Ar fin y Nadolig

Mae’r byd yn troi yn gynt bob dydd,

A’r Nadolig yn nesáu.

Pawb yn rhuthro efo’u siopa,

Heb amser i stopio na llonyddhau.

 

Mae’r goleuadau’n disgleirio,

Ond gall dy ben teimlo’n drwm,

A’r sŵn yn gallu bod gormod,

fel pwysau mawr llwm.

 

Ond yng nghanol yr holl stŵr,

A’r rhedeg yma a thraw,

Cofia gymryd munud bach,

A gafael yn dy law.

 

Nid y droli orlawn,

Na’r pres sydd yn y banc,

Yw’r pethau sy’n bwysig

I gadw chdi ar drac.

 

Edrycha am y pethau bychain,

sy’n cuddio yn y ‘sgwennu,

Fel pelydr haul y gaeaf

Sy’n tywynnu drwy’r llenni.

 

Neu’r teimlad pan ddywed rhywun

“Ma’n braf iawn dy weld di,”

Neu neges fach yn gofyn:

“Iawn boi, sut wyt ti?”

 

Dyma’r eiliadau gwirioneddol,

Y sêr yn y nos dywyll,

Sy’n werth mwy na’r holl anrhegion,

Y papur, a’r holl gannwyll.

 

Felly paid â rhoi’r bai arnat ti dy hun

os yw pethau’n teimlo’n dynn,

Mae gwneud dim byd am sbel,

yn iawn – cofia hyn!

 

Felly anadla’n ddwfn,

gad i’r ysgwyddau ddisgyn i lawr,

Does dim rhaid i ti fod yn berffaith,

na gwisgo gwên bob awr.

 

A chofia bob eiliad,

dan olau’r seren un:

Gofalu am dy iechyd meddwl y Nadolig hwn,

Yw’r anrheg bwysicaf nei di rhoi i dy hun.