Byddwch yn Garedig
Mae un peth yn sicr, mae pandemig Covid-19 wedi bwrw’r diwydiannau creadigol yn galed. Dros nos cafodd y swîts “off” ei bwyso ar ddarnau enfawr o ddiwydiannau Ffilm a Theledu yng Nghymru a chaeodd drysau ein theatrau a gofodau perfformio. Eleni bydd dim gwyliau lle geith amryw berfformwyr lwyfan i rannu eu doniau.
Mae bod yn greadigol yn eich gwneud yn fwy debygol o ddioddef o anhwylder hwyliau – mae hyn yn ôl ymchwil trwyadl gan Christa Taylor o Brifysgol Albany State.
Dwi’n licio meddwl fy mod i’n berson creadigol, dwi di actio ar deledu, perfformio stand up, sgwennu comedi a dwi’n ceisio meddwl am syniadau doniol pob dydd er mwyn dod â ychydig o “folycs” i’r cyfryngau cymdeithasol Cymraeg.
Mae bod yn greadigol a doniol yn ddigon o her ar ddiwrnod arferol, wel triwch bod yn greadigol a doniol mis fewn i bandemig gall eich lladd chi yn ôl y llythyr mae’r Prif Swyddog Meddygol dros Gymru wedi danfon i chi. Llythyr sy’n eich ymgynghori i beidio crwydro o’r tŷ am 12 wythnos ac ymbellhau o’ch teulu. Pan mae eich cytundeb presennol yn cael ei ganslo a’ch joban nesa yn diflannu diolch i wyliau di-ri yn cael eu canslo. Ychwanegwch y ffaith fod cryn dipyn o bobol o’r sector wedi syrthio trwy dwll yn rhwyd diogelwch cefnogaeth ariannol y llywodraeth a mae eich cais am budd-dal cyffredinol yn cael ei wrthod yn dilyn treulio dyddiau yn cwblhau’r cais…
Gall unrhyw un o rhain gael effaith ar rywun bregus, ond gyda’i gilydd mae’r effaith yn cael ei luosi can gwaith.
Mewn ymateb i’r argyfwng mae cyrff cyhoeddus wedi creu cronfeydd argyfwng, rowndiau comisiynu brys – llygedyn o olau yng nghanol storm.
Y broblem gyda hyn mae’n creu broses gystadleuol, rhwng griw o bobol sy’n despryt am unrhyw tamaid o newyddion da. Checio e-byst deg gwaith pob awr i weld os yw’r golau gwyrdd hir ddisgwyledig wedi ei tanio…
Felly dychmygwch yr effaith ar ben bore Llun ar ddechrau wythnos arall o gadw pen allan o’r dŵr yr e-bost gyntaf i gyrraedd drwy’r blwch post rhithiol ond neges sy’n ymateb i gais….
“……bla bla bla…..bla bla… bla bla bla….Mae’n ddrwg gen i felly eich hysbysu nad ydym am ddatblygu “eich syniad” ymhellach – ond yn gwerthfawrogi’n fawr eich cynnig”
Dim eisin ar y gacen, gwerthfawrogiad, diolch yn fawr…. Thancs y bynsh.
Dwi’n siŵr doedd dim bwriad penodol yn yr amseru na malais ‘sa neges o’i fath yn cael effaith negyddol ar rhywun sy’n trio’i orau i dal dau ben llinyn ynghyd.
Ond plîs rhowch ystyriaeth i sut a phryd ‘da chi’n cyfathrebu newydd fel hyn? Da ni ddim fel chi yn derbyn siec ar ddiwedd pob mis…..
Byddwch yn garedig.
Huw Marshall