Clywed Lleisiau: Beth sydd o gymorth?

Ymwadiad: Mae gwrthiselyddion yn driniaeth gyffredin ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl, ac mae’n bwysig iawn trafod hyn gyda’r meddyg ac i beidio â stopio cymryd tabledi eich hunain.

Mae’n siŵr eich bod wedi clywed am rai sy’n clywed lleisiau nad oes neb arall yn eu clywed neu gweld pethau sy’n anweledig i bawb arall neu, hyd yn oed, teimlo cyffyrddiad pan nad oes neb yn bresennol. Beth yw eich barn am hyn tybed? Eu bod yn bobl sy’n dioddef o gyflyrau dwys? Nad ydyn nhw o’ch cwmpas chi ac nad ydych yn adnabod neb sy’n dioddef fel yna?

Efallai y cawn ni i gyd sioc o ddeall peth mor gyffredin ydi ‘lleisiau’ fel hyn. Ac ar ben hynny, nad ydi hyn yn gyfyngedig i rai sy’n byw â phroblemau iechyd meddwl yn unig. Mae’n brofiad eithaf cyffredin ond, er hynny, yn brofiad cyfrinachol iawn. Pam hynny tybed? A ydym ni, nad ydym yn clywed lleisiau fel hyn, yn ofnus o unrhyw un sy’n ddigon dewr i gamu ‘mlaen a dweud yn onest am eu profiad? Mae’n amser i ni fod yn agored a derbyn ein bod, fel unigolion, yn wahanol i’n gilydd. Mae’n bryd hefyd i ni groesawu unrhyw un sy’n fodlon rhannu eu profiad a derbyn yr hyn a ddywedant fel ffaith. Ydych chi’n cofio’ch ffrind dychmygol pan oeddech yn blentyn ifanc? Mi fydde hwnnw’n cael eich sylw ac yn ennyn sgwrs hirfaith ar brydiau. Beth sy’n digwydd i chi mewn hunllef ganol nos? Oni fyddwch yn gwrando ar leisiau adeg hynny ac yn ymateb gyda geiriau, sy’n dawel yn eich meddwl gan amlaf, ond sydd dro arall i’w glywed gan eraill o’ch cwmpas? Fe dderbyniwn y ffrind dychmygol a’r cnaf mewn hunllef …….pam bod oedolyn effro sy’n clywed lleisiau yn ein dychryn gymaint tybed? Beth allwn ni ei wneud i fod yn fwy derbyniol o’r sefyllfa?

Hearing Voices Network Cymru

Fel mam i fab sydd bellach yn clywed lleisiau na all neb arall eu clywed, hoffwn fod wedi clywed am Hearing Voices Network, a’u cangen yng Nghymru, tua pymtheg mlynedd yn ôl.

Os edrychwch ar y darn ‘Gwrthiselyddion’ a bostiwyd rhai misoedd yn ôl, fe welwch bod y mab (sy’n oedolyn nid plentyn gyda llaw) wedi cael ymateb drwg i’w feddyginiaeth a bod hynny wedi’i adael yn clywed lleisiau. Nid lleisiau caredig ydynt o bell fordd – mae eu negeseuon wedi ei boeni’n arw dros y blynyddoedd.

I geisio gwella’r sefyllfa, byddai’r seiciatrydd naill ai’n codi cryfder neu newid ei feddyginiaeth. Byddai hynny’n esmwytho pethau am ychydig fisoedd, ac yna byddai’r un sefyllfa’n codi eto. Allai’r seiciatrydd ddim deall pam na fyddai’r meddyginiaethau cryf yn gweithio’n hwy na dros dro. Byddwn innau’n dweud fod posiblrwydd bod y ffaith bod y broblem wedi codi o ganlyniad i’r gwrthiselydd yn golygu na weithiai unrhyw gyffur cryf iddo fo fel y disgwylid iddynt weithio’n gyffredinol.

Aeth hyn ymlaen am bron i dair mlynedd ar ddeg – ac yntau’n dioddef o fod yn hollol ddiegni ayyb – a dim byd yn newid yn y sefyllfa o gwbl. Ni allai ddal pwysau cwrs coleg na gwaith o unrhyw fath. Ni fyddai’n cymysgu efo fawr neb – bod yr oedd o ac nid byw.

Cefais lond bol ar y sefyllfa – ac ar y diffyg gwrandawiad gan y seiciatryddion ac fe anfonais ebost at yr arbenigwr a wnaeth asesiad o’r sefyllfa pan fu’r niwed gwreiddiol oddi ar y gwrthiselydd. Gofynnodd ef os hoffai fy mab apwyntiad efo fo – ac, os felly, a fyddwn i’n anfon crynodeb o’r blynyddoedd aeth heibio ers iddo’i weld o’r blaen. Felly y bu.

Geiriau cyntaf, bron, y seiciatrydd arbenigol yma oedd, “A glywsoch chi am grwpiau Clywed Lleisiau Cymru?”Ein hymateb, wrthgwrs, oedd “Na”. Eglurodd y syniad tu ôl i’r rhwydwaith arbennig yma, sef bod rhaid derbyn y lleisiau – yn hytrach na chwffio’n eu herbyn. Eu bod yn eiddo i’r unigolyn ac i’w parchu gan bawb sy’n cydweithio â nhw. Dylai’r unigolyn roi cyfle i’r lleisiau siarad ond gellir delio efo pethau fel nad ydynt yn cael y llaw uchaf mewn unrhyw sefyllfa.

