Hel Meddyliau efo Lisa Jên Brown

Bu criw meddwl.org yn holi’r actor a pherfformiwr Lisa Jên Brown am ei phrofiadau gyda’i hiechyd meddwl a PMDD.

Pryd ddois di i wybod am y cyflwr PMDD (Premenstrual Dysphoric Disorder) yn gyntaf? Oeddet ti’n gwybod unrhyw beth amdano cyn cael deiagnosis?

Mi oedd na sawl ‘light bulb moment‘, a haenau ar sut ddesh i wybod am y cyflwr. Dwi wasdad wedi diodda’ yn emosiynol cyn y mislif. O’n i’n ifanc iawn yn cychwyn ac felly yr emosiyna’ a’r teimlada cymhleth oedd yn dod cyn gwaedu – wedi gadal fi’n bentwr ers o’n i’n 11 oed. Mae pawb sy’n agos ata’ fi, fy Mam a’n chwaer ayyb yn gwybod o edrych arna’ fi ‘mod i am ‘ddod ‘on’.

Ond dim ond ers tua 6 mis ddesh i wybod am y cyflwr sy’n ‘disorder’ – o’n i wasdad yn meddwl mai PMT drwg oedd gen i, neu hyd yn oed mod i efo Bipolar neu Iselder gwael… wasdad yn chwilio am atebion ‘pam mod i fel hyn?’ ‘Be sy’n digwydd i fi?’. Ac er mod i yn gymaint o hipi, yn addoli’r  lleuad, yn nofio mewn afonydd, yn cysylltu â’r tir, yn canu i’r brain… nesh i erioed gysylltu fy nheimlada’ a fy emosiyna efo fy ‘cycle’- sy’n hollol ridiculous! (Ac ia, rheswm arall i deimlo fel methiant pan dwi’n ganol y niwl o’r uffern ac ydy PMDD!!).

Ond dwi’n lwcus i gael Mir! Ffrind gora’ sy’n nabod fi’n well na fi’n hun! Un noson yn y clo mawr mis Mawrth, nath hi ‘screen shotio’ symptomau PMDD i fi a deud ‘Dol! Chdi!’ a dwi’n cofio darllan o yn fy ngwely a mynd…. ‘ia! fi ‘di hon!’. Y noson wedyn nesh i weld eitem ar newyddion 10 o’ gloch y BBC, a sawl dynas yn siarad am eu teimladau ac mi o’n i a fy ngŵr Mart yn digwydd gwylio – dyna pryd nesh i  sylweddoli bod symtomau fi’n cyfateb efo rhai y merched ‘ma ar y teli. Diolch byth fod na ferched yn codi ymwybyddiaeth!

Sut oedd y broses gychwynnol o gael deiagnosis – oeddet ti’n disgwyl am amser hir / ddim yn cael dy gymryd o ddifrif ayb?

Mi oedd y broses gychwynnol yn eitha rhwystredig, yn enwedig bod ynghanol pandemig lle ti methu bod wyneb yn wyneb efo dy ddoctor dyddia’ yma! Nesh i siarad dros y ffôn, a bwrw ‘mol… ac yn naturiol ateb y doctor oedd… oce, mi allwn ni roi chdi ar y pill, neu mi elli di gymryd anti-depressants at y cyflwr.

Wel, dwi rili ddim isho mynd ar y pill, gan fod o’n hanesyddol wedi gneud i’n wallgo y chydig droeon dwi wedi bod arna fo… hefyd… ydw i rili isho chwara’ efo natur y mislif? Peidio gwaedu? Pwmpio’n hun efo estrogen a progestin – dim amharch o gwbwl at y pill ond dio rili ddim i fi! Ac yn yr un modd, dwi wir ddim isho cymryd antidepressants  at rhwybeth sy’n gwneud fi’n anhapus am wythnos bob mis.  Mae gen i ddoctor gret yn Bethesda, a pan esh i nol ati a deud, na dwi ddim isho hyn, mi oedd hi’n fodlon cysylltu efo consultant yn Ysbyty Gwynedd a gweld sut mae mynd ati yn y ffordd mwya’ naturiol. Ond i fod yn onest, dwi’n meddwl mai’r peth gora’ dwi wedi neud ydy cael sesiwn efo doctor Ayurveda – sef meddygyniaeth hynafol o India sy’n defnyddio system naturiol a holistig at wella’r corff a’r meddwl.  Hefyd, be nesh i oedd cadw dyddiadur o symptomau fi i gyd, ac yn hytrach na trio profi’n hun i neb a pledio am ddiagnosis, nesh i weld patrwm fy hun a dod i nabod fy hun yn well mewn ffordd, a hyn i gyd CYN mynd at y doctor- felly mi oedd y deiagnosis yn hawdd mewn ffordd gan fod gen i dystiolaeth cadarn!

