Rhoi’r gorau i yfed alcohol

Newydd wylio rhaglen Ffion Dafis, DRYCH: Un Bach Arall?’, a dyma’n hanes i o pam dydw i ddim yn yfed alcohol…

Mae wedi cymryd 24 blynedd o iselder a gorbryder i fi rhoi’r gorau i yfed alcohol yn gyfangwbwl. Am byth. Gobeithio.

Dwi wedi gwybod ers blynyddoedd fydde i’n well off petaen i ddim yn yfed ond o’n i ddim yn meddwl bydden i’n gallu gwneud e. A mae hwnna gan berson sydd ddim â phroblem gydag alcohol o gwbwl.  Dwi wedi yfed gormod ar adegau yn ystod fy mywyd, yn enwedig pan yn ifancach, ond byth wedi defnyddio alcohol fel ffordd o ddianc rhag fy mhroblemau iechyd meddwl, diolch byth. (Dwi’n credu bod hwnna’n genetig gyda llaw, dim achos bod fi’n gryf neu gyda ‘will-power’, s’dim byth wedi bod ynddo fi i ddefnyddio alcohol yn y ffordd yna). Ar adegau pan dwi wedi bod yn sâl iawn yn y gorffennol, dwi wedi stopio yfed am ychydig ond wastad yn gwybod bydden i’n dechrau nôl ar ôl gwella achos mae’n rhan normal o fywyd – mae pobl yn disgwyl e.

Ond dwi wedi darganfod bod peidio yfed alcohol yn rhyddhad mawr. Dwi’n rhydd nawr. Mae’n symleiddio pethau. Ac yn hytrach na gwneud fy mywyd yn llai hwyl, mewn ffordd od, mae’n gwneud e’n fwy o hwyl. A dwi’n teimlo’n fwy diogel, yn gallu trystio bod fy nheimladau yn rhai go iawn. Os dwi’n teimlo’n dost, dwi’n gwybod bod fi’n dost go iawn a bod angen i fi edrych am help.

Wnes i weithio allan yn gyflym iawn bod yfed alcohol yn gwneud fy ngorbryder yn waeth. Fel person ifanc yn mynd allan yn y Brifysgol gyda ffrindiau, o’n i’n gorfod gwynebu colli diwrnod ar ôl pob noson allan. Y diwrnod ar ôl yfed o’n i’n teimlo bod fi’n mynd i farw, o’n i’n cael ‘panic attacks’ a ddim yn gallu gadael y ty.

Erbyn hyn dwi’n 42, mae gen i 3 o blant a dyw mynd allan i yfed ddim yn rhan mawr o fy mywyd bellach. Dwi wedi rhoi’r gorau i yfed ers 8 mis. O’n i’n pryderu sut fydden i’n mwynhau y Nadolig heb alcohol, y partion gyda’r plant yn chwarae lan lloft a’r oedolion yn yfed yn y gegin. Ond wnes i fwynhau y sgyrsiau, a’r bwyd! Ac y bore ar ôl o’n i’n teimlo’n ffantastig, ac yn lot fwy tebygol o wneud ymarfer corff (sydd hefyd yn rhywbeth dwi’n defnyddio i reoli fy iechyd meddwl).

Erbyn y diwedd, ac achos fy mod i’n hŷn, roedd hyd yn oed 1 gwydriad o wîn yn gwneud i fi deimlo’n ych-a-fi y diwrnod ar ôl. A mae tamaid bach o ych-a-fi yn gallu bod yn trigger i fi. Os oes ffordd i fi osgol tamaid bach o ych-a-fi, a finnau wedi teimlo mor isel yn y gorffennol, mae’n rhaid i fi gymryd e. A dwi wedi bod yn ddigon dewr i wneud e o’r diwedd.

Mae alcohol yn rhan enfawr o broblemau iechyd meddwl, yn achosi nhw, yn gwaethygu nhw. A mae bod yn rhydd o hwnna’n beth arbennig iawn i fi. Hyd yn oed pan dwi mewn parti Nadolig gwaith a mae rhywun yn dweud wrtho fi ‘for goodness sake put a gin in that tonic.’ Yn amlwg does gennyn nhw ddim clem….

Di-enw