Arlunio Profiadau o Salwch Deubegwn
Mae fy ngwaith celf yn ymateb i fy ngwaith ymchwil, sydd yn ystyried ymagweddau at salwch deubegwn, ynghyd â fy mhrofiadau personol o’r salwch yma ers plentyndod.
Wrth ymchwilio hanes y salwch trwy waith archifol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a hefyd profiadau presennol, rydw i’n gobeithio creu cyfle i ystyried sut mae categorïau diagnosis, triniaethau ac ymagweddau wedi datblygu er mwyn meddwl am stigma modern tuag at salwch meddwl.
Er mwyn ystyried ymagweddiadau, mae’r gwaith yn edrych tu fewn a thu fas i ardaloedd ysbyty i feddwl am y gwahanol ardaloedd a ffurfiau o driniaeth. Fel canlyniad, mae’r gwaith gwastad yn archwilio gwahanol leoliadau: yn meddwl am tu fewn/tu fas, rhwystrad/rhyddid. Ond, gyda lockdown, mae meddwl am leoliadau wedi dod yn rhan o bob agwedd o fywyd, ac felly roeddwn i eisiau meddwl trwy’r ffyrdd mae fy mhrofiadau o salwch deubegwn yn effeithio fy mherthynas tuag at wahanol lefydd.
Wnes i greu’r darn yma yn ystod y lockdown. Ei henw yw ‘Ffigur 1: Crëyr, Blodion Afal, Firions’.
Roeddwn i’n cofio am yr amserau pryd mae fy symptomau wedi cadw fi tu fewn, yn creu rhwystrad trwy gyfnodau o rithwelediadau a rhithdybiau. Ond, yn ychwanegol i rwystrad tu fewn i ystafell neu adeilad, y ffordd mae’r profiadau yn effeithio fy mhersbectif o’r tu fewn a’r tu fas o fy nghorff, fy nghib.
Mae fy symptomau wedi perswadio fi am gyfnodau i gredu bod fy nghorff yn dirywio, a chreu ofn o symud o un ardal, neu o fod yng nghwmni unrhyw un rhag ofn eu bod nhw’n sylweddoli. Yn ystod yr adegau yma rydw i’n edrych am ddiddanwch yn rhyddhad a bywyd a chyrff gwahanol y byd natur, fel y crëyr gallai weld ambell waith trwy’r ffenestr. Rhaid edrych yn ofalus am ei fod yn sefyll yn llonydd, yn heddychlon, ac yn ystod tryblith fy meddwl a fy nghorff, mae yna gysur i edrych allan at le cuddio’r crëyr ymhlith dail.
Yn dilyn ar draddodiad darluniau meddygol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae’r darlun yma yn chwarae gyda llefydd tu fewn a thu fas. Roedd ffigurau fel Charles Bell, ag oedd yn feddyg ac yn artist, yn creu darluniau ag oedd yn archwilio ac agored yr haenau tu fewn i’r corff. Mae’r darlun yma yn ceisio dadymchwel y traddodiad yma, trwy gymysgu a chwarae gyda’r llinell rhwng tu fewn a thu fas, rhwng strwythurau mewnol y corff a strwythurau allanol y byd natur. Rydw i wedi ffeindio cysur yn ystod yr amser yma yn yr ardd, yn enwedig y goeden afal newydd sy’n dechrau tyfu, ond hefyd yn atgofio’r ofn o ddirywiad fy nghorff trwy gyfnodau rhithwelediadau a rhithdybiau, ac ofn o’r salwch rydyn ni i gyd nawr yn wynebu – roeddwn i eisiau ystyried sut mae’r rhain yn ymateb at ei gilydd yn fy meddwl, a sut allai eu harlunio.
Cerys Knighton