Iselder – no way ydw i’n gadael iddo ennill!

Rhybudd cynnwys: meddyliau hunanladdol a hunan-niweidio

Helo!

Enw fi di Catrin Edwards a dwi ar fin cychwyn fy mlwyddyn ola’ yn neud y gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn wreiddiol o Ynys Môn. Dwi erioed ‘di sgwenu rywbeth fel hyn, ond wedi bod isio rhannu fy ‘stori’ ers ‘chydig o wythnosau bellach. Dwi am rannu efo chi be oedd blwyddyn gwaetha’ mywyd i.  Dwi’n gobeithio ella fydd rhywun yn ‘comforted’ gan y blog ‘ma gan wybod bod nhw ddim ar ben ei hun, fel dwi wedi bod tra’n darllen ambell i flog arall dros y misoedd diwethaf.

Digwyddiadau Newidiodd fy Mywyd

Oce, here goes. Nes i ddechrau teimlo’n reit isel dechrau’r ail flwyddyn yn Gaerdydd. Oedd pwysau’r gwaith yr hyn oni’n ddisgwyl, ond be oedd yn rili stressio fi allan oedd y pwyslais ar neud ceisiadau am bethau fel vacation schemes (sef profiad gwaith) a training contracts, sydd bron yn amhosib i’w cael. Oni’n teimlo fel bod pawb arall yn gwybod be i neud ac yn llwyddo i neud hynny a gneud yr holl waith ar gyfer y tiwtorialau a seminarau hefyd. Doni’m digon da i neud y gyfraith, heb sôn am llwyddo yn y broses ceisiadau. Nath hyn arwain ata i’n treulio oriau yn y llyfrgell, o 9 yn y bore i bron i 10 yn y nos, felly doni’m yn bwyta’n iawn na’n cysgu llawer.

Es i i ddechrau teimlo fel fod fy ffrindiau ddim isio bod efo fi, ac yn meddwl bod neb byth yn gofyn i fi fynd am goffi, neu i siopa ayyb. Wrth edrych yn ôl, fedrai weld sut oedd fy meddwl i’n creu’r problemau a’r pellter rhyngdda fi a’m ffrindiau. Doeddwn i ddim yn rhy hapus gyda fy sefyllfa byw oherwydd roedd na 8 o enethod mewn 1 tŷ, felly’n aml oni’n teimlo’n irrelevant ac yn ddiangen. Doedd na’m byd yn bod efo’r genod o gwbl, mae nhw’n ffrindiau da, a mi fydd nifer ohonyn nhw’n ffrindiau am byth. Ond, oherwydd y ffordd oni’n teimlo, doeddwn i’m yn neud unrhyw beth efo nhw. Nes i aros yn fy ystafell pan oni yn y tŷ, ac oni’n gwrando allan i sicrhau bod neb yn y gegin cyn popio lawr i neud bwyd i’w fwyta yn fy ystafell.

Diwrnod ar ôl fy mhen-blwydd yn 19 (diwedd mis Tachwedd) oedd y diwrnod – dyna dwi’n i alw fo. Oni di cael digon ac yn meddwl bysa hi’n well i bawb os taswn i’m yma. Dwi’m yn mynd i fynd mewn i fanylder oherwydd ma’n mynd a fi’n ôl i le tywyll, ac i adeg lle oni’m yn nabod fy hun – yn rili pell ohona fi’n hun – os ma hynna’n ‘neud synnwyr. O ganlyniad i hyn, roedd rhaid fi fynd i A&E yng Nghaerdydd ac wedyn ym Mangor oherwydd oedd gennai kidney infection. Es i weld fy nhiwtor personol yn y Brifysgol, a nath ni benderfynu ‘swn i’n cymryd interruption of study tan mis Ionawr.