Yn dy brofiad di, ydi meddygon yn gwybod digon am y cyflwr?

Dwi yn teimlo mod i wedi cael fy ngymryd o ddifrif, ond dwi hefyd yn teimlo fod na ddim lot o gydymdeimlad. Jysd y system ma sydd ganddo ni o…. ‘cymra’r tabledi a fyddi di’n iawn!’ Yn hytrach na mynd i wraidd y peth yn iawn lly’ – be sy’n achosi lefelau hormonau i ddisgyn a pham? A be allwn ni neud i atal hynny neu leddfu chydig ar hynny. Mae o braidd yn rhwystredig a ti’n teimlo bod chdi ar ben dy hun i ddatrys yr holl beth. Ond bellach dwi’n gwbod be sy’n helpu fi, be dwi’n gallu neud i gadw fi ‘in control’ math o beth… ma’n blydi anodd… achos ti’n gwbod…. ‘reit lisa… dos i redag… fyddi di’n well’ … ond cwbwl allai ‘neud ydy gorwedd yn gwely efo ‘lectric blanket’ mlaen! God!

Dyweda ychydig am y cyflwr ei hun a’i effaith arnat ti – pa symtomau wyt ti’n ei brofi gyda PMDD?

Ma’n gyflwr sydd yn cael ei gymharu efo PMT ond mae o lot gwaeth! Mae fy nhymer i yn newid o fod yn hollol hapus ac ar ben y byd, i deimlo fel methiant llwyr ac yn mynd mor ddyrys a ddim isho bod ar y byd ma’ ddim mwy! Dwi’n pwyleisio mai cyfnoda’ byr ydy’r teimlada’ ffiaidd ma o iselder, casau dy hun, ddim isho cario ‘mlaen,  isho camu allan o dy groen dy hun… ych… ma’r self -sabbotage yn erchyll… ma nhw’n ymgripian yn ara’ bach tua wythnos cyn chdi waedu nes bod chdi jysd a ffrwydro erbyn y diwedd. Yna unwaith ti’n dechra gwaedu mae fel bod y balwn yn gollwn gywnt yn slo bach a ti’n dod nol i siap- teimlo fel chdi dy hun eto.

Symptomau eraill dwi’n ddiodda’ a dwi am fod yn onest achos dwi’n meddwl fod o’n bwysig rhannu! Rili pwysig .. ydy teimlo ‘mod i ddim isho cario mlaen… mae bob dim yn teimlo’n ormod, perthynas, priodas,bod yn fam, rhedag tŷ, fy ngyrfa i, cyfeillgarwch, stad y Byd, cymdeithas… ma’n teimlo fatha ‘sa fo lot haws hebdda’ fi yma.

Dwi’n gor fwyta, dwi ddim yn bwyta, dwi’n teimlo’n anfarth, yn bloated a colli rheolaeth ar be sy’n wir a be sydd ddim. Dwi’n teimlo’n rili trist, fatha, rili trist, crio lot, yna teimlo’n flin a poeth a rhwystredig. Methu canolbwyntio, di -egni, isho cysgu – wir allai gysgu am ddau ddiwrnod cyfa a methu codi o ‘ngwely – poen cefn, cleisio’n hawdd, poen yn fy nghorff fel symptomau ffliw. Ma’ brona’ fi’n lladd, fel pan ti’n bronfwydo ar ol cael babi, allai’m cyffwrdd ynddyn nhw.

Dwi’n gor-bryderu, yn ailgnoi sgyrshia’ dwi wedi gael, ruminate, dwi mor tense ac yn cael panic attacks. Sgen i jysd ddim diddordeb mewn dim byd ac yn waeth na dim dwi’n gallu bod yn ffiaidd efo’r plant! Gwylltio am ddim rheswm a hwna sy’n afiach – rili afiach… wedyn ti’n berwi mewn euogrwydd, yn absolwtli casau dy hun ac ma’r cylch yn cychwyn eto!

Ma’n anodd i bawb o dy amglych di rili, dy deulu a dy ffrindia’  a bob mis ti’n deud… dwi am fod yn fwy parod mis nesa, dwi am fedru rheoli hwn tro nesa’, dwi am fod yn ‘disgwl’ hyn mis nesa ac felly mi allai sdopio’n hun! Ond ti methu! Ma’ mor debilitating! Ti jysd methu rheoli fo! Dio’m otsh pa mor gryf dy feddwl ti’n teimlo am 3 wythnos cynt, ma PMDD yn disgyn arna’ chdi fel avalanche.

Sut wyt ti’n bersonol yn ymdopi? Unrhyw gyngor hunanofal hoffet ti rannu?

