywyd, a’r pethau llai cyffrous, ond mae gosod eich lles meddyliol uwchben popeth yn talu ei ffordd yn y diwedd.
Ceisiwch osgoi partneriaid sy’n eich trin yn wahanol oherwydd bod gennych salwch meddwl
Mae hyn yn gallu bod yn anodd i’w synhwyro os ydych chi mewn perthynas sy’n ‘dda’ ar yr arwyneb. Mae’r dyddiau da yr ydych yn treulio â’ch gilydd, a’r cariad sydd gennych tuag atynt yn gallu cuddio’r ffaith eu bod yn eich trin yn israddol neu’n wahanol. Yn ystod y misoedd diwethaf, dwi wedi darganfod hyn ynghylch fy mherthynas hirdymor a ddaeth i ben y llynedd. Er bod y berthynas yn ymddangos yn gariadus, ac er ei fod wedi deall a derbyn yr hyn roeddwn i’n gallu a ddim yn gallu gwneud, dwi’n gwybod nawr nad oedd y berthynas yn hollol iach a chyfartal. Roedd o gymorth mawr i mi yn ystod adegau tywyll, ond roedd fel petai’n credu mai ef oedd ateb fy holl broblemau. Fe wnaeth sicrhau fy mod i’n gwybod na fyddwn i’n gallu ymdopi hebddo, na fyddwn i’n gallu sefyll yn annibynnol, nac yn gallu cyflawni unrhyw beth heb fod yn rhan estynedig ohono ef.
Roedd yn defnyddio fy salwch fel ffordd o fy rheoli ac yn dweud pethau fel ‘Byddai gan neb arall yr amynedd sydd gen i’. Bydd rhywun sydd wir yn eich caru am i chi ffynnu a llwyddo, ac yn deall nad oes angen eich ‘achub’. Ni fydd rhywun sy’n eich caru eisiau i chi deimlo’n ddyledus iddyn nhw mewn rhyw ffordd oherwydd eu bod ‘yna’ i chi. Byddant yn gefnogol o’ch gwellhad, ac yn deall mai meddygon, gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol a meddyginiaeth yn ogystal â dyfalbarhad a’ch gwaith caled eich hun fydd yn eich gwella, nid nhw. Yr unig bethau sydd angen arnom gan y bobl yr ydym yn caru yw cefnogaeth, a theimlo eu bod yn ein derbyn fel yr ydym.
Sicrhewch fod gennych ffrindiau da o’ch cwmpas
Pan rydych ynghanol bwrlwm perthynas newydd, mae’n dda i gael ffrindiau da a fydd yn hapus i roi cyngor gonest i chi ac i’ch atgoffa eich bod yn haeddu gwell os yw pethau’n mynd o chwith. Mae’n bwysig treulio amser â’ch ffrindiau hyd yn oed os ydych wedi cyfarfod â phartner newydd. Yn fwy na thebyg, byddan nhw’n sylwi os ydych mewn perthynas nad yw’n iach, ac os fyddwch yn newid eich ymddygiad o ganlyniad i hynny. Bydd y ffrindiau hynny yno i chi os fydd perthynas yn chwalu, yn eich helpu i resymoli’r hyn sydd wedi digwydd ac yn gymorth wrth i chi symud ymlaen.
Gobeithio bod yr awgrymiadau uchod wedi bod yn ddefnyddiol. Yn bendant, mae perthynas iach yn gallu cael effaith cadarnhaol ar eich iechyd meddwl, ond yn anffodus, mae rhai adegau lle mae rhywun yn eich rhwystro rhag gwella. Nid yw’n beth hawdd cyfaddef hyn, ond mae’n rhaid cofio mai chi a’ch lles yw’r peth pwysicaf un.
Di-enw