Teimlo’n unig

Ar ôl i mi niweidio’n hun, oni’n meddwl ‘swn i jest yn cario mlaen efo bywyd, o’ni methu meddwl am ffordd i bethau wella. Roedd popeth wedi newid ac roeddwn i’n teimlo fatha rhywun diarth yng nghwmni fy ffrindiau a’n nheulu. Roeddwn i’n teimlo’n unig yn barod, ond yn ystod gwyliau ‘dolig a’r ail dymor roedd hi’n waeth. Mi oedd iechyd meddwl yn bwnc diarth yn tŷ ni, ac roedd rhaid i fi, Mam, Dad a mrawd ddysgu sut i siarad efo’n gilydd a bod yn onest am sut oedden ni’n teimlo. Wrth edrych yn ôl ar wyliau’r dolig, roedd y chats yna’n hanfodol i ni gyd, nid jest fi.

O’n i’n cachu’n hun yn mynd nôl i coleg ym mis Ionawr. Oni di dod i arfer bod yn eitha’ agored efo’n nheulu ac roedd gennym ni routine at pan oni’n mynd yn isel. O fewn diwrnod o fod nôl, es i nôl i sut oeddwn i cyn y dolig, yn gwahanu fy hun oddi wrth bobl. Yn aml, doedd na ddim trigger i bethau, ond oedd o fel tasa na switch yn fy meddwl, a doeddwn i’m isio i ffrindiau fi feddwl bo’ fi’n rhoi iselder ymlaen gan bod o’n dod o nunlle weithiau. Oni’n teimlo mor unig ac yn gwrthod galw am help pan oni yn isel, er bod ambell un o fy ffrindiau agosaf yn ailadrodd ei hunain o hyd yn ysu fi i rannu fy mhroblemau gyda nhw. Doeddwn i’m isio bod yn burden, ac er doeddwn i ddim o bell ffordd, oni ddim isio tynnu nhw lawr, oni’m yn meddwl bod o’n deg. Dwi bellach wedi dysgu bod o’n well iddyn nhw os dwi yn rhannu pethau gyda nhw gan bod nhw isio helpu a deall be dwi’n mynd trwyddo.

I fi, does na’m llawer o deimladau gwaeth na theimlo’n unig. Dwi’n dal i gael diwrnodau drwg, ac mae’r hen deimlad o unigrwydd wastad yna. Ges i ddiwrnod fel ma wythnos diwethaf, lle nes i gau fy nheulu allan a rhedeg i llofft i fod yn y tywyllwch ben fy hun. Mae’r peth nath triggerio fi i deimlo’n isel yn cychwyn cadwyn o bethau fyddai’n mynd i boeni amdanynt, a dwi wastad yn diweddu fyny yn meddwl bod na neb i fi droi ato, fel mod i’n styc tu ôl i wal rili tal sydd yn amhosib cael drosto.

Sut dwi’n ymdopi?

Mae yna lot o ffyrdd i ymdopi, ac mae gan pawb ei ffordd ei hunain o neud. Un o’r rhai gorau i mi ydy cyfathrebu, a dwi’n meddwl bod o’n hanfodol. Yn yr enghraifft o ddiwrnod drwg uchod, nes i fynd lawr at fy nheulu oriau wedyn a siarad. Natho ni jest siarad am be oedd wedi neud fi’n isel y tro hwnnw a nes i egluro pan dwi’n teimlo fel ‘na, mai’r unig beth dwi isio ydy hug er mwyn gwybod bod rhywun yna. Doedd Mam a Dad ddim yn gwybod hyn, ond yn meddwl mod i isio llonydd. Natho ni gyd deimlo’n well ar ôl siarad yn agored, a rŵan da ni’n deall ein gilydd yn well, ac oni’n teimlo gymaint llai unig yn syth.