Y ffordd dwi’n ymdopi ydy bod yn vocal am y peth- dwi’n ffeindio fo’n hawdd siarad am y peth a sgen i ddim cwilydd… dwi’n rhwystredig yndw… a dwisho ‘peidio’ bod felma ond sgen i ddim cwilydd achos dwi’n gwybod fod gen i ddim help.  Mae gen i ferch 10 oed  a 12 oed, a dwi wedi siarad nhw trw bob dim. Bob dim, ac wastad wedi ers oedda nhw’n blant bach! Felly mae na ddealltwriaeth yn y cartref sy’n helpu’r euogrwydd yn y pendraw.

Ma hiwmor yn helpu hefyd, e.e mae Mart yn gwbod cyn fi fy ‘mod i’n mynd lawr y twnel tywyll na’ o PMDD ac mi ddaw o adra o’r siop efo llwyth o fwyd cachu a choclet a deud ‘ammunition am yr wythnos – let’s be prepared’ – mae cael Mart ‘on board’ yn rili helpu, mae o’n dalld ac wedi gneud lot o ymchwil a ma huna’n gret, ond dwi’m am ddeud fod o’n fel i gyd…. mae o wir yn effeithio perthynas ni, gymaint a mae o’n cydymdeimlo, ma na adega lle mae’ popeth yn mynd ar chwal a mae o’n cael llond bol! Ohona’ fi, o’r PMDD  a ma’n gut wrenching!

Dwi’n gwbod be sy’n helpu fi a sy’n lleddfu ‘chydig ar y symptomau, petha fel..bwyta’n iach. Ymarfer corff – mae rhedag neu cerdded y llwybra’ a bod yn y natur yn HIWJ! Tynu sgidia’ a plannu ‘nhraed yn y pridd a’r mwd, ac angori fy hun yn y tirwedd, ma’n helpu. Ma diosg fy nillad a nofio mewn afonydd a llynoedd yn newid popeth! Yn enwedig pan ti’n flin ac yn boeth a ma’ dy feddwl di’n troi a troi o ti methu dianc o dy ben… ma mynd dan y dŵr rhewllyd am eiliad yn golchi bob pechod! (dyna fyddai’n ddeud yn aml… ti’n gweld… dwi’n meddwl fod gen i agwedd iach ond dwi basically yn deud wrth fy hun mod i’n droseddwr, yn bechadur, fod na fai arna’ fi am fod felma…. grrrrrr!! I’m working on it!! Screw you PMDD!!

Doedd gen i ddim syniad be oedd PMDD 6 mis yn ôl, do’n i’m yn gwybod fod o’n effeithio cymaint o ferched! Ers i mi ‘neud eitem i’r newyddion efo Elen Wyn Jones, dwi wedi cael llwyth o negeseuon yn diolch am siarad allan, yn teimlo fod yr eitem 3 munud wedi dysgu mwy na 10 mlynedd o fynd nôl a ‘mlaen at y GP. Mae o wir wedi helpu fi a merched eraill deimlo’n llai ynysig a dwi wedi sylweddoli fod ni jysd ddim yn trafod periods, emosiyna’, mynd i wraidd teimlada’ hyll, y menopause, mynd yn hŷn… ‘da ni ddim yn trafod y petha ‘ma ddigon! Felly mae gonestrywdd a codi ymwybyddiaeth yn hanfodol bwysig – ma’ rhaid ni rannu, dyna sut ma’ petha’n cael eu setlo!

Ydi dy iechyd meddwl, yn sgil PMDD neu beidio, wedi effeithio ar dy yrfa o gwbl?

O ran fy ngyrfa, tydi PMDD ddim yn atal fi neud dim byd wrth reswm, ond ma’n blydi egluro pam dwi’n teimlo mor confused weithia. Pam di’r leins ddim yn sdicio un diwrnod ond wythnos wedyn dwi’n dysgu 10 tudalen o ddeialog mewn 10 munud! Mae diagnosis a dealldwriaeth o’r cyflwr yn egluro pam dwi weithia isho bod yn ty yn fy ‘house dress’ o flaen tân efo cath dan un gesail a ci dan y llall, yn hytrach na bod mewn festival! Pam bod fi’n teimlo bod fi NO WAY yn gallu cyfarch cynulleidfa yn teimlo fel y person gwaetha’ yn y byd, ac eto… dwi’n rhoi’n hun allan yna fatha bod na’m byd o’i le! ‘Keep Swimming’ ydy’r mantra. A dwi’n neud o, achos bod rhaid i mi.

Ond mae dallt o rwan yn golygu mod i’n medru deud wrth fy hun a pawb o’n amgylch i os dwisho…. ‘Hei pawb! Dwi’n sdryglo heddiw! Sori… fyddai efo chi asap!’ Ac os dwi angan cuddio neu pellhau fymryn, dwi’n gallu jysd arsylwi a tawelu chydig, cuddio… tan dwi’n barod i chwara’ eto.