Gorbryder
O’n i ddim yn siŵr os bydden i’n ysgrifennu amdano profiade fi gydag ymladd iechyd meddwl, ond ar ôl llawer o feddwl, falle bydde ysgrifennu am fy mhrofiade yn ysgogi rhywun arall i wneud yr un peth hefyd. Sa’i ishe i hwn swno’n drist, achos fel person sy’ wastad yn trial cal y bobl o amgylch fi i chwerthin a gweld yr ochr ‘bubbly’ ‘na ohona i, dyw e ddim yn realistig i fi trial portreadu profiad fi mewn ffordd hollol ddiflas. Felly, here we go…
Sai’n really siwr le i ddechre gyda probleme fi, ond fi’n siŵr bydde mynd nôl i’r ysgol gynradd yn good start. Fel plentyn o’n i wastad yn cal ton o bryder yn dod ar ben fi ar rhai adege, ond dim byd bydde’n i’n meddwl byse di cal effaith enfawr arno fi yn fy arddegau. Yr unig beth fi’n cofio oedd yn poeni fi mwya fel plentyn oedd fy adlewyrchiad yn y drych, a’r ffaith fe ddes i’n ddigon gloi i sylwi bod fi tamaid yn fwy na fy ffrindie. Fe nath hyn (thank god) ddim effeithio ar fy mherthynas â bwyd mewn ffordd cyfyngol, ond yn araf bach fe ddath bwyd yn elfen o gysur i mi, sdim dowt.
Fast forward i tua blwyddyn 10. Sai’n cofio lot o flwyddyn 10 ond am ryw cwympo mas gyda ffrindie am gyfnod yn ogystal â’r teimlade isel we’n i’n dechre profi. Yn sicr nid oedd rhain yn ddifrifol o isel nac yn unrhyw beth i boeni amdano ar y pryd, ond edrych nôl fi’n credu mai dyma lle cafodd yr hedyn ei hau. O’n i am ryw reswm “dim yn ddigon da”, “yn ffrind rubbish” a just ddim yn edrych fel we’n i moyn i edrych fel; dyma enghreifftiau o bethau a ddechreuodd creu pryder i mi.
Cariodd hwn i fynd ymlaen am ryw dwy flynedd (felly fy nghyfnod TGAU gyfan) a gwaethygu wnaeth fy sefyllfa.
Fi’n cofio cal ‘mini breakdown’ yn yr haf wrth iste mewn carafán yng nghae YPV yn Royal Welsh gyda ffrindie fi – fi’n cofio esbonio iddyn nhw bod rhywbeth yn bod ond bod fi ffaelu gwitho mas beth odd e, felsen i ‘mewn bubble yn gwylio’r byd yn mynd mor gloi, ond popeth ar yr un pryd mor slow’. Falle gwell bydden i ar ôl cal pethe off y’n chest i, ond na. Er o’dd popeth yn mynd yn iawn o ran teulu a ffrindie, cal canlyniadau ffab yn fy TGAU, odd y wên a’r hapusrwydd mond yn para ryw ‘chydig o amser.
O fis Medi i fis Rhagfyr 2017, dyna pryd a’th pethe’n waeth. Ro’n i’n gobeitho bydde popeth yn stopio wrth dechre Lefel A, fresh start, ond na. Fe wnes i roi lan ar wersi piano achos o’n i ddim yn cal unrhyw fwynhad allan o ge bellach, yn ogystal â’r ffaith fy mod yn profi symptomau o orbryder yn y gwersi a oedd y gwneud hi’n anodd i mi chwarae (er o’n i di bod yn chware piano ers yn 7 oed), roedd ymarferion côr yn dod yn rhywbeth i bryderu drosto ac am gyfnod o’n i just ffaelu cal f’unan i fynd. Roedd gymaint o bethe roedden i ar un adeg yn dwli arno, yn bethe bydden i’n llefen amdano, a elo nhw’n bethe we’n i’n eu casáu.
O’n i wir ar goll.
O’n i ddim yn gweld pwrpas byw, achos dim ond corff o orbryder oeddwn i. Pam bydde unrhyw un ishe bod o’n amgylch i? Fe wnaeth y gorbryder dwyn fy mhersonoliaeth wrtha’i yn gyfan gwbl. O’n i’n codi, teimlo’n awful, mynd i ysgol, teimlo’n wath, repeat.
Fe wnes i stopio edrych ar ôl fy hun achos o’n i “ddim yn haeddu e” yn fy marn i e.e. y ffordd we’n i’n edrych, dim prydie bwyd teidi, a bellach dim yn becso am fy ngwaith ysgol. Roedd popeth yn ddibwynt, a’r ffordd roeddwn i’n byw fy mywyd hefyd yn ddibwynt. Nid oedd fy hunanhyder yn bodoli yn yr adeg yma, ac o’n i wir di dod i gasáu y person oedden i. Bydden i’n aros yn fy stafell wely am oriau bob nos yn ceisio anwybyddu siarad ag unrhyw un, achos o’n i just ddim da’r egni i neud unrhyw beth.
O’dd popeth yn cymryd gymaint mas ohona’i, a diwrnod yn teimlo mor hir ag wythnos.
