Gwella’n dechrau dod yn bosib

Rhybudd cynnwys – Problemau bwyta, hunanladdiad, hunan-niweidio

Pan welais i bod #2019in5words yn trendio ar Twitter,  aeth fy meddwl yn syth i “totally fucked up dumpster fire”, “the government let us down” neu, fel y dywedodd Greta Thunberg mor huawdl, “our house is on fire”. Fodd bynnag, yn wahanol i’r arfer, penderfynais i fod rhywfaint yn fwy positif am y peth.

Mae 2019 wedi bod yn flwyddyn dwi’n teimlo, o’r diwedd, fy mod wedi dechrau delio â’r problemau sydd wedi bod yn dinistrio fy mywyd ers blynyddoedd. Dechreuodd y flwyddyn yn wael. Ar Ddiwrnod Calan, fe wnes i hunan-niweidio, gwneud fy hun yn sâl a bron i mi geisio lladd fy hun. Oherwydd hynny, fe wnaeth ffrind agos orfod cysylltu â fy Mam oherwydd ei bod yn bryderus am fy niogelwch a lles. Wrth edrych yn ôl, dylwn i fod wedi bod yn yr ysbyty mewn gwirionedd, ac mae’n codi ofn arna i pa mor agos oeddwn i gyflawni fy nghynlluniau. Mae’r daith araf ers un o fy nyddiau isaf wedi bod yn lafurus i ddweud y lleiaf ond ers y 363 (?? ish) diwrnod diwethaf, alla i ddweud yn onest fy mod wedi dod mor bell o’r pwynt hwnnw.

Y tro diwethaf i mi wneud fy hun yn sal oedd 1/2/2019 ac mae cyrraedd 12 mis yn dechrau teimlo o fewn cyrraedd. Er ei fod yn swnio’n cliché, un o’r pethau anoddaf dwi erioed wedi’i wneud yw gwella o bwlimia. Mae lot o waed, chwys, a dagrau wedi bod (a diffyg cyfog…) ond dwi ddim yn ofni llithro nôl i’r hen arferion mwyach. Dwi o’r diwedd wedi dod i’r pwynt lle dwi ddim yn ofni magu pwysau a cholli rheolaeth dros fy nghorff. Dwi’n credu ‘mod i bron yn barod i gael gwared ar y glorian a bod yn rhydd ohoni. Dwi o hyd yn cael meddyliau annifyr, yn ogystal â dismorffia, ond dwi’n gallu adnabod y meddyliau a’u hatal rhag fy llethu’n llwyr.

Dwi wir eisiau dweud wrthoch sut wnes i hyn, ond a dweud y gwir, dwi ddim yn gwybod. Ar ryw bwynt, byddaf mwy na thebyg yn cyflwyno post ar fy mlog yn esbonio sut a pham ddechreuodd fy mhroblemau bwyta a iechyd meddwl, ond am nawr, dwi’n bwriadu canolbwyntio ar sut dwi’n dysgu byw gyda nhw. Mae meddyginiaeth wedi bod yn rhan hollbwysig o fy ngwellhad, er dwi’n siwr y byddaf yn cyflwyno post yn y dyfodol am fy mhrofiad o’r misoedd cyntaf o gymryd meddyginiaeth seicotropig a fy nheimladau amdanynt. Yn fy achos i, roedd fy iechyd meddwl o leiaf yn rhannol yn broblem cemegol. Mae Sertraline yn bendant wedi achub fy mywyd a dwi wedi bod yn ddigon ffodus i gael meddygon teulu gwych sydd wedi cydnabod fy mhroblemau a fy helpu i’w datrys (dwi’n caru’r NHS).

Mae fy ffrindiau hefyd wedi bod yn rhan enfawr o’r ffaith fy mod wedi goroesi misoedd cyntaf y flwyddyn diwethaf – dwi wir ddim yn eu haeddu. Maen nhw wedi bod yna i wrando, i’m hannog i ofyn am gymorth proffesiynol, i gymryd y glorian oddi wrtha i a sicrhau fy mod yn ddiogel pan oeddwn wedi’n llethu â meddyliau tywyll. Dwi wir ddim yn gallu eu diolch digon. Ac yn olaf, therapi. Ie, y gair yna sy’n codi ofn. Does dim byd dwi’n casáu mwy na theimlo’n fregus ond mae CBT, cwnsela yn y brifysgol, a chwnsela profedigaeth gan y sefydliad anhygoel Cruse wedi fy ngalluogi i ddechrau datrys pethau a gwneud synnwyr o’r holl beth. Heb y ffactorau hyn i gyd, byddwn i bendant ddim yn y sefyllfa dwi ynddi nawr. Mae’n bosib na fyddwn i hyd yn oed yn fyw, ond dwi nawr yn gallu gweld sut all pethau barhau i wella.

Felly, mewn ymateb i gais Twitter i grynhoi fy mlwyddyn mewn 5 gair, fe ddywedaf bod ‘gwella’n dechrau dod yn bosib’. Dwi ddim cweit yna eto, efallai bydda i’n dibynnu ar Sertraline am flynyddoedd, ond dwi nawr yn gallu gweld dyfodol i fy hun lle dwi ddim yn sal yn feddyliol – ac o gymharu â sut oeddwn i’n teimlo flwyddyn yn ôl, mae hynny wir yn anhygoel.

Gallwch ddarllen rhagor gan Ffion ar ei blog.