Gwrthiselyddion

Ymwadiad: Mae gwrthiselyddion yn driniaeth gyffredin ar gyfer afiechydon iechyd meddwl, ac mae’n bwysig iawn trafod hyn gyda’r meddyg ac i beidio â stopio cymryd tabledi eich hunain.


Ar y cyfan, mae’r mwyafrif o’r rhai sy’n defnyddio gwrthiselyddion yn teimlo’u bod yn llesol i’w iechyd meddwl. Fodd bynnag, dylai pawb fod yn ymwybodol o sgil effeithiau posib y meddyginiaethau hyn. Nid ymgais i ddychryn ydi hyn, ond yn hytrach codi ymwybyddiaeth fel y gall unrhyw un deimlo’n hyderus o’u defnyddio.

Dyma ran o’r hyn ddigwyddodd i fab i mi wedi i’w feddyg teulu ei roi ar SSRI o’r enw Seroxat.

Pan yn tynnu at derfyn ei amser yn y coleg, fe ddechreuodd ddiodde o iselder gyda gor-bryder oedd yn amharu ar ei allu i fwyta, cysgu, canolbwyntio ac yn y blaen. Ar ei ymweliad cyntaf cafodd ei roi ar dabledi cryf heb unrhyw sylwadau o beth allai ddigwydd. Ymhen tridiau, roedd ei feddwl yn barhaus ar derfynnu ei fywyd. Fe lyncodd nifer dda o’i dabledi a chael ei hun yn yr ysbyty lle y cafodd air gyda staff o’r Uned Seiciatreg. Dywedodd y rheini y bydden nhw ar gael iddo unrhyw adeg – dydd neu nos – os y byddai’n teimlo’n debyg eto.

Roedd y teimladau yn cryfhau o ddydd i ddydd, a gyda hyn ‘roedd ei dymer yn byrhau. Wedi mis o hyn nid oedd yn gallu cadw’n llonydd na chanolbwyntio ar ddim oherwydd y teimladau dirfawr oedd yn rasio trwy ei feddwl ddydd a nos. Un noson, wedi cyrraedd pwynt na wyddai sut i ymdopi mwyach, aeth i lawr i’r Uned i ofyn am help. Ni gafodd help ac yn ei bryder ei fod yn drysu, fe achosodd ef ddifrod i’r uned.

Mis yn ddiweddarach, cafodd ffit tebyg iawn eto – gartref y tro yma, pan y bu’n rhaid cael plismyn i helpu’r paramedics i’w gael yn saff i’r ysbyty. Y tro hwn, fel y tro blaenorol, cafodd ei gadw ar yr un meddyginiaeth.

Mis eto yn ddiweddarach wedyn, fe gafodd ffit am y trydydd tro. Erbyn hyn roedd yn clywed lleisiau oedd yn ei orchymyn i frifo eraill – neu, os yn rhy wan i wneud hynny, i ddifa ei hun. Fe geisiai daflu ei hun allan drwy ffenest y llofft, bu’n torri ei hun – bellach, fe deimlwn bod yn rhaid cael atebion proffesiynol i’r hyn oedd yn mynd ymlaen.

Y noson honno, yn yr Uned, daeth dau seiciatrydd ifanc i’w holi. Ymhen rhyw ugain munud, aeth y ddau allan i drafod y sefyllfa. Eu hateb wedi dychwelyd i’r stafell? Bod yn rhaid ei dynnu oddiar y Seroxat yn gyfangwbwl – mai y rheini oedd yn achosi’r holl broblemau. Dyma’r tro cynta i ni glywed bod unrhyw bosibilrwydd y gallai’r tabledi yma wneud unrhyw beth ond gwella ei sefyllfa.

Dyma gychwyn y stori’n unig – gan ei fod yn parhau i geisio gwella o’r llanast a ddigwyddodd i’w fywyd.

Fel y dywedais ar y cychwyn, nid ymgais i ddychryn ydi hyn – ond yn hytrach ymgais i dynnu sylw at yr hyn all ddigwydd. Hoffwn feddwl bod darllen yr hanesyn hwn yn gyfrwng, i unrhyw un sy’n amau a yw eu meddyginiaeth yn gweithio iddynt, i holi am gymorth gwahanol.

OS YDYCH YN AMAU – HOLWCH EICH MEDDYG. PEIDIWCH AR UNRHYW GYFRI ROI’R GORAU I’R TABLEDI HEB GYMORTH MEDDYGOL.

Diolch am ddarllen yr hanesyn.

Mam


Sylwadau Meddyg teulu:

Mae SSRIs fel Seroxat yn driniaeth gyffredin ar gyfer iselder a gorbryder sydd yn gallu bod yn hynod effeithiol ac yn y rhan fwyaf o achosion does prin dim sgil effeithiau. Mae SSRIs yn gallu achosi mwy o orbryder i gychwyn, ond mae’r symptomau yma fel arfer yn setlo yn weddol sydyn wrth barhau i gymryd y tabledi. Roedd pryderon am SSRIs dros ddegawd yn ôl a phenderfynwyd yn sgil hyn y dylid osgoi trin iselder mewn pobl ifanc dan 18 oed gydag SSRIs, ag eithrio Fluoxetine (Prozac). Mae’n bwysig pwysleisio y dylai unrhyw un sy’n pryderu am eu triniaeth fynd i drafod gyda’r meddyg ac i beidio stopio’r tabledi eu hunain.