Dychwelyd i’r Gwaith

Dychwelyd i’r gwaith yn dilyn salwch meddwl

Dwy flynedd yn ôl, yn syth ar ôl i mi raddio o’r brifysgol, dechreuais fy swydd ‘go iawn’ gyntaf. Doedd dim byd o’i le ar yr arwyneb, ac am yr wythnosau cyntaf, roeddwn i’n hapus fy myd yn mynd i’r gwaith ar y daith fer o’m fflat newydd i ganol y ddinas. Dwi wedi byw â phyliau o banig ers wyth mlynedd bellach, ond doedden nhw erioed wedi effeithio ar fy mywyd gwaith tan ychydig o wythnosau ar ôl i mi ddechrau’r swydd honno. Cefais bwl o banig gwael iawn ar y trên ar y ffordd i’r gwaith, ac fe achosodd hyn i mi fod yn hwyr, a minnau’n teimlo mwy a mwy o orbryder y mwyaf hwyr yr oeddwn i. Dwi’n cofio dod oddi ar y trên, o hyd mewn cyflwr bregus, a jyst yn rhewi yn y fan a’r lle, yn ansicr a oeddwn i hyd yn oed yn mynd i allu cyrraedd y swyddfa. Roedd yn gylch cythreulig o banig a phoeni ‘mod i’n mynd i ymddangos yn annibynadwy i’m cyflogwyr newydd. O’r diwrnod hwnnw ymlaen, dechreuodd y trên fod yn rywbeth oeddwn i’n ofni i raddau, er mai dim ond pedair munud oedd y daith. Roedd ‘na rhywbeth yn fy mhen i’n dweud trên = panig. A doedd dim byd oeddwn i’n rhoi cynnig arni’n gweithio. Ymarferion anadlu, dulliau tynnu sylw fel gwrando ar bodcast neu gerddoriaeth, dulliau daearu. Doedd dim byd hyd yn oed yn crafu’r wyneb.

Ar ôl tua chwe mis o hyn, a minnau wirioneddol yn gorfod llusgo fy hun i’r gwaith bob dydd, digon oedd digon. Cefais nodyn salwch am wythnos, ac es i adre i aros gyda fy nheulu am ychydig, yn y gobaith y byddai seibiant yn gwneud lles. Ond a dweud y gwir, roedd dychwelyd ar ôl cyfnod byr i ffwrdd yn anodd iawn, a gyda fy iechyd meddwl yn gwaethygu bob dydd, penderfynwyd y byddai angen cyfnod hirach i ffwrdd o’r gwaith arna i. Roedd hi’n anodd derbyn hyn i ddechrau. Roeddwn i’n mwynhau’r swydd, roeddwn i’n gallu gwneud y swydd ac roedd fy nghyd-weithwyr yn hyfryd. Felly pam oeddwn i mor isel?

Daeth y mis cychwynnol i ffwrdd yn ddeufis, ac yna rhywsut, chwe mis.

Yn y pen draw, roeddwn i i ffwrdd am dros flwyddyn. Bu’n rhaid i mi ymddiswyddo o’r swydd honno yn y diwedd. Roedd hi’n drueni mawr gorfod cyfaddef na fyddwn i’n gallu dychwelyd, ond dwi’n gallu gweld nawr mai hyn oedd y peth mwyaf teg i mi a fy nghyflogwr. Roedd y pwysau o orfod anfon y nodyn salwch bob mis a’r teimlad o fod yn boen i’r cwmni ond yn cyfrannu at fy nheimladau o gywilydd ac iselder. Roedd yn golygu y byddwn i’n gorfod symud o fy fflat fy hun yn ôl i dŷ fy rhieni, ond roedd hyn hefyd yn gyfle i ganolbwyntio’n hollol ar wella, i ymrwymo i therapi’n llwyr am y tro cyntaf yn fy mywyd. Dwi’n ymwybodol o’r fraint oedd gen i i allu dibynnu ar fy nheulu pan leihaodd fy nghyflog yn sylweddol. Nid pob un fyddai’r un mor ffodus.

Doedd pethau ddim wedi gwella’n wyrthiol dros nos.

A dweud y gwir, roedd pethau hyd yn oed yn waeth am ychydig. Doedd gen i ddim trefn feunyddiol mwyach, roedd y rhan fwyaf o fy ffrindiau yn byw’n bell ac i fod yn onest, roeddwn i’n teimlo’n fethiant. Dim ond ar ôl misoedd o therapi dwys ydw i wedi dechrau teimlo’n well. Erbyn hyn, mae gen i swydd newydd, rhywbeth doeddwn i ddim yn rhagweld gallu gwneud pan oeddwn i ar fy isa’. Er bod y swydd yn debyg iawn i’r hyn oeddwn i’n ei wneud o’r blaen, dwi llawer yn hapusach yn fy hun, ac mae hyn yn trosglwyddo i fy mywyd gwaith. Dwi wedi cyrraedd pwynt lle dwi eisiau gweithio, ac ar ddiwedd y dydd mae gen i deimlad o foddhad a phwrpas. Nid yw hyn i ddweud mod i’n iawn 100% o’r amser. Dwi o hyd yn cael pyliau o banig weithiau, ond dydyn nhw ddim yn effeithio arna i gymaint ag o’r blaen. Dwi’n gallu adnabod beth ydyn nhw, a dweud wrth fy hun nad ydynt yn niweidiol, a byddant bob amser yn dod i ben.

Os oes rhywun arall mewn sefyllfa debyg ac yn poeni am effaith eu hiechyd meddwl ar eu gyrfa, byddwn i’n awgrymu trafod â’ch meddyg teulu i ddechrau, a fydd yn gallu eich cyfeirio at therapi neu feddyginiaeth, neu rhoi nodyn salwch i chi pe bai angen. Dwi’n gwybod nawr nad oes cywilydd mewn hynny. Mae salwch meddwl yr un mor ddilys a difrifol â salwch corfforol, a dylid eu trin yn yr un modd. Pan fyddwch chi’n barod i fynd yn ôl i’r gwaith, byddwch mwy na thebyg yn cael cynnig dychwelyd yn raddol, a fel arfer, gallwch wneud hyn yn y ffordd sydd fwyaf cyfforddus i chi. Mae’n bosib bod gan eich cwmni adran Adnoddau Dynol sy’n gallu asesu unrhyw anghenion a fydd yn gwneud y broses yn haws i chi. Byddwn i hefyd yn gofyn i bawb, yn gyffredinol, i ddechrau siarad â’ch cyd-weithwyr am iechyd meddwl. Mae ‘na gyrsiau cymorth cyntaf iechyd meddwl ar gael i fusnesau ac unigolion, neu gall fod mor syml â gwahodd rhywun am beint ar ôl gwaith, neu jyst ofyn ‘Sut wyt ti?’.

Y peth mwyaf dwi wedi ei ddysgu am ddychwelyd i’r gwaith ar ôl salwch meddwl yw nad oes ‘ar ôl’ wirioneddol yn bodoli.

Dwi’n gwybod ei fod yn debygol y bydda i’n byw â fy salwch ar ryw lefel am weddill fy oes, ond mae gen i’r adnoddau i allu rheoli’r symptomau fel nad ydynt yn rym llethol ar fy mywyd eto.

Di-enw