Yn ogystal â siarad gyda ambell ffrind agos yng Nghaerdydd, dwi wedi bod yn mynd i weld fy nhiwtor personol er mwyn addasu y ffordd dwi’n gweithio i sicrhau bod fi’n trefnu digon o amser i ymlacio a neud ymarfer corff yn fy routine (dwi’n licio routine). Mi nes i neud sesiynau gyda cymorth myfyrwyr yng Nghaerdydd (mae nhw mond yn gallu cynnig 4 sesiwn one-to-one), ond doedd o ddim rili i fi oherwydd oni’n teimlo bod nhw’n eitha patronising, ond mae pawb yn wahanol ac mae’n amlwg yn gweithio i rhai pobl.

Ffordd cyffredin o ymdopi ydy cymryd anti-depressants. Mi oni yn erbyn cymryd rhai i ddechra gan bod fi’n poeni swn i’n fake happy, ond ar ôl neud ymchwil penderfynais oni angen nhw i ddechra gwella. Does dim cywilydd mewn cymryd nhw – fel ddudodd fy modryb “os sa ti di torri dy goes sa chdi’n cymryd rywbeth i helpu’r boen”.

Y ffordd gorau dwi’n ymdopi pan dwi’n isel ydy gwrando ar Les Mis, sef y musical gorau erioed. Dwi’n chwarae’r gân ‘One Day More’, sydd yn tynnu meddwl fi oddi wrth be bynnag sy’ wedi neud fi’n isel, ac yn aml dwi’n ailasesu’r sefyllfa a dod i sylweddoli bod pethau ddim mor ddrwg ag oni’n meddwl. Mae fi a Mam yn caru Les Mis gymaint, natho ni benderfynu cael tattoo ‘24601’ (sef rhif carchar y prif gymeriad) i mi allu edrych arno pan dwi’n isel a llenwi fy meddwl gyda atgofion hapus o wrando ar y caneuon a gweld o’n Llundain. Mae cael y tattoo wir yr fatha magic, a dwi’n mynd i fy happy place pan yn meddwl am unrhyw beth Les Mis.

Lle dwi rŵan?

Dwi bellach wedi ffeindio fy ffordd fy hun i ymdopi gyda fy iselder, ac rywsut wedi llwyddo i gael 2:1 yn fy ail flwyddyn. Wrth gwrs, dwi dal yn cael ambell i ddiwrnod drwg, ond dwi’n curo’r frwydr, ac i fod yn onest, dwi’n reit falch o fy hun. Tan i fi ddechrau meddwl am sgwennu’r blog ma, doeddwn i ddim yn falch o ba mor bell dwi wedi dod ers diwedd 2017.

Mae pobl yn deud ‘paid poeni nei di gael trwy hyn’, a chydig o fisoedd yn ôl roedd hynna’n mynd dros fy mhen, ond dydi’r salwch ddim yn haeddu ennill yn erbyn unrhyw berson, ac mae angen credu bod chi ddigon cryf i oroesi’r salwch (chydig yn cringe, ond gwir). Dwi wedi colli sawl ffrind dros y flwyddyn diwethaf, ond mae’r rhai sydd wedi aros efo fi yn saints a fyddai’n ddiolchgar iddyn nhw am byth. Dwi mor lwcus i gael y pobl osym ma yn fy mywyd, a dwi isio bod yna i bobl sydd ella ddim efo pobl i siarad efo, neu isio siarad efo rhywun sydd yn mynd i ddeall ei sefyllfa. Er nad ydi o’n glir pan da chi’n isel, mae yna gymaint o fobl sydd yna’n barod i helpu mewn unrhyw ffordd maen nhw’n gallu.

Oedd hi’n rili rhyfedd sgwennu hwn, a dwi dal ychydig bach yn anghyfforddus yn siarad am fy mhrofiadau dros y flwyddyn yma, ond dwi gymaint mwy agored i siarad am bethau rŵan. Mae siarad yn hanfodol dwi’n meddwl, oherwydd yn anffodus, dydi iechyd meddwl ddim yn cael ei drafod yn iawn yn wirioneddol, ac mae na dal andros o stigma o’i gwmpas.

Catrin Edwards