Nid y rheiny sy’n byw efo salwch meddwl sydd, o anghenraid, yn clywed lleisiau er y gwyddom y gall hyn fod yn rhan o ambell salwch.  Ymateb yr unigolyn i drawma rywdro yn eu bywyd ydynt yn aml iawn. Yn aml, hefyd, bydd rhithweledigaethau o wahanol fathau yn ogystal â’r lleisiau.

Eglurodd y seiciatrydd arbenigol y teimlai y byddai dod o hyd i grŵp fel hyn yn llesol i’r sefyllfa. Ar ein ffordd adref o’r apwyntiad bu’r mab yn chwilota am grŵp. Daeth o hyd i restr ohonynt yn ein rhan ni o Ogledd Cymru – ym Mangor, Llandudno, Wyddgrug, Wrecsam….. roedd y rhestr yn ddi-ddiwedd. Fodd bynnag, o edrych ymhellach, gwelsom mai’r unig un oedd yn dal i gyfarfod oedd grŵp Wrecsam.

Cysylltodd gydag arweinydd y grŵp a cafodd ymuno â’u cyfarfod nesaf nhw – i weld a fyddai’n teimlo y byddai o les iddo. O’r cyfarfod cyntaf hwnnw, mae’r gwahaniaeth yn anhygoel. Bellach, mae’n mynychu bob cyfarfod – sef dwy awr pob pythefnos. Nifer fach ohonynt sydd yno ond maent wedi dod yn ffrindiau da a bellach yn adnabod ei gilydd yn ddigon da i allu trafod pob dim am eu lleisiau a’u bywydau’n gyffredinol. Mae dros ddwy flynedd bellach ers y cyfarfod cyntaf hwnnw.

Rhyw fis yn ôl, cefais y fraint o fod yn bresennol yn yr ystafell gyfarfod i weld yn union sut oedd rhedeg cyfarfod fel hyn. Dyma’r cyfarfod fwyaf bendigedig i mi fod ynddo erioed! Doedd dim pwysau ar neb i gymryd rhan, doedd dim math o bwysau ar unrhyw unigolyn i stopio siarad chwaith. Yr unig dro y byddai’r ddau gefnogwr yn siarad fyddai pe bai angen eu barn ar unrhyw beth oedd yn cael ei drafod. Aeth y ddwy awr fel petaent yn ddim ond hanner awr a gadawais yr ystafell wedi ymlacio’n llwyr. Bendigedig!

Oes digon o ymwybyddiaeth o grwpiau o’r fath?

Y cwestiwn sy’n peri’r poen mwyaf i mi ydi hyn :- o weld mor llesol ydi’r cyfarfodydd yma i’r rhai sy’n mynychu, pam ar wyneb y ddaear na fyddai’r seiciatryddion hynny, flynyddoedd yn ôl, a oedd mewn penbleth am ei gyflwr, wedi cynnig y syniad o fynychu grŵp?  Ar ben hynny, o wybod bod mwy a mwy o ddioddefwyr o’n cwmpas o flwyddyn i flwyddyn, am ba reswm yn y byd y diflanodd yr holl grwpiau eraill yn ein rhan ni o Ogledd Cymru?

Grwpiau wedi’u creu gan ddioddefwyr ar gyfer cyd-ddioddefwyr ydynt wrth gwrs – nid rhai wedi’u creu gan unrhyw ran o Fwrdd Iechyd. Gall unrhyw rai greu grŵp a bydd help llaw agored ar gael iddynt gan Hearing Voices Network Cymru a’r arweinydd Hywel Davies (sy’n Gymro Cymraeg ei iaith ac yn un sy’n clywed lleisiau). Beth am geisio sefydlu grŵp o Gymry i drafod drwy eu mamiaith?

Yr hyn a ddywed fy mab am y sefyllfa fel mae pethau’n awr, ydi bod y lleisiau i gyd yn dal yno ond ei fod yn awr yn deall y sefyllfa ac oherwydd hynny bod yr ofn wedi diflannu.

Ni wyddom a fydd y lleisiau efo fo am byth ai peidio. Yn ei asesiad cyntaf, dywedodd y seiciatrydd arbenigol bod posibilrwydd cryf y byddent yn parhau. Erbyn hyn, mae hefyd yn dweud bod yr holl gyffuriau cryf a gafodd dros y blynyddoedd wedi chwarae rhan ym mhatrwm y rhithweledigaethau a’r lleisiau. Mewn geiriau eraill, bod y feddyginiaeth a ddylai fod wedi helpu’r sefyllfa, mewn gwirionedd wedi’i gwaethygu .

Hoffwn weld y grŵp yma’n cryfhau mewn nifer ac hefyd llawer o’r hen grwpiau’n ail-afael. Yn yr Iseldiroedd mae gwreiddiau’r syniad – syniad syml iawn ac un hollol di-gost i’r Bwrdd Iechyd. Yn eithaf diweddar mae UD America wedi gafael yn y syniad hefyd. Fe wyddom am y problemau enfawr yno ym myd Iechyd Meddwl ac edrychai’n debyg eu bod hwythau hefyd yn elwa llawer o grwpiau o’r math yma. Cynhelir cynhadledd fyd-eang yn flynyddol yn enw Hearing Voices Network – ac mae croeso mawr i unrhyw un o gangen Cymru hoffai fod yn bresennol hyd y gwn i.

Mary