Ar ôl llifogydd o ddagre ar ben fy hun gyda neb mewn gwirionedd yn gwybod bod hyn yn digwydd yn fy mhen, fi’n cofio ar ôl un wers piano yn eistedd yn y car gyda Mam a just gweud “sai’n teimlo’n normal.” Yn sicr o amgylch y cyfnod yma, o’n i ffaelu gweld am pa mor hir y bydden i’n gallu delio â’r poen yma – o’n i ddim moyn byw fel hyn rhagor. Ar ôl y sgwrs anodd ‘na, penderfynodd Mam mai’r peth gore bydde i ffonio’r GP. Mis o aros, ond dim byd rhy ffôl. Tachwedd 14 2017, ma’r diwrnod ‘na yn un niwlog iawn, ond un peth fi’n cofio yw’r gair depression. Byddech chi’n disgwyl i rywun fod yn anghyfforddus gyda clywed y gair ‘na, ond i fi, mond dagre o ryddhad da’th mas o’n llygaid i; o’r diwedd odd gair i ddisgrifio’r hyn o’n i’n teimlo. Ar ôl tua dau fis o aros, cefais fy apwyntiad cyntaf â seicolegwr yn Ionawr 2018… blwyddyn newydd, dechreuad newydd.
Felly, ar ôl cael asesiad llawn yn y sesiwn cyntaf, cefais ddiagnosis cychwynnol o Gorbryder a ‘Panic Disorder’. Fe barhaodd y sesiynau yma am ryw 5 mis, ac yn araf bach fe ddechreuodd pethe gwella, ond yn amlwg roedd y probleme’n llawer dyfnach ac roedd angen therapi, felly cefais fy anfon i gael therapi CBT o dan ofal CAHMS yng Nhaerfyrddin. Ar y pryd we’n i ffaelu gweld sut bydde hyn yn fy helpu, a pharhau i deimlo’n orbryderus oeddwn i bob dydd, boed hyn yn yr ysgol, gytre neu unrhyw fath o sefyllfa gymdeithasol.
Crynu, teimlo’n sâl, methu ffocysu, chwysu, teimlo felse’n i’n mynd i lewygu, i restru rhai o’r symptomau.
Yn sicr fe ddaeth cymdeithasu yn elfen amlwg iawn o fy mhryder, a’r ffaith bod straen parhaol arna i i fod yn berffaith ym mhob ffordd; y ffordd we’n i’n edrych, fy mherfformiad yn yr ysgol, y ffordd we’n i’n siarad â phobl ayyb, fe ddaeth osgoi digwyddiadau yn fecanwaith ymdopi gwael. Yn sicr fe droies i i fod yn dipyn o ‘control freak’, ac unrhyw beth bydden i’n gallu rheoli fe wnes i – er mewn gwirionedd o’n i’n bell o allu rheoli’r elfennau yma o fy mywyd, a’r llais ma yn fy mhen odd yn parhau i wthio fi nôl mewn i’r tywyllwch.
Ar ôl tua 6 mis o sesiynau wythnosol dan ofal CAMHS, roeddwn i’n barod i wynebu fy mhroblemau heb arweiniad pellach. O edrych nôl ar fy mhrofiad yno, fi’n gweld sut nath e helpu. Er ar y pryd o’dd cal rhyw label newydd ar fy mhersonoliaeth yn rhywbeth anodd i mi ddelio â (annoying perfectionist!) fi’n falch fe es i i bob sesiwn er mor anodd oedd hi, a hefyd pa mor ddiolchgar ydw i am dderbyn y lefel yma o gymorth. Rywbeth nad sy’n cael ei drafod yn aml yn fy marn i yw pa mor anodd yw therapi. Chi’n gorfod cyrraedd llefydd yn eich meddwl sydd byth yn cael eu cyrraedd allan yn uchel, fel rhyw fath o atgoffa bod hwn really yn digwydd i chi. Hefyd y ‘gwaith cartref’ a’r ofnau gwahanol chi’n gorfod ceisio taclo’n wythnosol, er bod eich ‘bywyd normal’ dal i fynd ymlaen, a’r traethawd hanes yn aros i gael ei hysgrifennu erbyn fory!
Ar ôl therapi, fe ddes i’n sydyn iawn i ddarganfod y tân a’r cryfder oedd yno fi i beidio â gadael i fy stad meddwl cael y gorau ohona i, na fy ngwaith ysgol – er bu llawer o ups and downs! Un o’r pethau dwi mwya prowd ohono, yw’r ffaith es i trw’r blynyddoedd anodda’ o ysgol yn y fath stad pob dydd (yn cuddio fe mewn gwirionedd) ac erbyn y diwedd sicrhau lle i f’unan i astudio’r Gymraeg a Hanes mewn prifysgol rwy’n dwli arno, a llwyddo i gael AAA yn fy Lefel A! Shout out i fy athrawon arbennig!
Bellach, dwi dal i gael pyliau o banig afreolus pan does dim byd catastroffig yn digwydd, a dal i fynd yn isel pan nad ydw i’n cyrradd rhyw ‘standard’. Ond mond amser sydd angen, a dyna’r peth pwysica’ fi di dysgu yw bod cael eich hun mas o dwll tywyll yn cymryd amser a chryfder, credwch chi fi! Weithie bydde gadael fynd o’r llais yna yn fy mhen yn teimlo fel cael gwared ffrind, achos wedd e’n llais cyfarwydd… Wrth amgylchynu fy hun gyda ffrindie cefnogol, gadael ysgol, a tyfu fel person, rwy’n caru fy mhynciau eto, mae cerddoriaeth a chanu yn rhan allweddol o fy mywyd, ac yn bennaf rwyf wedi dod i ddeall fy mod i YN ddigon da, os yw’r diafol ar fy ysgwydd yn cytuno neu beidio. Mae hyn yn rhywbeth hir dymor, ond rwy’n ddigon gryf i allu delio ag e nawr.
Pan mae’ch bywyd yn dibynnu arno, chi llawer cryfach na be chi’n meddwl.
Cerian x